Gall y Fargen Twf chwyldroi economi Gogledd Cymru
Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cynnal cyfarfod cynnydd ar Fargen Twf Gogledd Cymru yn Llundain heddiw

Bydd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU a鈥檙 Arglwydd Bourne yn croesawu ASau o bob cwr o Ogledd Cymru heddiw i drafod y cynnydd a wnaed mewn perthynas 芒 Bargen Twf Gogledd Cymru.
Mae鈥檙 Fargen Twf yn nodi gweledigaeth ar gyfer y rhanbarth gyda鈥檙 nod o greu 5,300 o swyddi a denu buddsoddiad sector preifat gwerth 拢1 biliwn yn y rhanbarth dros y 15 mlynedd nesaf.
Mae prif weithredwyr ac arweinyddion y chwe chyngor yn y rhanbarth wedi cefnogi鈥檙 cynlluniau, ac mae鈥檙 cyfarfod bwrdd crwn heddiw yn gyfle i d卯m y prosiect gyflwyno ei gynigion i ASau Gogledd Cymru.
Bydd Jake Berry, Gweinidog ar ran Pwerdy Gogledd Lloegr, yn bresennol hefyd gan fod y cynlluniau鈥檔 cyd-fynd ag agenda Pwerdy Gogledd Lloegr, ac yn manteisio ar gysylltiadau economaidd y rhanbarth 芒 Gogledd-orllewin Lloegr.
Nod y fargen yw: * adeiladu ar gryfderau鈥檙 rhanbarth yn y sector carbon isel, y sector gweithgynhyrchu uwch a鈥檙 sectorau digidol * hybu twf busnes ar ffurf canolfannau Technoleg Glyfar ac Arloesi a Busnes Rhanbarthol * creu 5,000 o swyddi newydd
Dywedodd Guto Bebb, cyn y cyfarfod bwrdd crwn:
Bydd bargen twf ar gyfer Gogledd Cymru yn chwyldroi鈥檙 ffordd mae ein trefi a鈥檔 pentrefi yn rheoli eu hunain - symud pwerau i lawr o Lundain a Chaerdydd a鈥檜 rhoi i arweinyddion lleol sydd mewn sefyllfa well i wneud penderfyniadau sy鈥檔 effeithio ar eu cymunedau.
Mae Pwerdy Gogledd Lloegr, ynghyd 芒 bargen twf, yn cynrychioli ein cyfle gorau i ddod 芒 newid trawsnewidiol i Ogledd Cymru. Mae鈥檙 rhanbarth mewn sefyllfa berffaith i elwa o Bwerdy Gogledd Lloegr. Mae ei safle allforio a鈥檌 enw da am brosiectau ynni mawr yn gwneud y rhanbarth yn bartner perffaith ar gyfer cydweithredu gwell er mwyn ehangu economi鈥檙 Gogledd.
Yn sgil lansio鈥檙 Strategaeth Ddiwydiannol fis diwethaf, nawr yw鈥檙 amser delfrydol i fusnesau ac awdurdodau lleol achub ar y cyfle i ddod ynghyd. Mae Llywodraeth y DU yma i gefnogi a gweithio gyda chwmn茂au a grwpiau ar lawr gwlad wrth iddynt ddatblygu bargen bwrpasol sy鈥檔 gweithio i Ogledd Cymru i gyd.