Cyfleoedd di-rif i Gymru o ran cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr
Swyddfa Cymru i gynnal derbyniad i ddathlu llwyddiant Cymru yn y byd chwaraeon

Sport is GREAT
O berfformiadau buddugol athletwyr o Gymru ar hyd a lled y byd, i statws cynyddol Cymru fel lleoliad i gynnal digwyddiadau mawr, bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cynnal derbyniad heddiw (19 Ion) i ddathlu llwyddiant Cymru yn y byd chwaraeon, ar y maes chwarae ac oddi arno.
Bydd athletwyr a chynrychiolwyr o gyrff chwaraeon ac awdurdodau lleol ledled Cymru yn ymuno ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, y Gweinidog Chwaraeon, Tracey Crouch a Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, yn y digwyddiad yn Nh欧 Gwydyr, Llundain.
Bydd y gwesteion yn myfyrio ar lwyddiannau Cymru mewn cystadlaethau dros y 12 mis diwethaf, sydd wedi gweld Caerdydd yn cael cynnal Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn 2017, yn cynnal ail g锚m Cyfres y Lludw ac wyth g锚m Cwpan Rygbi鈥檙 Byd.
Gan fod pawb yn cyfri鈥檙 diwrnodau tan Ewro 2016 a Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio, bydd athletwyr Cymru鈥檔 edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous o chwaraeon yn 2016.
Bydd Gweinidogion hefyd yn dal ati i weithio gydag UK Sport a Llywodraeth Cymru i ddynodi a sicrhau digwyddiadau chwaraeon o safon fyd-eang. Bydd hyn yn cadarnhau nodweddion arbennig Cymru fel cyrchfan chwaraeon ac yn rhoi hwb cadarnhaol i economi Cymru.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Mae llwyddo yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn rhywbeth y mae ein gwlad yn falch iawn ohono. Rydyn ni i gyd yn cofio llwyddiant anhygoel Cwpan Ryder yng Nghasnewydd yn 2010 a鈥檙 ffaith fod wyth g锚m Cwpan Rygbi鈥檙 Byd wedi鈥檌 chynnal yng Nghaerdydd y llynedd. Roedd y ddau ddigwyddiad wedi gadael eu marc ac mae鈥檙 wlad gyfan yn falch ohonyn nhw.
Gan fod Cymru鈥檔 mwynhau cymaint o lwyddiant yn y byd chwaraeon, dyma鈥檙 amser delfrydol i ganfod sut gallwn ni ddenu rhagor o ddigwyddiadau chwaraeon byd-eang yma. Er enghraifft, Gemau鈥檙 Gymanwlad.
Dylai鈥檙 cyfleoedd i gynnal digwyddiadau o鈥檙 fath yng Nghymru fod yn ddiderfyn. Mae modd iddyn nhw ddod 芒 miliynau o bunnau i鈥檔 heconomi a chreu miloedd o swyddi, a gallan nhw adael budd a fydd yn para ac ysbrydoli pobl ifanc o bob cwr o Gymru i fwynhau chwaraeon.
Rwy鈥檔 gobeithio y bydd un o ddinasoedd Cymru鈥檔 gwneud bid i gynnal Gemau鈥檙 Gymanwlad yn y dyfodol. Rwy鈥檔 benderfynol y byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru i hyrwyddo chwaraeon yng Nghymru a Chymru fel cyrchfan o鈥檙 radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr.
Dywedodd Tracey Crouch, y Gweinidog Chwaraeon:
Pan ddaw鈥檔 fater o gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr, mae gan Gymru enw da gyda鈥檌 llwyddiannau diweddar yn cynnwys gemau prawf Cyfres y Lludw, Super Cup UEFA a gemau yn ystod Cwpan y Byd Rygbi鈥檙 Gynghrair a Rygbi鈥檙 Undeb.
Rwy鈥檔 edrych ymlaen at gefnogi swyddfa Cymru i gynnig ar gyfer digwyddiadau chwaraeon yng Nghymru yn y dyfodol, a fydd yn sefydlu鈥檙 wlad unwaith eto fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer chwaraeon ac yn llwyfan i ddangos doniau ei hathletwyr ei hun a s锚r chwaraeon o bob cwr o鈥檙 byd.
Nodiadau i olygyddion
Mae llwyddiannau diweddar sector chwaraeon Cymru鈥檔 cynnwys:
- Bydd Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn cael ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd (a fydd yn cael ei galw鈥檔 Stadiwn Principality o 22 Ionawr 2016) yn 2017.
- T卯m p锚l-droed cenedlaethol Cymru鈥檔 ennill ei le ym Mhencampwriaethau Ewro 2016
- Cynhaliwyd G锚m Brawf Cyfres y Lludw yn stadiwm SWALEC Caerdydd am y tro cyntaf yn 2015
- Enillodd T卯m Cymru fwy o fedalau nag erioed yng Ngemau鈥檙 Gymanwlad Glasgow 2014
- Cynhaliwyd wyth g锚m Cwpan Rygbi鈥檙 Byd yn Stadiwm y Mileniwm yn 2015