Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyrraedd carreg filltir allweddol
Mae Llywodraeth y DU wedi llofnodi Penawdau鈥檙 Telerau'r Fargen Twf.

Simon Hart and David TC Davies signed the Heads of Terms with other partners
Cyrhaeddodd Bargen Twf Canolbarth Cymru garreg filltir bwysig heddiw [dydd Mawrth, 22 Rhagfyr] wrth i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth lofnodi Penawdau鈥檙 Telerau.
Mae鈥檙 llofnodi yma yn tystio i ymrwymiad y llywodraethau a鈥檙 awdurdodau lleol i gydweithio er mwyn darparu bargen i gefnogi economi鈥檙 rhanbarth.
Mae hefyd yn ymrwymo Llywodraethau Cymru a鈥檙 DU i gefnogi鈥檙 fargen twf gyda buddsoddiad o 拢55m yr un, sef cyfanswm o 拢110 miliwn.
Gall y rhanbarth bellach symud ymlaen i鈥檙 cam nesaf sy鈥檔 cynnwys cyflwyno cynigion manylach ar ffurf Achos Busnes Portffolio a fydd yn cynnwys wyth maes blaenoriaeth ar gyfer ymyrryd, gan gynnwys cysylltedd digidol, ymchwil gymhwysol ac arloesedd, ynni, sgiliau a chyflogaeth, cymorth busnes, trafnidiaeth, amaethyddiaeth, gan gynnwys bwyd a diod a hunaniaeth dwristiaeth gryfach.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Mae Llywodraeth y DU yn anelu at ddod 芒 mwy o fuddsoddiad a thwf i gymunedau ledled Cymru ac mae鈥檙 llofnodi heddiw yn cynrychioli cynnydd gwirioneddol o ran cyflawni鈥檙 nodau hynny.
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn gyfle sylweddol i drawsnewid y rhanbarth. Byddwn yn adeiladu鈥檔 么l yn well o鈥檙 pandemig ac yn dod 芒 chyfleoedd a swyddi i鈥檔 cymunedau a dyna pam rydym eisoes wedi ymrwymo 拢55m i鈥檙 portffolio cyffrous hwn o fuddsoddiad.
Byddwn yn parhau i weithio gyda鈥檔 partneriaid i ddatblygu鈥檙 fargen twf a sicrhau ei bod yn cyflawni ar gyfer pobl a busnesau Canolbarth Cymru.
DIWEDD