Cyllid gan Lywodraeth y DU i greu Clwstwr Diwydiannol arloesol yn Ne Cymru
Dyrannwyd 拢20 miliwn i sbarduno鈥檙 chwyldro diwydiannol gwyrdd, gan leihau allyriadau a chreu swyddi yn y rhanbarth

Bydd cynllun newydd uchelgeisiol sy鈥檔 ceisio datblygu parth diwydiannol sero-net yn Ne Cymru erbyn 2040 yn elwa o bron i 拢20 miliwn o gyllid gan lywodraeth y DU a gallai greu 5,000 o swyddi newydd, yn 么l cyhoeddiad Ysgrifennydd Busnes ac Ynni y DU yr wythnos hon (dydd Mercher 17 Mawrth).
Mae鈥檙 cynllun yn un o naw prosiect technoleg werdd ledled y DU sy鈥檔 elwa o gronfa o 拢171 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i leihau allyriadau o ddiwydiant, ac mae鈥檔 rhan o becyn ehangach o fesurau, sy鈥檔 cynnwys glasbrint uchelgeisiol i ddarparu sector diwydiannol carbon isel cyntaf y byd.
Bydd yr 拢20 miliwn o gyllid yn cefnogi鈥檙 gwaith o ddatblygu Clwstwr Diwydiannol yn Ne Cymru, yn ymestyn o Sir Benfro i鈥檙 ffin rhwng Cymru a Lloegr. Nod y prosiect hwn yw creu cynllun cynaliadwy ar gyfer y rhanbarth drwy gynhyrchu a dosbarthu p诺er hydrogen, cynhyrchu trydan glanach sy鈥檔 defnyddio technolegau dal carbon, nwy naturiol sy鈥檔 llawn hydrogen a datgarboneiddio diwydiant ar raddfa fawr drwy newid tanwydd a chynhyrchu tanwyddau cludo glanach.
Ar hyn o bryd, mae diwydiant yng nghlwstwr De Cymru yn cynhyrchu bron i naw miliwn tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn 鈥� tua 12% o gyfanswm diwydiant y DU. Felly, bydd Clwstwr Diwydiannol De Cymru yn helpu i leihau allyriadau鈥檔 sylweddol, gan wella ansawdd yr aer a chreu cyfleoedd i Dde Cymru fod yn arweinydd o ran twf economaidd a diwydiannol datgarboneiddio.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Bydd datblygu De Cymru yn barth diwydiannol sero-net erbyn 2040 yn creu miloedd o swyddi ac yn sicrhau gwelliannau yn yr amgylchedd lleol ar yr un pryd.
Bydd gofyn gwneud llawer o newidiadau ar draws ein heconomi er mwyn cyrraedd targedau hinsawdd Llywodraeth y DU. Ond, yn Ne Cymru ac mewn mannau eraill byddwn yn cyflawni ein nodau mewn ffordd sy鈥檔 diogelu swyddi, yn creu diwydiannau newydd ac yn annog twf economaidd.
Dywedodd Ysgrifennydd Busnes ac Ynni y DU, Kwasi Kwarteng:
Mae gan Dde Cymru hanes balch o fentrau diwydiannol a bydd y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth y DU yn creu cyfleoedd newydd i鈥檙 rhanbarth ddod yn arweinydd yn y sector carbon isel, gan ddiogelu swyddi lleol a chreu economi werdd newydd.
Drwy ddefnyddio technoleg newydd i atal rhyddhau allyriadau, bydd y prosiect hwn yn creu cynllun mwy cynaliadwy ar gyfer y rhanbarth yn y dyfodol, ac yn arwain at amgylchedd gwell i bobl De Cymru.
Gan adeiladu ar Gynllun 10 Pwynt y Prif Weinidog ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd a gyhoeddwyd y llynedd, mae鈥檙 Strategaeth Datgarboneiddio Diwydiannol newydd yn nodi gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer arwain at ddyfodol cystadleuol a gwyrddach i鈥檙 sector gweithgynhyrchu ac adeiladu. Fel rhan o lwybr Llywodraeth y DU at sero-net erbyn 2050, bydd y mesurau鈥檔 creu ac yn cefnogi 80,000 o swyddi yn y DU dros y 30 mlynedd nesaf, ac yn lleihau allyriadau o ddwy ran o dair mewn dim ond 15 mlynedd.
Bydd y strategaeth newydd yn seiliedig ar gefnogi鈥檙 diwydiant presennol i ddatgarboneiddio ac annog twf diwydiannau carbon isel newydd yn y DU er mwyn diogelu a chreu swyddi a busnesau crefftus yn y DU. Bydd yn rhoi sicrwydd tymor hir i fusnesau i fuddsoddi mewn technolegau datgarboneiddio lleol, fel y dechnoleg sy鈥檔 gallu dal a storio allyriadau carbon o orsafoedd diwydiannol 鈥� yn hytrach na rhoi gweithgareddau diwydiannol ar gontract allanol i wledydd ar draws y byd lle mae llawer o allyriadau.
Bydd llywodraeth y DU hefyd yn cyflwyno rheolau newydd ar fesur perfformiad ynni a charbon yr adeiladau masnachol a diwydiannol mwyaf, gan gynnwys blociau swyddfa a ffatr茂oedd, yng Nghymru a Lloegr. Gallai hyn arwain at arbedion posibl o tua 拢2 biliwn y flwyddyn i fusnesau mewn costau ynni yn 2030 a鈥檙 nod yw lleihau allyriadau carbon blynyddol o fwy na dwy filiwn tunnell 鈥� tua 10% o鈥檙 allyriadau presennol o adeiladau masnachol a diwydiannol.