Enillydd Kids Invent Stuff a Chystadleuaeth Taskmaster Education
Twb ymolchi eiconig Taskmaster wedi'i drawsnewid gan ddyfeisiwr saith oed mewn cystadleuaeth genedlaethol.

- Callie, saith oed o Fanceinion yn ennill Cystadleuaeth Kids Invent Stuff a Taskmaster Education a gefnogir gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO)
- 惭补别鈥檙 ddyfais fuddugol yn cyfuno offer dosbarthu tasgau gyda dosbarthwr hwyaden rwber arloesol
- Cyflwynodd dros 1,600 o ddyfeiswyr rhwng 4 ac 11 oed o bob rhan o鈥檙 DU atebion creadigol
- 惭补别鈥檙 achlysur i ddadorchuddio鈥檙 ddyfais yn cyd-fynd 芒 dathliadau Wythnos Wyddoniaeth Prydain a bydd yn cael ei harddangos yn y digwyddiad Get Up to Speed 鈥嬧媑yda STEM yn ddiweddarach y mis hwn
Mae dyfeisiwr saith oed o Fanceinion wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol i helpu Little Alex Horne i ddod yn Gynorthwyydd gorau i鈥檙 Taskmaster. Mae dyfais fuddugol Callie, o鈥檙 enw 鈥楾ask Firing Driveable Bath,鈥� yn trawsnewid twb ymolchi bob dydd yn beiriant dosbarthu tasgau arloesol.
Roedd y gystadleuaeth a gefnogir gan IPO yn gwahodd pobl ifanc i gyflwyno syniadau dyfeisio, gyda鈥檙 cysyniad buddugol i鈥檞 adeiladu mewn bywyd go iawn. Dewiswyd yr enillydd o blith mwy na 1,600 o geisiadau o bob rhan o鈥檙 DU, a chafwyd rhai ceisiadau o bob rhan o鈥檙 byd.

Line drawing by Callie showing Alex Horne sitting in a bathtub surrounded by papers representing tasks floating in the air and several rubber ducks.
Dywedodd Adam Williams, Prif Swyddog Gweithredol yr IPO:
Trwy鈥檙 gystadleuaeth hon, rydym wedi gweld creadigrwydd rhyfeddol gan feddyliau ifanc ledled y DU. Mae dyfais Callie yn cyfuno datrys problemau ymarferol gyda dychymyg chwareus - yr union fath o feddwl arloesol sy鈥檔 argoeli鈥檔 dda ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Little Alex Horne:
惭补别鈥檙 ddyfais ryfeddol hon yn llwyddo i fod yn wych o ymarferol ac aruchel o wirion - y cyfuniad perffaith sy鈥檔 cynorthwyo Taskmaster! Fe wnes i fwynhau rhoi cynnig ar y twb ymolchi ac rwy鈥檔 meddwl y byddai鈥檔 bendant yn ffordd effeithiol o gadw ein cystadleuwyr Taskmaster ar flaenau eu traed. Gadewch i ni ei wynebu hyn - os na allwch chi ddal tasg yn cael ei saethu allan o dwb ymolchi symudol, ai deunydd cystadleuydd Taskmaster ydych chi mewn gwirionedd?
Dywedodd Ruth Amos, Dyfeisiwr a Chyfarwyddwr Kids Invent Stuff:
Rydym wedi cael amser gwych yn gweithio ar y prosiect hwn ochr yn ochr 芒鈥檙 IPO a Taskmaster Education! Mae wedi bod yn anhygoel gweld syniadau dyfeisgarmor greadigol a llawn dychymyg gan gynifer o bobl ifanc ledled y wlad. Mae dod 芒 syniad yn fyw bob amser yn gyffrous, a gwnaeth gweithio gyda Little Alex Horne y profiad cyfan hyd yn oed yn fwy difyr ac atyniadol!
Dywedodd Dr Ali Struthers, Cyd-sylfaenydd Taskmaster Education:
Mae gan blant y dychymyg mwyaf disglair ac mae mor gyffrous i fod wedi bod yn rhan o鈥檙 broses hon o鈥檙 syniad i鈥檙 ddyfais! Mae gwylio鈥檙 ddyfais wych hon sy鈥檔 cynorthwyo鈥檙 Taskmaster yn dod yn fyw, a chael rhoi cynnig arni ein hunain, wedi bod yn gymaint o bleser. Mae Taskmaster Education wedi bod wrth ei fodd yn cydweithio a rhoi cyfle i bobl ifanc ddathlu eu creadigrwydd.
Gallwch chi wylio dyfais Callie yn cael ei hadeiladu ar sianel YouTube Kids Invent Stuff, gyda Little Alex Horne yn ei brofi yn nh欧 Taskmaster. 惭补别鈥檙 fideo yn cael ei lansio ochr yn ochr ag adnoddau addysgol rhad ac am ddim sydd wedi鈥檜 cynllunio i ysbrydoli a datblygu sgiliau yn y genhedlaeth nesaf o ddyfeiswyr.

Photograph of Alex Horne sitting in a custom-built bathtub invention, smiling at the camera. Ruth Amos, the inventor who built the bathtub, stands behind him also smiling.
Nodiadau i鈥檙 golygydd:
-
yn addasu fformat Taskmaster Sianel 4 i greu profiadau difyr ac addysgiadol i blant a phobl ifanc. Yn y sioe, mae鈥檙 Taskmaster a鈥檌 gynorthwyydd Little Alex Horne yn herio digrifwyr gyda thasgau creadigol. Mae Taskmaster Education yn defnyddio gweithgareddau tebyg i ddatblygu sgiliau pwysig mewn plant. 惭补别鈥檙 sgiliau hyn yn cynnwys datrys problemau, gwaith t卯m, a meddwl beirniadol. Mae Taskmaster Education yn darparu ffordd hyblyg a deniadol i ysbrydoli dysgu mewn ystafelloedd dosbarth a thu hwnt
-
yn sianel YouTube arloesol sy鈥檔 dod 芒 dyfeisiadau pobl ifanc yn fyw. Wedi鈥檌 sefydlu gan y peirianwyr Ruth a Shawn, mae Kids Invent Stuff yn cynnig cyfle i blant 4 i 11 oed weld eu syniadau creadigol yn cael eu troi鈥檔 realiti
-
惭补别鈥檙 IPO wedi curadu 聽yn arddangos y dyfeisiau anhygoel o gystadlaethau IPO a Kids Invent Stuff o鈥檙 gorffennol
-
Gall dyfeiswyr ifanc hefyd brofi鈥檙 greadigaeth yn bersonol yn 鈥�, De Swydd Efrog, ar 19-20 Mawrth 2025
-
惭补别鈥檙 IPO wedi datblygu offer, canllawiau ac adnoddau addysgu ar gyfer addysg gynradd, uwchradd, bellach ac uwch, ymchwilwyr a rheolwyr prifysgolion