Creu dyfodol band eang ffeibr llawn a 5G i bawb
Llywodraeth y DU yn cyhoeddi strategaeth cysylltedd digidol tymor hir wrth i Sioe Frenhinol Cymru agor ei giatiau

- Cost ehangu band eang llydan i gael ei lleihau鈥檔 sylweddol
- Blaenoriaethu ardaloedd gwledig anghysbell ar gyfer cyllid
- Y llwyfan yn barod ar gyfer y newid i ffeibr llawn a diwedd ar gopr
- Mynediad cynyddol i sbectrwm ar gyfer gwasanaethau 5G arloesol
Byddai ardaloedd gwledig anodd eu cyrraedd yn cael blaenoriaeth ar gyfer band eang sefydlog newydd a chysylltiadau symudol 5G fel rhan o fesurau newydd a gynigir mewn cynllun ledled y DU ar gyfer telegyfathrebu.
Cyhoeddwyd Adolygiad Seilwaith Telegyfathrebu鈥檙 Dyfodol (FTIR) ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-muallt fel rhan o Strategaeth Ddiwydiannol fodern Llywodraeth y DU.
Mae鈥檔 cynnig y newidiadau sy鈥檔 ofynnol i roi i fwyafrif poblogaeth y DU fynediad i 5G, cysylltu 15 miliwn o eiddo i fand eang ffeibr llawn erbyn 2025, a darparu band eang ffeibr llawn ledled y DU gyfan erbyn 2033. Mae seilwaith ffeibr llawn yn hanfodol fel sail i ddarpariaeth 5G.
Wrth galon y strategaeth mae pwyslais ar fwy o ddewis i ddefnyddwyr a mentrau i hybu ehangu cyflymach a throsglwyddo o gopr i ffeibr.
Nod y dull newydd o weithredu yw sbarduno buddsoddiad masnachol ar raddfa fawr yn y rhwydweithiau sefydlog a diwifr sy鈥檔 hanfodol er mwyn i鈥檙 DU barhau i fod yn gystadleuol yn fyd-eang mewn byd digidol.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Jeremy Wright:
Rydyn ni eisiau i bawb yn y DU elwa o gysylltedd o safon byd-eang dim ots ble maen nhw鈥檔 byw, yn gweithio neu鈥檔 teithio. Bydd y glasbrint newydd radical hwn ar gyfer dyfodol telegyfathrebu yn y wlad hon yn cynyddu cystadleuaeth a buddsoddiad mewn band eang ffeibr llawn, yn creu mwy o gyfleoedd masnachol ac yn ei gwneud yn haws ac yn rhatach i ehangu seilwaith ar gyfer 5G.
Heb newid, mae dadansoddiad FTIR yn dynodi mai dim ond tri chwarter y wlad fydd rhwydweithiau band eang ffeibr llawn yn ei gyrraedd o dan yr amodau gorau, a byddai鈥檔 cymryd mwy nag ugain mlynedd i sicrhau hynny. Mae hefyd yn dynodi bod 5G yn cynnig potensial ar gyfer ehangu鈥檙 farchnad telegyfathrebu, gyda chyfleoedd i鈥檙 chwaraewyr presennol a rhai newydd.
Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn glir ers amser maith am bwysigrwydd cysylltedd symudol da i ffyniant economi Cymru yn y dyfodol.
Mae ei fuddsoddiad o 拢69 miliwn mewn darparu band eang cyflym iawn ledled Cymru wedi arwain at Gymru鈥檔 profi cynnydd hynod gyflym mewn mynediad, o 29.4% o gartrefi a busnesau yn 2010 i 94.2% erbyn mis Rhagfyr 2017.
