Neges Dydd G诺yl Dewi Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn nodi Dydd G诺yl Dewi yn ei neges gyntaf.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies yn dathlu Cymru ac yn edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous i ddod yn ei neges Dydd G诺yl Dewi cyntaf ers cael ei benodi鈥檔 Ysgrifennydd Cymru.
Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae鈥檔 bleser gen i heddiw gyhoeddi fy nghyfarchion Dydd G诺yl Dewi am y tro cyntaf a hoffwn ddymuno鈥檙 gorau i bawb sy鈥檔 dathlu ein diwrnod cenedlaethol yng Nghymru a ledled y byd.
Mae鈥檙 dyfodol yn edrych yn ddisglair i鈥檔 cenedl er gwaethaf yr heriau sy鈥檔 ein hwynebu ni i gyd. Mae鈥檙 rhyfel yn Wcr谩in wedi golygu costau ynni uchel, gan wneud bywyd yn anodd i lawer. Ond mae hefyd wedi dod 芒鈥檙 gorau o鈥檙 ysbryd cymunedol y mae Cymru mor enwog amdano. Mae cymaint o bobl wedi croesawu pobl o Wcr谩in i鈥檞 cartrefi, gan ddarparu noddfa iddyn nhw a chynnig cartref i鈥檙 rhai sydd mewn angen dwys.
A鈥檙 un ysbryd cymunedol, ynghyd 芒 gwaith caled a phenderfyniad, sy鈥檔 ein helpu i ddod dros y pandemig Covid ac adeiladu dyfodol llewyrchus i Gymru.
Mae Llywodraeth y DU yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gyflawni dros bobl Cymru. Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi鈥檙 cais llwyddiannus ar gyfer y Porthladd Rhydd cyntaf yng Nghymru, a fydd yn creu swyddi ac yn sbarduno twf a ffyniant. Ac yn gynharach eleni fe wnaethom gyhoeddi 拢208 miliwn ar gyfer un ar ddeg arall o brosiectau Codi鈥檙 Gwastad mawr ledled Cymru, gan ychwanegu at y 拢160m a neilltuwyd yn flaenorol i fwy na 170 o brosiectau codi鈥檙 gwastad yng Nghymru a thua 拢790 miliwn i ddatblygu bargeinion twf ar gyfer pob rhan o鈥檙 wlad.
Mae gan Gymru ran hynod bwysig i鈥檞 chwarae mewn technoleg werdd yn y dyfodol, gyda鈥檙 potensial enfawr ar gyfer ynni gwynt ar y m么r oddi ar yr arfordir yn y M么r Celtaidd, ynni morol, datgarboneiddio niwclear a diwydiannol.
Mae gennym ni鈥檙 clwstwr lled-ddargludydd cyfansawdd cyntaf yn y byd yn Ne Cymru, wedi鈥檌 gefnogi gan fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU, a diwydiannau cynhyrchu cyfryngau a thechnoleg ariannol sy鈥檔 tyfu鈥檔 gyflym. Ac mae ein sector bwyd a diod enwog yn parhau i ffynnu.
Ac wrth gwrs mae gennym ni gefn gwlad bendigedig, arfordir hardd a dinasoedd a threfi bywiog sy鈥檔 gwneud Cymru yn gyrchfan mor ddeniadol i dwristiaid.
Ond dim ond oherwydd y bobl sy鈥檔 cyfrannu eu hegni a鈥檜 hangerdd at wneud ein cymunedau yn lleoedd gwych i fyw ynddynt y mae鈥檙 dyfodol cyffrous hwn i Gymru yn bosibl. Dydd Gwyl Dewi hapus i chi gyd.