Arglwydd Bourne yn clodfori amgueddfeydd Cymru yn ystod ymweliad 芒'r Glannau
Lord Bourne: " Mae ein hamgueddfeydd yn gyfle unigryw i bobl ddysgu sut mae hanes cyfoethog a balch Cymru wedi siapio鈥檙 genedl yn y 21ain ganrif.鈥�

Ddoe (dydd Iau 19 Tachwedd) ymwelodd Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, yr Arglwydd Bourne ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau tra鈥檔 ymweld ag Abertawe.
Manteisiodd ar y cyfle i fwynhau taith fer drwy 15 oriel thematig yr Amgueddfa yn ogystal 芒鈥檙 arddangosfa newydd sbon, Cymru yn y Gofod sy鈥檔 cyflwyno rhai o鈥檙 offer pwysicaf a ddefnyddiwyd gan seryddwyr o Gymru dros y 400 mlynedd diwethaf, a鈥檜 r么l wrth i ni ymgeisio i feithrin dealltwriaeth well o鈥檙 bydysawd.
Wrth siarad am yr ymweliad dywedodd Steph Mastoris, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau:
Mae鈥檔 bleser cael croesawu鈥檙 Arglwydd Bourne i鈥檙 Amgueddfa heddiw. Roedd yn gyfle gwych i ddangos safon uchel ein rhaglenni addysg, arddangosfeydd a digwyddiadau sy鈥檔 annog ein hymwelwyr i ddychwelyd drosodd a thro.
Dywedodd Gweinidog y Swyddfa Gymreig, yr Arglwydd Bourne:
Mae ein hamgueddfeydd yn gyfle unigryw i bobl ddysgu sut mae hanes cyfoethog a balch Cymru wedi siapio鈥檙 genedl yn y 21ain ganrif. Mae ymwelwyr o bedwar ban byd yn teithio i Gymru i weld celf o safon ryngwladol ac arteffactau hanesyddol 鈥� ac amgueddfeydd yn cyfrannu at dwristiaeth leol a helpu i hyrwyddo Cymru i鈥檙 byd.
Gydag arddangosfeydd cyffrous yn apelio at ymwelwyr o bob oed, rwy鈥檔 gobeithio y bydd ein hamgueddfeydd gwerthfawr yn parhau i ffynnu am flynyddoedd.