Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn dyfarnu 拢208 miliwn i brosiectau Ffyniant Bro yng Nghymru

Cyfanswm o 11 prosiect yn derbyn grantiau yn ail rownd y Gronfa Ffyniant Bro nodedig

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government
  • Cyfanswm o 11 prosiect yn derbyn grantiau yn ail rownd y Gronfa Ffyniant Bro nodedig
  • Mae鈥檙 prosiectau鈥檔 cynnwys Crossrail Caerdydd, campws peirianneg ym Mlaenau Gwent, adfer Pafiliwn y Grand Porthcawl, a llwybrau beicio newydd drwy Ddyffryn Conwy
  • Bydd buddsoddi mewn ardaloedd sydd wedi鈥檜 hesgeuluso鈥檔 hanesyddol yn creu swyddi ac yn tyfu鈥檙 economi

Mae Crossrail Caerdydd, campws peirianneg newydd ym Mlaenau Gwent, a llwybrau beicio newydd drwy Ddyffryn Conwy, yn rhai o鈥檙 prosiectau lleol trawsnewidiol ledled Cymru sydd wedi cael cyfran o 拢2.1 biliwn o Gronfa Ffyniant Bro nodedig Llywodraeth y DU.

Bydd buddsoddiad mawr gan Lywodraeth y DU o fudd i bobl ledled Cymru drwy ledaenu cyfleoedd a dod 芒 bywyd newydd i ardaloedd sydd wedi cael eu hesgeuluso鈥檔 hanesyddol.

Dyrannwyd mwy na 拢208 miliwn i gyfanswm o 11 o brosiectau yng Nghymru yn rownd dau Cronfa Ffyniant Bro. Bydd y prosiectau鈥檔 creu swyddi, yn sbarduno twf economaidd, yn helpu i adfer balchder pobl yn y mannau lle maent yn byw ac yn lledaenu cyfleoedd yn fwy cyfartal.

Bydd hyn yn hybu blaenoriaeth y Prif Weinidog i dyfu鈥檙 economi drwy godi鈥檙 gwastad a darparu鈥檙 sylfeini ar gyfer adeiladu dyfodol gwell mewn cymunedau ledled y DU. Drwy gydweithio, mae鈥檙 DU mewn sefyllfa well i fynd i鈥檙 afael gyda鈥檔 gilydd 芒鈥檙 heriau unigol sy鈥檔 wynebu pob rhanbarth a chenedl ledled y wlad.

Mae鈥檙 grantiau鈥檔 cynnwys 拢50 miliwn ar gyfer Crossrail Caerdydd, sy鈥檔 gyfartal 芒鈥檙 swm uchaf a ddyfarnwyd i brosiect yn y DU. Mae 拢9 miliwn hefyd yn mynd i gampws peirianneg newydd i 600 o fyfyrwyr ym Mlaenau Gwent ac 拢18.6 miliwn ar gyfer llwybr beicio newydd rhwng Cyffordd Llandudno a Betws-y-coed drwy Ddyffryn Conwy.

Bydd bron i 拢18 miliwn yn helpu i adnewyddu Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, un o鈥檙 adeiladau mwyaf adnabyddus yn Ne Cymru, sydd wedi dirywio ar 么l blynyddoedd o waith adnewyddu tameidiog.

Dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak:

Drwy fuddsoddiad mwy mewn ardaloedd lleol, gallwn dyfu鈥檙 economi, creu swyddi da a lledaenu cyfleoedd ym mhobman.

Dyna pam rydyn ni鈥檔 cefnogi nifer o brosiectau gyda chyllid trawsnewidiol newydd i godi鈥檙 gwastad mewn cymunedau lleol yng Nghymru.

鈥淒rwy gyrraedd hyd yn oed mwy o rannau o鈥檙 wlad nag o鈥檙 blaen, byddwn yn creu dyfodol o optimistiaeth a balchder ym mywydau pobl a鈥檙 lleoedd maen nhw鈥檔 byw ynddynt.鈥�

Dywedodd Michael Gove, yr Ysgrifennydd Ffyniant Bro:

Rydyn ni鈥檔 rhoi golau gwyrdd i dros gant o brosiectau trawsnewidiol ym mhob cwr o鈥檙 DU a fydd yn adfywio cymunedau sydd wedi cael eu hanwybyddu鈥檔 hanesyddol ond sy鈥檔 llawn potensial.鈥�

Bydd y cyllid newydd hwn yn creu swyddi, yn sbarduno twf economaidd ac yn helpu i adfer balchder lleol. Rydyn ni鈥檔 cyflawni blaenoriaethau鈥檙 bobl, yn codi鈥檙 gwastad ledled y DU i sicrhau y gallwch chi fynd cyn belled ag y bydd eich doniau鈥檔 mynd 芒 chi, dim ots o ble rydych chi鈥檔 dod.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies:

Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol iawn mewn prosiectau gwirioneddol arwyddocaol ledled Cymru. Rwy鈥檔 falch iawn o weld cynifer o geisiadau llwyddiannus o bob cwr o鈥檙 wlad am gynlluniau a fydd yn cael effaith am genedlaethau i ddod.

