Datganiad i'r wasg

Cynhadledd buddsoddi rhyngwladol i鈥檞 chynnal yng Nghymru

Cymru i gynnal cynhadledd buddsoddi rhyngwladol fydd yn creu swyddi a hybu twf yn y DU.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, bydd Vince Cable, yr Ysgrifennydd Busnes ac Edwina Hart, Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi y bydd cynhadledd buddsoddi rhyngwladol a fydd yn creu swyddi ac yn ysgogi twf yn y DU yn cael ei chynnal yng Nghymru.

Bydd y gynhadledd yn dilyn Uwchgynhadledd NATO ym mis Medi a鈥檌 thestun fydd 鈥楳abwysiadu technoleg newydd i sicrhau mantais gystadleuol鈥�. Cynhelir y gynhadledd ar 20 a 21 Tachwedd yng ngwesty鈥檙 Celtic Manor yng Nghasnewydd.

Bydd yn canolbwyntio ar dechnolegau newydd a chaiff ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan gynnwys Masnach a Buddsoddi鈥檙 DU. Bydd yn dangos bod Cymru a gweddill y DU yn amgylchedd penigamp ar gyfer twf busnes ac i fuddsoddi mewn busnes. Dangosodd ffigurau mewnfuddsoddi blynyddol Masnach a Buddsoddi鈥檙 DU eleni bod Cymru wedi denu 79 prosiect buddsoddi o dramor yn 2013-14, y lefel uchaf ers 24 blynedd, gan greu neu ddiogelu dros 10,000 o swyddi.

Dangosodd yr adroddiad hefyd bod 66,390 o swyddi newydd wedi cael eu creu ledled y DU, y nifer mwyaf er 2001. I gyd gyda鈥檌 gilydd, sefydlwyd 1,773 o brosiectau buddsoddi yn y DU gan fusnesau o dramor yn ystod 2013/14.

Gwneir y cyhoeddiad yn ystod ymweliad 芒 Sony ym Mhencoed sef lle y gwneir y cyfrifiaduron Raspberry Pi arloesol.

Dywedodd Vince Cable, yr Ysgrifennydd Busnes:

Mae llawer o gwmn茂au llwyddiannus eisoes wedi ymsefydlu yng Nghymru. Mae rhai ohonynt wedi dechrau yma tra bo eraill wedi symud yma er mwyn buddsoddi a thyfu. Bydd y gynhadledd hon yn gyfle da i arddangos cryfderau Cymru fel lle gwych i wneud busnes a lle sy鈥檔 croesawu buddsoddi o dramor. Mae strategaeth ddiwydiannol y llywodraeth yn rhoi鈥檙 hyder i fusnesau fuddsoddi dros y tymor hir, gan greu鈥檙 swyddi medrus iawn sy鈥檔 angenrheidiol i sicrhau bod y wlad hon yn ffynnu yn y dyfodol. Bydd yn helpu i greu economi gryfach a thecach yng Nghymru ac yng ngweddill y DU.

Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi:

Bydd uwchgynhadledd NATO yn gyfle i hyrwyddo Cymru i鈥檙 byd, a bydd y gynhadledd fuddsoddi hon yn gyfle i ni arddangos yr hyn sydd gan Gymru i gynnig i fyd busnes a diwydiant yn benodol. Bydd Uwchgynhadledd Fuddsoddi鈥檙 DU yn canolbwyntio ar amryw o dechnolegau newydd a fydd yn ein galluogi i amlygu arbenigedd Cymru yn y maes hwn ar draws ystod o ddiwydiannau allweddol.

Mae鈥檙 gwaith ymchwil a datblygu arloesol y mae cwmn茂au a sefydliadau academaidd arbenigol yng Nghymru yn ei wneud yn waith o ddiddordeb rhyngwladol. Gyda鈥檙 gallu cyfrifiadura perfformid uchel sydd gan Gymru a鈥檌 mynediad at gyfleusterau o safon fyd-eang, mae鈥檙 hyn sydd gan Gymru i鈥檞 gynnig i ddarpar fewnfuddsoddwyr sydd am dyfu eu busnes yn gymhellol iawn.

