Datganiad i'r wasg

Hwb i Gymru gan y Cynllun Talebau Gigabit

Mae busnesau yng Nghymru bellach yn gymwys ar gyfer talebau band eang gwerth 拢5,500

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Broadband in Tenby, Wales

Bydd Cynllun Talebau Gigabit Llywodraeth y DU yn derbyn hwb yng Nghymru diolch i bartneriaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae gweinidogion o鈥檙 ddwy lywodraeth yn annog busnesau a chymunedau yng Nghymru i wneud cais am y cyllid i sicrhau bod ganddynt gyflymder o gigabit.

Mae鈥檙 cyhoeddiad yn dilyn cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac mae鈥檔 adlewyrchu costau uwch gosod seilwaith ffeibr yng Nghymru o ganlyniad i dopograffeg y wlad a lleoliad adeiladau.

Ar hyn o bryd mae Talebau Gigabit Llywodraeth y DU 鈥� sy鈥檔 werth hyd at 拢2,500 鈥� ar gael i fusnesau bach a鈥檙 cymunedau lleol o鈥檜 hamgylch i gyfrannu at y gost o osod cyswllt sy鈥檔 addas ar gyfer gigabit.

O dan y trefniadau newydd bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi 拢3,000 ychwanegol i fusnesau o dan faint penodol, a 拢300 i bob eiddo preswyl. Mae hyn yn golygu bod hyd at 拢5,500 ar gael fesul busnes ar gyfer prosiectau gr诺p* yng Nghymru, o gymharu 芒 拢2,500 yng ngweddill y DU. Bydd hyd at 拢800 arall ar gael i bob eiddo preswyl yng Nghymru, o gymharu 芒 拢500 yng ngweddill y DU.

Dywedodd Gweinidog dros Faterion Digidol y DU, Margot James:

Mae鈥檙 cynllun hwn, sy鈥檔 gyfyngedig i fusnesau a chymunedau yng Nghymru, yn rhan hanfodol o鈥檙 Strategaeth Ddiwydiannol fodern ar gyfer adeiladu Prydain sy鈥檔 barod ar gyfer y dyfodol. Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, gyda鈥檔 gilydd gallwn ni sicrhau bod gan bawb yng Nghymru y cysylltedd sydd ei angen arnynt ar gyfer yr oes ddigidol.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters:

Er bod y mwyafrif helaeth o鈥檙 adeiladau yng Nghymru bellach yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn, rydyn ni鈥檔 gweithio鈥檔 galed i helpu鈥檙 pump y cant sy鈥檔 weddill a lle nad oes gan gwmn茂au masnachol unrhyw gynlluniau. Nid oes ateb sy鈥檔 addas i bawb ar gyfer cyrraedd yr adeiladau sy鈥檔 weddill, ac mae鈥檙 Cynllun Talebau Gigabit yn rhan bwysig o gyfres o fesurau i helpu i gyflawni hyn.

Gall y cynllun talebau hwn ddarparu ffynhonnell gyllido hanfodol ar gyfer prosiectau cysylltedd gr诺p, a gallai fod yn fanteisiol iawn i gymunedau nad oes ganddynt fynediad ar hyn o bryd. Mae鈥檔 dda gen i ein bod wedi llwyddo i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu cynllun gwell ar gyfer Cymru, o ystyried yr heriau penodol rydyn ni鈥檔 eu hwynebu yma mewn perthynas 芒 daearyddiaeth a lleoliad adeiladau.

Mae鈥檙 cynllun talebau鈥檔 rhan o becyn sydd 芒鈥檙 nod o wella cysylltedd yng Nghymru. Mae rhaglen 拢200 miliwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sef Cyflymu Cymru, eisoes wedi darparu band eang cyflym iawn ar gyfer dros 733,000 o gartrefi a busnesau lle nad oedd gan gwmn茂au masnachol unrhyw gynlluniau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi 拢22.5 miliwn arall i gyrraedd 26,000 adeilad arall, ac mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno Rhwymedigaeth Gwasanaeth Gyffredinol** a fydd yn gwneud band eang cyflym yn hawl gyfreithiol ar gyfer pob cartref a busnes yng Nghymru erbyn 2020.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU i Gymru Nigel Adams:

Mae cysylltedd gwell i gartrefi a busnesau yng Nghymru yn rhan ganolog mewn ymdrechion Llywodraeth y DU i gryfhau ein heconomi ac i gefnogi ein sector digidol sy鈥檔 ehangu鈥檔 gyflym.

Bydd y cynllun talebau yn sicrhau bydd gan fwy o bobl yng Nghymru fynediad i gyflymderau band eang dibynadwy, yn marcio gam sylweddol arall ymlaen yn ymdrechion y ddwy lywodraeth i sicrhau bod gan Gymru rwydwaith band eang addas ar gyfer y dyfodol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Mawrth 2019