Hefyd mae鈥檔 buddsoddi mewn technolegau newydd fel y fainc brofi wledig 5G y mae Sir Fynwy鈥檔 rhan ohoni a鈥檙 拢6m ar gyfer Rhwydwaith Ffeibr Llawn Leol yng Nghaerdydd - a鈥檙 cyfan yn gamau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd nawr fel rhan o ymrwymiad i wireddu potensial 5G a ffeibr llawn, a fydd yn helpu i greu economi ddigidol flaengar yn y byd sy鈥檔 gweithio i bawb.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:
Mae Llywodraeth y DU eisiau i fanteision digidol gael eu teimlo ledled ein heconomi gyfan, ym mhob rhan o gymdeithas ac ym mhob cornel o鈥檙 wlad. Mae ffyniant Cymru yn y dyfodol yn dibynnu ar hynny.
Seilwaith yw鈥檙 allwedd i鈥檙 ffyniant hwnnw. Mae鈥檙 adolygiad hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd goresgyn rhwystrau sy鈥檔 atal cysylltedd er mwyn sicrhau y gallwn ni fodloni gofynion yr oes ddigidol.
Ond eto ni all Llywodraeth y DU weithio ar ei phen ei hun i greu鈥檙 trawsnewid hwn yng Nghymru. Dyma pam rydyn ni鈥檔 galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda ni i gyflawni ar y polis茂au hyn a gwireddu ein huchelgeisiau cysylltedd ar y cyd. Rydyn ni wedi bod yn galw arnyn nhw ers amser maith i ddilyn arweiniad Llywodraeth y DU yn Lloegr ac ystyried mwy o ryddid a hyblygrwydd ar gyfer defnyddio seilwaith symudol ledled Cymru. Rydyn ni鈥檔 gobeithio y byddan nhw鈥檔 gweithredu ar eu hymrwymiad i roi sylw i鈥檙 mater real iawn o 鈥榝annau digyswllt鈥� symudol ledled y wlad a chreu diwygiadau cynllunio er mwyn cefnogi ehangu鈥檙 seilwaith symudol yng Nghymru, a ddylai fod wedi鈥檌 weithredu ers amser maith.
Nid yn unig mae hyn yn gwneud synnwyr economaidd ond hefyd mae鈥檔 cefnogi鈥檙 newid digidol a fydd yn trawsnewid ein cenedl ni er gwell.
Dyma argymhellion allweddol FTIR:
- Deddfwriaeth newydd a fydd yn gwarantu cysylltiadau ffeibr llawn ar gyfer datblygiadau a adeiledir o鈥檙 newydd;
- Darparu 鈥榟awl i fynediad鈥� i fflatiau, parciau busnes, blociau swyddfeydd ac eiddo arall i denantiaid i Weithredwyr fel bod y rhai sy鈥檔 rhentu鈥檔 gallu cael cysylltedd cyflym, dibynadwy gan y cyflenwr priodol am y pris gorau;
- Diwygiadau i鈥檙 amgylchedd rheoleiddiol ar gyfer band eang ffeibr llawn a fydd yn sbarduno buddsoddiad a chystadleuaeth ac sydd wedi鈥檌 deilwra i wahanol amodau marchnad leol;
- Buddsoddiad cyhoeddus mewn ffeibr llawn ar gyfer ardaloedd gwledig i ddechrau ar yr un pryd 芒 buddsoddiad masnachol mewn lleoliadau trefol;
- Newid sy鈥檔 cael ei arwain gan y diwydiant (o gopr i ffeibr llawn) yn cael ei gydlynu gydag Ofcom;
- Fframwaith cenedlaethol newydd a fydd yn lleihau costau, amser a鈥檙 tarfu a achosir gan waith stryd drwy safoni鈥檙 dull o weithredu ledled y wlad;
- Mynediad cynyddol i sbectrwm ar gyfer gwasanaethau 5G arloesol;
- Dylai seilwaith (gan gynnwys pibellau a charthffosydd) sy鈥檔 eiddo i gyfleustodau eraill fel p诺er, nwy a d诺r, fod yn hawdd cael mynediad iddynt ac ar gael ar gyfer defnydd sefydlog a symudol;
- Ofcom i ddiwygio rheoleiddio, gan ganiat谩u mynediad heb gyfyngiad i bibellau a pholion Openreach at ddefnydd preswyl a busnes, gan gynnwys seilwaith symudol hanfodol;
- Ochr yn ochr 芒 FTIR, mae鈥檙 Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi Pecyn Adnoddau Seilwaith Digidol a fydd yn galluogi i rwydweithiau symudol wneud llawer mwy o ddefnydd o adeiladau鈥檙 Llywodraeth i wella鈥檙 ddarpariaeth ledled y DU.
