Stori newyddion

Cyhoeddi tref hanesyddol yng Ngogledd Cymru fel y lleoliad ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog 2018

Llandudno i gynnal degfed digwyddiad cenedlaethol Diwrnod y Lluoedd Arfog.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Armed Forces Day, RAF Aerobatic Team, The Red Arrows.

Armed Forces Day, RAF Aerobatic Team, The Red Arrows.

Mae鈥橪lywodreath y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd degfed digwyddiad cenedlaethol Diwrnod y Lluoedd Arfog yn digwydd yn ac o amgylch tref Llandudno ym mwrdeistref sirol Conwy, Gogledd Cymru.

Cefnogir y digwyddiad yn y dref hanesyddol arfordirol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, ynghyd 芒 Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Llywodraeth Cymru.

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymuno 芒 miloedd o bobl yn nathliadau De Cymru yng Nghaerffili i anrhydeddu gwaith ac ymroddiad ein Milwyr dewr sy鈥檔 gweithio ym mhob cwr o鈥檙 byd.

Bydd Mr Cairns yn darllen yn y Gwasanaeth Awyr Agored traddodiadol o flaen Castell Caerffili, cyn mwynhau rhaglen lawn o ddigwyddiadau a fydd yn cynnwys arddangosfeydd milwrol a cherddoriaeth fyw.

Meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwyf wrth fy modd y bydd digwyddiad cenedlaethol Diwrnod y Lluoedd Arfog yn dychwelyd i Gymru yn 2018. Yr adeg hon blwyddyn nesaf, byddwn yn gweld cyn-filwyr o ryfeloedd y gorffennol a milwyr sy鈥檔 gwasanaethu mewn gwrthdrawiadau o amgylch y byd heddiw yn gorymdeithio ochr yn ochr yn Llandudno, wedi鈥檜 huno wrth ymfalch茂o yng ngwasanaethu dros eu gwlad.

Mae gennym gysylltiad arbennig gyda鈥檔 Lluoedd Arfog yng Nghymru ac mae鈥檙 digwyddiad cenedlaethol hwn yn gyfle i鈥檙 cyhoedd ddangos eu gwerthfawrogiad a鈥檜 balchder o鈥檔 milwyr, llongwyr a pherson茅l yr Awyrlu, sy鈥檔 aberthu gymaint dros eraill.

Mae ein diolchgarwch hefyd yn ymestyn at y teuluoedd maent yn eu gadael a chyn-filwyr y gorffennol a鈥檙 presennol, sydd wedi cyfrannu blynyddoedd o鈥檌 bywydau i wasanaethu. Mae鈥檔 fraint i mi allu nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog heddiw 鈥� ac yn y blynyddoedd i ddod 鈥� yn eu cwmni.

Dywedodd Earl Howe, y Gweinidog Amddiffyn dros yr Arglwyddi:

Mae Llandudno yn lleoliad gwych ar gyfer dathliadau blwyddyn nesaf ac rwy鈥檔 si诺r y bydd y dref yn dod 芒鈥檙 genedl gyfan ynghyd i ddathlu ein Lluoedd Arfog.

Roedd Cymru鈥檔 falch iawn i gynnal y digwyddiad cenedlaethol yn 2010 pan ddathlodd miloedd o bobl yng Nghaerdydd. Mae鈥檙 gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a鈥檙 cymunedau lleol, ynghyd 芒 hanes cyfoethog a bywiog Llandudno, yn golygu bod y dref yn ddewis perffaith i wneud y digwyddiad yn un fwy llwyddiannus byth yn 2018.

Mae gan Gogledd Cymru lawer o gysylltiadau hanesyddol a chyfredol gyda鈥檙 Lluoedd Arfog, gan gynnwys Unedau Parhaol ac Unedau Wrth Gefn y Fyddin, megis y Llu Brenhinol Cymreig, sy鈥檔 recriwtio o鈥檙 ardal. Mae Awyrlu Brenhinol y Fali ar Ynys M么n yn gartref i ganolfan hyfforddi awyrennau cyflym. Mae bron 10,000 o gyn-filwyr yn byw yng Nghonwy, ac yn cael cefnogaeth gan nifer o elusennau lleol a chenedlaethol.

Eleni, roedd y digwyddiadau ar hyd yr arfordir yn cynnwys Gorymdaith Lluoedd Arfog yn nhref Caernarfon ar 17 Mehefin, a heddiw mae parti stryd gyda thema Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal yng Nghonwy.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Mehefin 2017