Gweinidog yn Swyddfa Cymru yn dathlu llwyddiant twristiaeth a lletygarwch Cymru gyda chwrw gwobredig o Gymru
Arglwydd Bourne: "Mae gan dwristiaeth a lletygarwch r么l bwysig i'w chwarae o ran sicrhau twf economaidd i Gymru a'r Deyrnas Unedig"

Heddiw, (26 Awst) bydd yr Arglwydd Bourne, sy鈥檔 Weinidog yn Swyddfa Cymru, yn codi llwncdestun i lwyddiant twristiaeth a lletygarwch Cymru drwy ymweld 芒 chwmni bragu鈥檙 Tiny Rebel Brewing Company.
Bydd y Gweinidog yn cael ei dywys o gwmpas y bragdy yng Nghasnewydd i ddysgu mwy am y diwydiant cwrw crefft a chwrw go iawn ffyniannus yng Nghymru a blasu鈥檙 cwrw 鈥楥wtch鈥� enwog - enillydd Cwrw Gorau Prydain y Flwyddyn yng Ng诺yl Gwrw Prydain Fawr.
Dywedodd yr Arglwydd Bourne, sy鈥檔 weinidog yn Swyddfa Cymru:
Mae鈥檔 wych ymweld 芒 Tiny Rebel Brewing Company i roi cynnig ar y cwrw sydd nid yn unig yn rhoi鈥檙 bragdy lleol hwn ar y map, ond sydd hefyd yn llwyddiant cenedlaethol i Gymru - yn cynrychioli ansawdd ein sectorau twristiaeth a lletygarwch.
Mae gan dwristiaeth a lletygarwch r么l bwysig i鈥檞 chwarae o ran sicrhau twf economaidd i Gymru a鈥檙 Deyrnas Unedig.
Mae鈥檙 Llywodraeth wedi ymrwymo i hyrwyddo Cymru鈥檔 rhyngwladol ac rwy鈥檔 gobeithio y bydd pobl ledled Cymru yn gwneud yr un peth.
Fel rhan o ddiwrnod o ymweliadau i ddathlu twristiaeth a lletygarwch Cymru, bydd y Gweinidog hefyd yn ymweld ag Amgueddfa ac Oriel Casnewydd. Bydd yn gweld y casgliad Siartiaeth sy鈥檔 cynnwys eitemau arwyddocaol yn ymwneud 芒 mudiad y Siartwyr yng Nghasnewydd ac sy鈥檔 cynnwys delweddau, arfau, papurau newydd, arian a dogfennau o gyfnod gwrthryfel y Siartwyr ym 1839.
Fe fydd hefyd yn gweld yr arddangosfa 鈥楲luniadu ein Hamgueddfa a鈥檔 Horiel Gelf鈥�, sy鈥檔 cynnwys gwaith celf gan ddisgyblion o Ysgol Gynradd Glan Wysg, Casnewydd.
Mae Amgueddfa ac Oriel Casnewydd wedi bod yn casglu tystiolaeth o hanes a diwylliant cyfoethog Casnewydd er 1888, gydag arddangosfeydd yn amrywio o Gasnewydd a鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf i gasgliad Llong Ganoloesol.
Mae diwydiant twristiaeth Cymru yn cynhyrchu gwariant o 拢5 biliwn y flwyddyn - yn cyflogi dros 120,000 o bobl ac fe ddenodd 10 miliwn o dwristiaid i Brydain yn 2014. Fe wnaeth Uwchgynhadledd NATO ym Medi 2014 arddangos Casnewydd a Chymru鈥檔 gyffredinol i gynulleidfa fyd-eang - gan helpu i ddenu twristiaid o bob cwr o鈥檙 byd.
Ychwanegodd yr Arglwydd Bourne:
Mae Amgueddfa Casnewydd yn crynhoi rhai o eiliadau hanesyddol mwyaf arwyddocaol y ddinas.
Roedd yn wych cael cipolwg ar hanes y ddinas fywiog hon.