Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2016 - Neges gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Stephen Crabb: "Rhaid cymryd camau pendant i helpu i sicrhau cydraddoldeb rhwng y ddau ryw"

Mae鈥檔 Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw; diwrnod o ddathlu ar draws y byd, dathlu llwyddiannau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol menywod yn y gorffennol, heddiw ac yn y dyfodol.
Y thema eleni yw Addewid Cydraddoldeb - cymryd camau pendant i helpu i sicrhau cydraddoldeb rhwng y ddau ryw yn gyflymach.
Does dim digon wedi cael ei wneud i helpu menywod i gyflawni eu potensial yn llawn am yn rhy hir o lawer. Ac mae hynny鈥檔 rhywbeth rydyn ni, fel llywodraeth, yn gweithio鈥檔 galed ar roi sylw iddo. Dydy hyn ddim yn golygu gwario mwy o arian yn unig; mae鈥檔 golygu gwneud pethau鈥檔 wahanol - yn y llywodraeth, mewn byd busnes ac mewn cymdeithas.
Mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei gallu i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod gartref a thramor, drwy gyflwyno deddfau newydd, llym i warchod menywod rhag trais domestig, priodi dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod.
O safbwynt busnes, rydyn ni hefyd yn chwalu rhwystrau. Mae ffigurau鈥檔 dangos bod mwy o fenywod nag erioed yn gweithio yng Nghymru nawr. Mae tua 669,000 o fenywod yn gweithio yng Nghymru nawr - cynnydd o 36,000 ers mis Mai 2010, sy鈥檔 cyfrif am 46% o鈥檙 holl weithwyr ar draws y wlad. Roedd y bwlch rhwng cyflogau menywod a dynion yng Nghymru wedi gostwng y llynedd hefyd, o 16% yn 2014 i 14.6% yn 2015. Yn y Deyrnas Unedig, nid oes yr un bwrdd sy鈥檔 cynnwys dynion yn unig yn y FTSE 100 ac mae鈥檙 bwlch rhwng cyflogau dynion a menywod ar ei isaf ers dechrau cofnodi.
Mae鈥檙 llywodraeth hon o blaid pawb sy鈥檔 gweithio; mae鈥檔 credu mewn cefnogi dyheadau鈥檙 rhai sydd eisiau datblygu eu hunain. Y wobr am wneud hynny fydd economi gryfach a mwy o gyfleoedd i鈥檙 genhedlaeth hon o fenywod a鈥檙 genhedlaeth nesaf hefyd.
Ond rydyn ni i gyd yn gwybod bod mwy i鈥檞 wneud.
Mae trefnwyr Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nghymru wedi paratoi rhaglen drawiadol o ral茂au, cyngherddau, gweithdai, cynadleddau a pherfformiadau er mwyn cyfleu鈥檙 neges bod angen gweithredu a chodi ymwybyddiaeth o hyd er mwyn sicrhau cydraddoldeb i fenywod ym mhob agwedd ar fywyd, a chynnal y cydraddoldeb hwnnw, er bod agweddau gwledydd datblygedig wedi newid yn aruthrol.
Astudiaeth achos
Abi Carter yw sylfaenydd Forensic Resources Ltd - cwmni ymgynghorwyr gwyddoniaeth fforensig yng Nghaerdydd sy鈥檔 darparu gwasanaethau tyst arbenigol i dimau cyfreithiol a chwmn茂au yswiriant ledled y Deyrnas Unedig.
Meddai Ms Carter:
Weithiau mae menywod yn petruso cyn neidio i mewn i fyd busnes ac entrepreneuriaeth.
Os yw menywod am fod yn ddigon dewr i wneud hynny, mae鈥檔 hanfodol eu bod yn cael yr un gefnogaeth, cymeradwyaeth a phosibiliadau 芒鈥檜 cymheiriaid gwryw. Mae鈥檔 gyfrifoldeb ar bawb ohonom i rymuso menywod i lwyddo yn y gweithle, gan roi iddynt y gefnogaeth angenrheidiol i wneud hynny, fel y gallwn harneisio鈥檙 cyfoeth o ddoniau y gallant eu cyflwyno i fyd busnes.