Datganiad i'r wasg

Gadewch i ni wneud 2016 yn flwyddyn lwyddiannus ar gyfer allforio o Gymru

Stephen Crabb a鈥檙 Arglwydd Maude yn gosod her allforio i fusnesau Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Dylai busnesau yng Nghymru ddangos i鈥檙 byd pa mor arloesol a rhagorol ydyn nhw drwy wneud 2016 yn flwyddyn ar gyfer allforio. Dyma fydd y Llywodraeth yn ei ddweud heddiw.

Bydd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru a鈥檙 Arglwydd Maude, y Gweinidog Masnach a Buddsoddi yn gosod her i fusnesau ac i Lywodraeth Cymru fel rhan o daith deuddydd o amgylch Cymru.

Mae鈥檙 ddau Weinidog yn ymweld ag allforwyr llwyddiannus o Gymru heddiw, gan gynnwys Airbus, Magellan Aerospace a鈥檙 cwmni gwasanaethau ariannol DTCC, sydd wedi bod yn ehangu ei weithlu yn sgil gwerthiant cryf.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Cymru鈥檔 gartref i gwmn茂au arloesol ac o鈥檙 radd flaenaf, sydd wedi cael llwyddiant mawr wrth allforio, ond fe allwn ni, ac fe ddylem ni wneud mwy. Rwyf am ddangos ein gwlad i鈥檙 byd. Mae鈥檙 Arglwydd Maude a minnau yma i ddangos sut gall Llywodraeth y DU helpu.

Gyda鈥檔 gilydd, rydyn ni am gael 100,000 o gwmn茂au newydd o bob cwr o鈥檙 DU yn allforio erbyn 2020 - ac rwyf am weld Cymru鈥檔 chwarae ei rhan wrth gyflawni鈥檙 nod hwn.

Y llynedd, mentrodd 4,000 o gwmn茂au o Gymru allforio am y tro cyntaf, ac eleni, rydyn ni wedi cyrraedd 3,000 yn barod. Rwy鈥檔 annog y cwmn茂au hynny sy鈥檔 ystyried allforio i fynd ar wefan Exporting is GREAT neu ddod i sioe deithiol gyntaf Exporting is GREAT yng Nghymru, sy鈥檔 dechrau鈥檙 mis nesaf.

Dywedodd yr Arglwydd Maude:

Mae wedi bod yn galonogol gweld faint o frwdfrydedd sydd yma yng Nghymru dros allforio, a chlywed am y llwyddiant sy鈥檔 bosib pan fydd cwmn茂au鈥檔 dechrau ehangu i wledydd tramor. Gan fod gwerth allforion bron yn 拢3 biliwn y flwyddyn yng Nghymru yn unig, mae鈥檔 amlwg fod yna alw am gynnyrch a gwasanaethau o鈥檙 DU. Rwy鈥檔 benderfynol y bydd UKTI yn dal ati i ddarparu cymorth er mwyn i hyn barhau, gan ddod 芒 thwf a swyddi newydd i sectorau ar hyd a lled y wlad.

Bydd yr Arglwydd Maude yn cwrdd ag Edwina Hart, Gweinidog Masnach a Buddsoddi Llywodraeth Cymru ddydd Gwener, yn safle cwmni cyflenwadau meddygol Conva Tec, ac yn ymweld 芒 ffatri peiriannau Toyota yng Nglannau Dyfrdwy.

Mae Toyota yn un o nifer o gwmn茂au rhyngwladol sydd wedi buddsoddi yng Nghymru. Y llynedd, cr毛wyd dros 5,000 o swyddi newydd yng Nghymru yn sgil buddsoddiad uniongyrchol o dramor, gyda Masnach a Buddsoddi鈥檙 DU (UKTI) yn gweithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau prosiectau.

O ran allforio, mae UKTI a Llywodraeth Cymru wedi cefnogi tua 3,000 o gwmn茂au yng Nghymru yn barod yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Gwerth blynyddol allforion Cymru yw tua 拢2.9 biliwn ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i鈥檞 gwneud hi鈥檔 haws i fusnesau allforio.

Y mis nesaf, bydd Exporting is GREAT yn mynd ar daith o amgylch Cymru, gyda鈥檌 Hwb Allforio - lle symudol, hyblyg lle gall busnesau ofyn am gyngor gan gwmn茂au sydd eisoes wedi gwerthu i wledydd tramor, yn ogystal ag UKTI. Ym mis Mehefin, gwahoddir busnesau Cymru i ddod i 诺yl fusnes fwyaf y byd, yr 糯yl Fusnes Ryngwladol, a gynhelir yn Lerpwl dros dair wythnos, lle gallant drefnu cyfarfodydd ymlaen llaw gyda phartneriaid busnes posib.

Nodiadau i olygyddion

  • Bydd sioe deithiol Exporting is GREAT yn dod i Gymru rhwng 15 a 26 Chwefror 2016. Gall busnesau gofrestru ar gyfer cyfleoedd byw i allforio a llwytho canllawiau i lawr ar gyfer dechrau allforio yn
  • Cynhelir yr , g诺yl fusnes fwyaf y byd, yn Lerpwl rhwng 13 Mehefin a 1 Gorffennaf. Bydd amrywiaeth o gyfleoedd ar gael yno, o weithdai a seminarau, i gyfarfodydd gyda darpar brynwyr o dramor. Mae busnesau Cymru yn y sectorau creadigol, gweithgynhyrchu, ynni a鈥檙 amgylchedd yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer y digwyddiad

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Ionawr 2016