Hwb ariannol gwerth 拢650 miliwn i Gymru
Bydd yr arian hwn yn cefnogi pobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y mae coronafeirws yn effeithio arnynt.

- Mae Llywodraeth y DU yn darparu 拢650 miliwn ychwanegol i鈥檙 weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru i helpu i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 coronafeirws.
- Gellir gwario鈥檙 arian yn awr neu ei gario drosodd i鈥檞 wario ym mlwyddyn ariannol 2021/22, gan ddarparu hyblygrwydd hanfodol a digynsail.
- Mae鈥檙 arian yn ychwanegol at y 拢5.2 biliwn sydd eisoes wedi鈥檌 ddarparu ar gyfer eleni drwy warant Barnett a dalwyd ymlaen llaw, gan ddod 芒鈥檙 cyfanswm i 拢5.85 biliwn.
Mae Llywodraeth y DU wedi darparu 拢650 miliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru i gefnogi鈥檙 bobl, y busnesau a鈥檙 gwasanaethau cyhoeddus y mae鈥檙 coronafeirws wedi effeithio arnynt.
Mae鈥檙 cyllid hwn yn dod 芒鈥檙 cyfanswm a ddyrannwyd drwy fformiwla Barnett i Lywodraeth Cymru ers dechrau鈥檙 pandemig i 拢5.85 biliwn.
I gydnabod yr amgylchiadau eithriadol ac mewn ymateb i alwadau am hyblygrwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cario faint bynnag o鈥檙 拢650 miliwn sydd ddim yn cael ei wario eleni drosodd i flwyddyn ariannol 2021/22. Mae hyn ar ben yr adnoddau sydd ganddynt eisoes i drosglwyddo cyllid rhwng blynyddoedd.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru:
Rydym ni yn Llywodraeth y DU wedi bod yn ddi-ildio yn ein penderfyniad i gael y gefnogaeth angenrheidiol i bob rhan o鈥檙 DU, a bydd cyhoeddiad heddiw yn ychwanegu at y gefnogaeth honno i Gymru, gan wneud cyfanswm o 拢5.85 biliwn.
Mae hynny鈥檔 ychwanegol at holl becynnau cymorth eraill Llywodraeth y DU, gan gynnwys y cynllun ffyrlo, y Cynllun Estyn Llaw drwy Fwyta Allan a鈥檙 amrywiol fenthyciadau busnes.
Mae鈥檔 bwysig bod y cyllid hwn nawr yn cyrraedd y busnesau a鈥檙 unigolion perthnasol ledled Cymru wrth i ni geisio ailadeiladu economi鈥檙 DU.
Yn dilyn y diweddariad blaenorol ar 24 Rhagfyr, rydym yn rhagweld mai hwn fydd y diweddariad terfynol ar gyfer 2020-21 fel rhan o鈥檙 broses o gwblhau cyllid adrannol yng nghyswllt Amcangyfrifon Atodol.