Stori newyddion

Y llywodraeth yn cyhoeddi y bydd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn dod yn orfodol fesul tipyn

Bydd gan landlordiaid ac unigolion hunangyflogedig fwy o amser i baratoi ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol (MTD) ar gyfer Hunanasesiad Treth Incwm (ITSA), yn dilyn cyhoeddiad heddiw (19 Rhagfyr 2022) gan y llywodraeth.

Bydd gan landlordiaid ac unigolion hunangyflogedig fwy o amser i baratoi ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol (MTD) ar gyfer Hunanasesiad Treth Incwm (ITSA), yn dilyn cyhoeddiad heddiw (19 Rhagfyr 2022) gan y llywodraeth.

Mae鈥檙 llywodraeth yn deall bod landlordiaid ac unigolion hunangyflogedig yn wynebu amgylchedd economaidd heriol ar hyn o bryd, a bod y newid i MTD ar gyfer ITSA yn cynrychioli newid sylweddol i drethdalwyr ac i CThEF o ran sut y caiff incwm o eiddo a hunangyflogaeth ei adrodd, ac felly mae鈥檔 rhoi cyfnod hirach i baratoi ar gyfer MTD. Bydd y defnydd gorfodol o feddalwedd yn cael ei gyflwyno鈥檔 raddol, felly, o fis Ebrill 2026 ymlaen, yn hytrach nag o fis Ebrill 2024 ymlaen.

O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn ofynnol i landlordiaid ac unigolion hunangyflogedig, sydd ag incwm o fwy na 拢50,000, gadw cofnodion digidol a darparu diweddariadau chwarterol i CThEF ynghylch eu hincwm a gwariant, a hynny drwy feddalwedd sy鈥檔 cydweddu ag MTD. Bydd yn rhaid i鈥檙 rheini sydd ag incwm rhwng 拢30,000 a 拢50,000 wneud hyn o fis Ebrill 2027 ymlaen. Bydd y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn gallu ymuno鈥檔 wirfoddol ymlaen llaw , sy鈥檔 golygu y byddant yn gallu cael gwared ar wallau cyffredin ac arbed amser wrth reoli eu materion treth.

Mae鈥檙 llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi adolygiad o anghenion busnesau sy鈥檔 llai o faint, yn enwedig y rhai hynny sydd o dan y trothwy incwm o 拢30,000. Bydd yr adolygiad yn ystyried sut y dylai MTD ar gyfer ITSA gael ei lunio i ddiwallu anghenion y busnesau hyn sy鈥檔 llai o faint, a鈥檙 ffordd orau iddynt gyflawni eu hymrwymiadau o ran Treth Incwm. Bydd hefyd yn llywio鈥檙 dull o weithredu ar gyfer unrhyw gyflwyniad pellach o MTD ar gyfer ITSA ar 么l mis Ebrill 2027.

Ni chaiff defnydd gorfodol o MTD ar gyfer ITSA ei ymestyn i bartneriaethau cyffredinol yn 2025 fel y cyhoeddwyd yn flaenorol. Mae鈥檙 llywodraeth wedi ymrwymo o hyd i gyflwyno MTD ar gyfer ITSA i bartneriaethau yn unol 芒鈥檌 gweledigaeth a nodwyd yn y Strategaeth Gweinyddu Trethi.

Meddai Victoria Atkins, yr Ysgrifennydd Ariannol i鈥檙 Trysorlys:

Mae鈥檔 iawn ein bod ni鈥檔 cymryd yr amser i weithio gyda鈥檔 gilydd i wneud y mwyaf o fanteision Troi Treth yn Ddigidol i fusnesau bach drwy roi鈥檙 newid ar waith yn raddol. Mae鈥檔 bwysig sicrhau bod hyn yn gweithio i bawb: trethdalwyr, asiantau treth, datblygwyr meddalwedd, yn ogystal 芒 CThEF.

Dylai busnesau llai, yn benodol, allu elwa ar y manteision sy鈥檔 dod yn sgil mwy o ddigideiddio o ran Treth Incwm mewn ffordd sy鈥檔 diwallu eu hanghenion. Dyna pam rydyn ni hefyd yn cyhoeddi heddiw adolygiad i sefydlu鈥檙 ffordd orau o wneud hyn.

Meddai Jim Harra, Prif Weithredwr a Phrif Ysgrifennydd Parhaol Cyllid a Thollau EF:

Mae CThEF wedi ymrwymo o hyd i gyflwyno鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol fel rhan hollbwysig o鈥檔 strategaeth o ran digideiddio a moderneiddio鈥檙 system dreth, ond rydyn ni am wneud yn si诺r ein bod ni鈥檔 cael hyn yn iawn ac yn ei gyflwyno鈥檔 effeithiol.

Bydd dull graddol o gyflwyno defnydd gorfodol o MTD ar gyfer Treth Incwm yn ein galluogi ni i weithio gyda鈥檔 partneriaid i wneud yn si诺r bod ein cwsmeriaid sy鈥檔 landlordiaid neu鈥檔 hunangyflogedig yn gallu gwneud y mwyaf o鈥檙 cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn.

Mae鈥檙 cyhoeddiad yn ymwneud ag MTD ar gyfer ITSA yn unig. Mae鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW eisoes wedi鈥檌 roi ar waith ac mae鈥檔 dangos y manteision y mae dulliau digidol o weithio yn eu rhoi i fusnesau ac i鈥檙 system dreth.

Nodiadau i olygyddion:

  1. Mae copi o鈥檙 Datganiad Ysgrifenedig Gweinidogol a wnaed gan Victoria Atkins, yr Ysgrifennydd Ariannol i鈥檙 Trysorlys, ar 19 Rhagfyr 2022 ar gael:
  2. O dan MTD ar gyfer ITSA, bydd busnesau, unigolion hunangyflogedig a landlordiaid yn cadw cofnodion digidol, ac yn anfon crynodeb chwarterol o incwm a threuliau eu busnes i CThEF gan ddefnyddio meddalwedd sy鈥檔 cydweddu ag MTD. Mewn ymateb, byddant yn cael cyfrifiad treth amcangyfrifedig, yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddwyd, i鈥檞 helpu i gyllidebu ar gyfer eu treth. Ar ddiwedd y flwyddyn, gallant ychwanegu unrhyw wybodaeth nad yw鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 busnes a chwblhau eu materion treth gan ddefnyddio meddalwedd sy鈥檔 cydweddu 芒鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol. Bydd hyn yn disodli鈥檙 angen am Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
  3. Caiff arweiniad ar 188体育 ynghylch MTD ar gyfer ITSA ei ddiweddaru鈥檔 fuan.
  4. Cyn cyhoeddiad heddiw, byddai MTD ar gyfer ITSA wedi dod yn orfodol o fis Ebrill 2024 ymlaen ar gyfer cwsmeriaid 芒 chyfanswm incwm gros o fwy na 拢10,000 mewn blwyddyn dreth, a hynny o ffynonellau hunangyflogaeth ac eiddo, a byddai wedi dod yn orfodol ar gyfer partneriaethau o 2025 ymlaen.
  5. Mae鈥檙 Strategaeth Gweinyddu Trethi ar gael yn: www.gov.uk/government/publications/tax-administration-strategy
  6. Dilynwch Swyddfa Wasg CThEF ar Twitter @HMRCpressoffice

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Rhagfyr 2022