Er 1968 mae鈥檙 cwmni Japaneaidd, Sony, wedi buddsoddi鈥檔 sylweddol yn y DU ac mae鈥檔 cynnal ystod eang o鈥檌 weithgareddau yma, o wneud cyfarpar darlledu yng Nghymru i weithgareddau datblygu gemau, offer symudol a gweithrediadau trysorlys byd-eang yn Llundain.

Yn Tsieina yr oedd Raspberry Pi yn gwneud ei gyfrifiaduron maint cerdyn credyd i ddechrau, ond mae ffatri Sony ym Mhencoed yn golygu bod y cwmni wedi gallu symud y gwaith i Dde Cymru ym mis Awst 2012 a bellach mae鈥檔 cyflogi rhwng 70 a 100 o bobl. Mae dros 3.5 miliwn o gyfrifaduron Raspberry Pi wedi cael eu gwerthu ar draws y byd a rhoddir un i bob un o鈥檙 arweinwyr tramor a fydd yn bresennol yn Uwchgynhadledd NATO.

Yn ystod ei amser yng Nghymru, bydd yr Ysgrifennydd Busnes hefyd yn ymweld 芒 Renishaw ym Mhontyclun, cwmni sy鈥檔 gwneud peiriannau argraffu 3D sy鈥檔 cael eu defnyddio mewn sectorau mor amrywiol 芒 deintyddiaeth ac awyrofod. Bydd hefyd yn ymweld 芒 Concrete Canvas ym Mhontypridd sy鈥檔 cynhyrchu defnydd newydd arloesol sy鈥檔 dal d诺r yn hynod o dda pan gaiff ei rolio allan, gan gefnogi prosiectau adeiladu mawr mewn amgylcheddau eithafol sy鈥檔 cynnwys amddiffyn piblinellau ar waelod y m么r. Mae鈥檙 ddau gwmni wedi ennill Gwobr y Frenhines am Arloesi.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae rhai o鈥檙 cwmn茂au mwyaf llwyddiannus yn y byd wedi鈥檜 lleoli yng Nghymru a bydd y gynhadledd hon yn amlygu pam mae Cymru yn lle mor wych i fuddsoddi ynddo. Bydd y gynhadledd yn arddangos twf y sector technoleg uchel yng Nghymru a鈥檙 enw da cynyddol sydd gennym am ragoriaeth yn y maes hwn.

Rydym am greu gwaddol parhaol yn sgil Uwchgynhadledd NATO a bydd y gynhadledd hon yn hyrwyddo popeth sy鈥檔 arbennig am fuddsoddi yng Nghymru. Bydd hefyd yn dangos sut y gall cwmn茂au yng Nghymru fanteisio i鈥檙 eithaf ar gyfleoedd ym maes marchnadoedd allforio sy鈥檔 tyfu, gan osod Cymru ar y blaen ac wrth galon y ras fyd-eang.

Nodiadau i olygyddion:

  1. Mae Adroddiad Blynyddol Masnach a Buddsoddi鈥檙 DU ar Fewnfuddsoddi ar gael yma

  2. Rhestr o鈥檙 10 gwlad uchaf sy鈥檔 buddsoddi yn y DU:

Gwlad Prosiectau
Yr Unol Daleithiau 501
Japan 116
Ffrainc 110
Yr Almaen 2
Canada 89
Tsieina 88
India 74
Yr Eidal 70
Awstralia 69
Iwerddon 55

3.Cyfanswm y prosiectau a鈥檙 swyddi (newydd ac wedi鈥檜 diogelu) yn 么l gr诺p diwydiannol:

Gr诺p diwydiannol Prosiectau Cyfanswm y swyddi
Gweithgynhyrchu Uwch 418 37,204
Ynni a seilwaith 310 31,261
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol 385 21,661
Y Diwydiannau creadigol a TGCh 400 12,466
Gwyddorau Bywyd 156 4,473
Electroneg a thelathrebu 104 4,296
Cyfanswm 1,773 111,361

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Awst 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 Awst 2014 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.