Datganiad i'r wasg

Dathlu llwyddiant GWYCH Cymru

David Jones yn cynnal derbyniad busnes Dydd G诺yl Dewi

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

St David's Day reception

O fentrau sy鈥檔 tyfu鈥檔 gyflymaf yng Nghymru i gwmn茂au sefydledig sy鈥檔 cael dylanwad dramor, mae cynrychiolwyr o fusnesau o bob rhan o Gymru wedi ymuno ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, mewn derbyniad i ddathlu llwyddiant economaidd cynyddol yng Nghymru.

Cynhelir y digwyddiad yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn Llundain, a wnaeth ddod 芒 chynrychiolwyr o fusnesau a chymdeithas Cymru ynghyd i gydnabod a gwerthfawrogi eu cyfraniad at economi Cymru.

Dywedodd David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Roeddwn falch iawn o gael y cyfle i ddod 芒 chynifer o bobl o fyd busnes, y celfyddydau, twristiaeth a diwylliant yng Nghymru at ei gilydd neithiwr. Mae eu gwaith o fudd i Gymru ac yn gyfraniad sylweddol at ddarlun economaidd y Deyrnas Unedig sy鈥檔 gwella鈥檔 gyflym.

Wnaethy y derbyniad, a gafodd ei amseru i nodi wythnos Dydd G诺yl Dewi, groesawi swyddogion o gwmn茂au rhyngwladol fel Airbus, i Fusnesau Bach a Chanolig sef asgwrn cefn yr economi sy鈥檔 tyfu.

Bydd y digwyddiad hefyd yn tanlinellu lefel cymorth Llywodraeth y DU sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru sy鈥檔 bwriadu ymuno 芒 marchnadoedd tramor neu dyfu ynddynt. Mae UKTI yn cynnig ystod eang o raglenni cymorth, gan gynnwys help gydag ymchwil i鈥檙 farchnad a dod o hyd i gysylltiadau dramor, a bydd busnesau a fydd yn bresennol heno yn cael eu hannog i fanteisio ar bob cyfle sydd ar gael iddyn nhw i dyfu ac ehangu mewn marchnadoedd newydd.

Ychwanegodd David Jones:

Dim ond wythnos diwethaf roeddwn yn croesawu dirprwyaeth o Indonesia ar ymweliadau 芒 busnesau yng ngogledd Cymru, ac rwyf newydd ddychwelyd o Oman a Malaysia lle b没m yn ymweld 芒 buddsoddwyr i hyrwyddo鈥檙 Deyrnas Unedig fel cyrchfan ar gyfer busnesau.

Mae鈥檙 manteision dichonol i fusnesau sy鈥檔 deillio o fasnachu rhyngwladol yn amlwg. Mae gennym fusnesau rhagorol yng Nghymru sy鈥檔 masnachu鈥檔 rhyngwladol, sy鈥檔 dangos bod busnesau Cymru yn gallu bod yn llwyddiannus mewn marchnadoedd byd-eang.

Bydd Uwchgynhadledd NATO, a gynhelir yng Nghasnewydd yn nes ymlaen eleni hefyd yn gyfle enfawr i hyrwyddo Cymru i鈥檙 byd fel lle ffantastig ar gyfer gwyliau a busnes.

Yn ystod y 12 mis nesaf, wrth i鈥檙 adferiad ennill momentwm, fy ngobaith i yw y bydd y sector preifat yng Nghymru鈥檔 parhau i ffynnu er mwyn creu economi fwy cytbwys sy鈥檔 edrych am allan ac yn gwneud y defnydd gorau o鈥檙 holl gyfleoedd a chefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Mawrth 2014