Datganiad i'r wasg

Buddsoddiad o Israel yn creu hyd at 100 o swyddi yn ne Cymru

Stephen Crabb: "Mae ein sector technoleg arloesol yn helpu i ddenu buddsoddiad tramor a chreu swyddi yng Nghymru"

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Heddiw, mae cwmn茂au o Israel wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth 拢3miliwn yn ne Cymru yn ogystal 芒 chynlluniau i dyfu a allai arwain at greu hyd at 100 o swyddi a 拢13miliwn yn cael ei wario gyda chyflenwyr lleol.

Caiff y cyhoeddiadau eu gwneud wrth i ddirprwyaeth o fusnesau o Israel ymweld 芒 Chymru i ddathlu鈥檙 cysylltiadau masnach a buddsoddi sy鈥檔 bodoli rhwng Israel a Chymru ac i chwilio am gyfleoedd newydd.

Mae鈥檙 buddsoddiadau a gyhoeddwyd yn ganlyniad i gydweithio agos rhwng Llywodraeth y DU (drwy UKTI Israel) a Llywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • SPTS Technologies yng Nghasnewydd 鈥� cwmni angor yng Nghymru a cheffyl blaen yn rhyngwladol yn y farchnad offer lled-ddargludyddion 鈥� yn cyhoeddi fod ei allforion bellach yn werth dros U.S. $1biliwn. Ers mis Awst 2014, mae SPTS Technologies wedi bod dan berchnogaeth Orbotech, sef cwmni o Israel sydd wedi鈥檌 restru ar NASDAQ, ac mae鈥檔 allforio dros 95% o鈥檌 gynnyrch i gwsmeriaid ym mhedwar ban byd. Sefydlwyd y cwmni yn 2009 ac yn y cyfamser mae wedi llwyddo i gyflawni gwerthiant allforio o $1biliwn.

  • Y llynedd, dyfarnwyd 拢4.6m o gyllid Ymchwil, Datblygu ac Arloesedd i鈥檙 cwmni gan Lywodraeth Cymru i gynnal prosiect tair blynedd i feithrin y genhedlaeth nesaf o gynnyrch ar gyfer deunyddiau Pecynnu Uwch gan roi鈥檙 cwmni ar flaen y gad yn y diwydiant. Bydd yn creu 30 o swyddi ymchwil a datblygu llawn amser yng Nghasnewydd a rhagwelir y bydd 拢13m o arian ychwanegol yn cael ei wario gyda chyflenwyr lleol dros gyfnod y prosiect.

  • Mae Sapiens International Corporation, sy鈥檔 ddarparwr arloesol o ddatrysiadau meddalwedd ar gyfer y diwydiant yswiriant, yn rhagweld blwyddyn arall o dwf dwbl-digid. Ar hyn o bryd mae Sapiens yn cyflogi 240 o bobl yn y DU a鈥檙 bwriad yw cynyddu ei weithlu yng Nghaerdydd yn sylweddol dros y 12 mis nesaf.

  • Mae Amiad Water Systems, un o鈥檙 prif gynhyrchwyr systemau hidlo a thrin d诺r yn y byd, wedi cyhoeddi ei fod wedi dewis Abertawe fel lleoliad ei safle parhaol cyntaf yn y DU. Dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, mae Amiad wedi cyflenwi datrysiadau arloesol ledled y DU - o鈥檙 Eden Project a鈥檙 Prosiect arbed-ynni, dim-carbon yn Kingston Heights i ddarparu gwarchodaeth Cryptosporidiwm effeithiol mewn llawer o weithfeydd trin d诺r. Bydd Amiad yn creu 5 鈥� 10 o swyddi newydd yn y flwyddyn gyntaf gyda鈥檙 potensial i ehangu eto. Drwy gyfrwng ei sgiliau peirianneg a鈥檌 allu i arloesi, mae Amiad yn darparu atebion cynaliadwy a chost effeithiol ar gyfer marchnadoedd diwydiannol, trefol, prosesau dyfrhau, olew a nwy, a balast d诺r mewn 80 o wledydd.

  • Mae Lordan UK wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth 拢1miliwn yn ei gyfleuster yn Hengoed, de Cymru, sy鈥檔 cynhyrchu cyfnewidwyr gwres tiwb a ffin wedi鈥檜 teilwra鈥檔 bersonol ar gyfer y farchnad HVAC&R fyd-eang. Mae Lordan eisoes yn cyflogi 45 o bobl ar ei safle yng Nghymru ac mae鈥檔 gweld cyfleoedd ar gyfer twf pellach yn y DU oherwydd yr anghenion sy鈥檔 codi yn economi y DU.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae ein sector technoleg arloesol yn helpu i ddenu buddsoddiad tramor a chreu swyddi yng Nghymru.

Drwy rwydwaith masnach fyd-eang Llywodraeth y DU, mae buddsoddwyr rhyngwladol yn sylweddoli bod Cymru yn wlad allblyg ac yn gyrchfan deniadol i fusnesau. Mae Israel yn ffrind agos i鈥檙 DU ac rydym yn mwynhau perthynas fasnachu wych sy鈥檔 seiliedig ar ddegawdau o gydweithio.

Hoffwn weld cyhoeddiadau heddiw yn rhoi hwb i Gymru i greu cysylltiadau agosach gyda chwmn茂au a marchnadoedd byd-eang. Mae hwn yn gyfle gwych i ddangos ein bod ni ar agor i fusnes, ar agor i fasnach, ac ar agor i fuddsoddiad.

Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru:

Rydw i鈥檔 falch iawn gweld bod Cymru yn lleoliad deniadol ar gyfer cwmn茂au technoleg uwch o Israel, a鈥檔 bod yn gweld buddsoddiadau newydd yn ogystal 芒 buddsoddiadau parhaus sylweddol.

Mae鈥檔 cadarnhau bod Cymru yn darparu鈥檙 amgylchedd delfrydol i fusnesau allu ffynnu a thyfu, a chaiff hyn ei ategu gan y nifer fwyaf erioed o brosiectau buddsoddiad mewnol gan gwmn茂au tramor sy鈥檔 dewis Cymru ar draul gwledydd eraill fel y lleoliad o鈥檜 dewis.

Rydyn ni鈥檔 croesawu鈥檙 ymweliad hwn gan uwch swyddogion rhai o brif gwmn茂au Israel wrth iddyn nhw chwilio am gyfleoedd busnes newydd yng Nghymru ac adeiladu ar y cysylltiadau cynyddol rhwng ein dwy wlad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Medi 2015