Datganiad i'r wasg

Arglwydd Bourne: 鈥淗yrwyddo twristiaeth yng Nghymru a datblygu ein heconomi.鈥�

Gweinidog Swyddfa Cymru yr Arglwydd Bourne i ymweld a Chastell Caerdydd a stadiwm SWALEC.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government
Cardiff Castle

Heddiw, bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne, yn dweud bod gan bawb yng Nghymru gyfrifoldeb i hyrwyddo鈥檙 wlad a chryfhau ein diwydiant twristiaeth sy鈥檔 datblygu.

Wrth siarad yn ystod ei ymweliad 芒 Chastell Caerdydd a stadiwm criced SWALEC, galwodd ar bobl ar hyd a lled y wlad i wneud eu rhan i hyrwyddo Cymru a rhoi hwb i economi Cymru.

Castell Caerdydd yw鈥檙 atyniad twristiaeth sy鈥檔 cael y nifer fwyaf o ymwelwyr yng Nghymru, a chynhelir un o gemau prawf Cyfres y Lludw yn stadiwm SWALEC eleni. Bydd yr Arglwydd Bourne yn ymweld 芒鈥檙 lleoliadau i weld sut maent yn paratoi ar gyfer y tymor twristiaeth prysur yr haf hwn.

Twristiaeth yw ail ddiwydiant mwyaf Cymru ac mae鈥檔 rhan hanfodol o economi Cymru. Roedd y ffigurau twristiaeth a gyhoeddwyd y mis hwn yn Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr yn cadarnhau bod Cymru wedi cael ei blwyddyn orau erioed. Roedd gwariant ar ymweliadau 芒 Chymru yn 2014 wedi cynyddu 2.3 y cant o gymharu 芒 2013. 拢1,735m, sef cyfanswm y gwariant yng Nghymru, yw鈥檙 uchaf a gofnodwyd ers dechrau cadw cofnodion yn 2006.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne:

Rwy鈥檔 falch iawn fod Castell Caerdydd a stadiwm SWALEC mor barod ar gyfer tymor prysur yr haf.

Mae twristiaeth yn rhan hanfodol o economi Cymru, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i helpu鈥檙 diwydiant i lwyddo. Mae datblygu diwydiant twristiaeth llwyddiannus yn helpu i ddenu buddsoddiad a chreu swyddi ar hyd a lled y wlad.

Mae pobl yn teithio o bob cwr o鈥檙 byd i ymweld 芒鈥檔 cestyll, cerdded ar hyd ein harfordir a mwynhau bwyd, diod a lletygarwch Cymru. Felly, rwyf am i bawb yng Nghymru ddilyn esiampl yr Arlywydd Obama ac annog pobl i ymweld 芒 Chymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Mai 2015