Bydd y cyllid hwn yn adfywio canol trefi ac adeiladau hanesyddol, yn creu llwybrau beicio a cherdded newydd drwy rannau o鈥檔 cefn gwlad prydferthaf, yn gwella cyfleusterau i ymwelwyr, yn darparu atebion trafnidiaeth i Gaerdydd ac yn cyfrannu at y cyfleoedd iechyd a swyddi i bobl yn yr ardaloedd dan sylw yn y dyfodol.

Rwy鈥檔 edrych ymlaen yn arw at ddilyn hynt y prosiectau hyn wrth iddynt ein helpu i gyflawni ein huchelgais o godi鈥檙 gwastad yn y DU a thyfu economi Cymru.

Dyma鈥檙 prosiectau y dyfarnwyd grantiau Cronfa Ffyniant Bro iddynt yng Nghymru heddiw:

  • 拢50 miliwn ar gyfer Crossrail Caerdydd. Bydd hyn yn helpu i ddarparu llinell newydd rhwng Bae Caerdydd a Gorsaf Caerdydd Canolog, gan ei gwneud yn haws i filoedd o bobl deithio rhwng y gorsafoedd hyn bob dydd.
  • Bydd llwybr beicio diogel ac uniongyrchol yn cael ei greu rhwng Cyffordd Llandudno a Betws-y-coed drwy Ddyffryn Conwy gyda grant o 拢18.6 miliwn. Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys mesurau i liniaru yn erbyn llifogydd.
  • Bydd 拢17.8 miliwn i adfer yst芒d hanesyddol yng Nghwm Nedd ac i adeiladu llwybrau cerdded a beicio newydd.
  • Mae 拢17 miliwn ar gael i adeiladu llwybrau cerdded a beicio newydd i ddod 芒 phobl yn nes at ei gilydd yng Nghaergybi a galluogi ymwelwyr a phobl leol i grwydro safleoedd trawiadol Eglwys Sant Cybi a鈥檙 gaer Rufeinig.
  • 拢18 miliwn i drawsnewid Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, un o鈥檙 adeiladau mwyaf adnabyddus yn Ne Cymru, sydd wedi dirywio ar 么l blynyddoedd o waith adnewyddu tameidiog.
  • Ym Mlaenau Gwent, bydd campws peirianneg newydd ar gyfer 600 o bobl ifanc yn cael ei adeiladu gan ddefnyddio cyllid o 拢9 miliwn. Bydd yn cynnig rhaglen helaeth o brentisiaethau a lleoliadau mewn diwydiannau yn yr ardal i鈥檙 genhedlaeth nesaf o beirianwyr.
  • Bydd 拢20 miliwn yn adfer ac yn adfywio tri safle treftadaeth diwydiannol yng Nghwm Tawe Isaf. Mae hyn yn cynnwys Gwaith Copr y Morfa a fydd yn creu siopau, bwytai a marchnadoedd newydd, a gwaith uwchraddio sylweddol i Amgueddfa Abertawe.
  • Bydd prosiect gwerth 拢7.6 miliwn Hwb Diwylliannol Pont-y-p诺l yn Nhorfaen yn trawsnewid adeiladau sydd wedi adfeilio鈥檔 ganolfan ddiwylliannol ffyniannus gyda bwyty newydd i roi hwb i鈥檙 economi gyda鈥檙 nos.
  • Adeiladu canolfan hamdden o鈥檙 radd flaenaf yng Nghaerffili gydag 拢20 miliwn, a fydd yn cynnwys campfa a phwll nofio newydd.
  • Yng Ngwynedd, bydd 拢18.8 miliwn yn uwchraddio llwybrau cerdded a beicio ar gyfer Amgueddfa Lechi Cymru a chanolfan gelfyddydau Neuadd Ogwen.
  • Bydd Sir Ddinbych yn cael 拢11 miliwn i adfer yr henebion hanesyddol yn Rhuthun, gan gynnwys Eglwys Sant Pedr a sgw芒r y dref.

Mae鈥檙 buddsoddiad sylweddol a gyhoeddwyd heddiw yn dilyn y dyraniad o 拢1.7 biliwn i 105 o brosiectau yn rownd un y Gronfa Ffyniant Bro yn 2021鈥� gan olygu bod cyfanswm o 拢3.8 miliwn wedi鈥檌 ddyrannu o鈥檙 gronfa hyd yma.

Mae鈥檙 Llywodraeth hefyd wedi cadarnhau y bydd rownd arall o Gronfa Ffyniant Bro, a fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i godi鈥檙 gwastad mewn lleoedd ledled y DU.

Diwedd

Heddiw, bydd Llywodraeth y DU hefyd yn lansio map rhyngweithiol ar-lein er mwyn i bobl allu gweld pa brosiectau sy鈥檔 derbyn buddsoddiad o Gronfa Ffyniant Bro yn eu hardal. Bydd ar gael yn

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Ionawr 2023 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.