Datganiad i'r wasg

Dathliadau cartref y digwyddiad i ddod ag Uwchgynhadledd NATO yn fyw

Caiff calon Casnewydd ei drawsnewid ar gyfer g诺yl diwylliant a bwyd ar thema NATO sydd i鈥檞 gynnal gan Llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Newport City riverfront

Ddydd Sadwrn G诺yl y Banc caiff trigolion y ddinas flas ar fwyd a diod 28 cenedl y Gynghrair mewn g诺yl sy鈥檔 rhedeg ar hyd glannau鈥檙 Afon Wysg ger Theatr Glan yr Afon a The Wave. Bydd milwyr o ar draws y fyddin, gan gynnwys Brig芒d 160 (Cymru), wrth law i arddangos cerbydau ac offer milwrol, a chogyddion y fyddin yn coginio y prydau maent yn eu paratoi i鈥檙 milwyr ar y rheng flaen.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 11:30am ar 23 Awst gyda 50 o gerddorion o Band y Marchoglu Cartref yn perfformio yng nghanol y ddinas. Bydd y band wedyn yn symud draw i Rodney Parade i ddiddanu鈥檙 dorf yn g锚m CP Sir Casnewydd yn erbyn Burton Albion, lle bydd t卯m arddangos y Catrawd Parasiwt, a鈥檙 Red Devils, yn awyr-blymio i鈥檙 cae i gyflwyno鈥檙 b锚l i鈥檙 dyfarnwr.

Yn y cyfamser, bydd bwydydd o Sbaen i Latfia, ac o Dwrci i鈥檙 Unol Daleithiau, yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr 芒 cherddoriaeth, adloniant a gweithgareddau i blant gan gynnwys waliau dringo a chwrs antur chwyddadwy y fyddin.

Uchafbwynt y dydd fydd gweld awyrennau Spitfire a Hurricane o Frwydr Prydain yn hedfan heibio. Mae鈥檙 dathliadau i fod i orffen am 16.30.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb:

Byddwn yn annog pobl i fynychu鈥檙 诺yl os am ddiwrnod allan gwych fydd yn gyfle i brofi bwyd a diwylliant gwledydd NATO.

Mae gan Gasnewydd lawer iawn i鈥檞 gynnig a bydd y ddinas heb os yn gartref gwych i鈥檙 Uwchgynhadledd y mis nesaf.

Yr Uwchgynhadledd fydd y casgliad mwyaf o arweinwyr y byd erioed i ddigwydd yn y DU. Bydd Casnewydd yn chwarae r么l hanfodol wrth helpu i arddangos popeth sy鈥檔 wych am Gymru ac i ddangos paham y dylai pobl ein dewis ar gyfer busnes, gwyliau neu addysg.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, dirprwy arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:

Mae dathliadau cartref y digwyddiad yn addo rhywbeth i鈥檙 teulu cyfan ei fwynhau. Gyda鈥檌 thema o NATO, bydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth o鈥檙 digwyddiad byd-eang sy鈥檔 digwydd yn ein dinas fis nesaf.

Mae Uwchgynhadledd NATO 2014 yn cael ei chynnal yn y Celtic Manor ar 04-05 Medi.

Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar

Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Awst 2014