Llygaid y byd ar ddiwylliant Cymru yn Eisteddfod Llangollen
David Jones yn ymweld a 68ain Eisteddfod Ryngwladol flynyddol Llangollen

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones AS yn tynnu sylw at gyfraniad Gerddorol Ryngwladol Llangollen o ran rhoi diwylliant Cymru ar y map pan fydd yn ymweld 芒鈥檙 digwyddiad blynyddol heddiw (dydd Gwener 11 Gorffennaf).
Mr Jones fydd Llywydd y Dydd a bydd yn rhoi araith i nodi pwysigrwydd yr 诺yl i fywyd diwylliannol ac economaidd Cymru.
Bydd hefyd yn manteisio ar y cyfle i fwynhau perfformiadau cerddorion a dawnswyr sydd wedi teithio o bedwar ban byd ac yn ymweld 芒 llu o arddangoswyr ar draws y maes.
Dywedodd David Jones AS Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Llangollen wedi hen ennill ei lle fel y dref lle bydd Cymru鈥檔 croesawu鈥檙 byd bob blwyddyn. A minnau wedi bod yn cefnogi鈥檙 Eisteddfod ers tro byd, dwi wrth fy modd fy mod yn cael dod i鈥檙 digwyddiad eleni fel Llywydd y Dydd, mae鈥檔 anrhydedd mawr.
Wrth i Gymru baratoi i gynnal uwchgynhadledd NATO ym mis Medi, mae鈥檙 Eisteddfod Ryngwladol yn gyfle pwysig arall i ni gyrraedd cynulleidfaoedd ar draws y byd ac arddangos y cyfoeth sydd gan Gymru i鈥檞 gynnig a鈥檌 wreiddio mewn gwledydd eraill sy鈥檔 ymweld.
Dros ei hanes o 68 blynedd, mae鈥檙 Eisteddfod wedi ennill ei lle fel un o drysorau coron ddiwylliannol Cymru, dymunaf bob llwyddiant iddi am flynyddoedd i ddod.