Bydd FTIR yn sbarduno cystadleuaeth a buddsoddiad masnachol mewn rhwydweithiau ffeibr llawn ledled cymaint o鈥檙 DU 芒 phosib. Fodd bynnag, bydd rhai rhannau o鈥檙 wlad lle bydd yn annhebygol y bydd y farchnad yn gallu cyflawni ar ei phen ei hun.
Yn genedlaethol mae argaeledd ffeibr llawn yn debygol o fod angen cyllid ychwanegol o tua 拢3 biliwn i 拢5 biliwn i gefnogi buddsoddiad masnachol yn y tua 10% terfynol o ardaloedd. Ni ddylid gorfodi鈥檙 ardaloedd hyn, sy鈥檔 wledig yn aml, i aros nes bod gan weddill y wlad gysylltedd cyn gallu cael mynediad i rwydweithiau gallu gigabeit.
Felly bydd y Llywodraeth yn ceisio strategaeth 鈥渙鈥檙 tu allan i mewn鈥� sy鈥檔 golygu y bydd y Llywodraeth, tra mae鈥檙 gystadleuaeth rhwydwaith yn gwasanaethu鈥檙 ardaloedd hyfyw yn fasnachol, yn cefnogi buddsoddiad yn yr ardaloedd mwyaf anodd eu cyrraedd ar yr un pryd. Rydyn ni eisoes wedi datgan oddeutu 拢200 miliwn fel rhan o鈥檙 rhaglen band eang a all hybu鈥檙 ddarpariaeth o rwydweithiau ffeibr llawn ymhellach ar unwaith.
Camau nesaf
Yn fuan byddwn yn cyhoeddi ymgynghoriadau ar y newidiadau deddfwriaethol i wneud fforddfreintiau a chysylltiadau ffeibr mandad yn fwy effeithlon mewn adeiladau newydd. Hefyd bydd casgliadau鈥檙 Adolygiad yn sail i Ddatganiad o Flaenoriaethau Strategol (SSP) y llywodraeth i Ofcom, yn pennu鈥檙 amcanion a鈥檙 canlyniadau strategol y mae鈥檔 rhaid i鈥檙 rheoleiddiwr eu hystyried wrth ymarfer ei swyddogaethau rheoleiddiol.
Notes to Editors
- Dim ond 4% o gysylltiadau ffeibr llawn sydd gan y DU ac mae ar 么l llawer o鈥檔 cystadleuwyr allweddol fel Sbaen (71%), Portiwgal (89%) Ffrainc (tua 28% ac yn cynyddu鈥檔 gyflym).
- Mae rhwydweithiau ffeibr llawn yn gyflymach, mwy dibynadwy, a mwy fforddiadwy i鈥檞 gweithredu na rhwydweithiau copr. Bydd 5G yn darparu band eang symudol cyflymach a gwell ac yn galluogi ceisiadau newydd mewn sectorau diwydiant fel gweithgynhyrchu, iechyd a thrafnidiaeth.
- Mae鈥檙 strategaeth yn ceisio cydnabod gwahaniaethau ar draws ardaloedd gwledig a threfol, ac mae鈥檔 datblygu datrysiadau sydd wedi鈥檜 teilwra i鈥檙 ddau fath o ardal. Daw鈥檙 Adolygiad i鈥檙 casgliad mai鈥檙 dull gorau o weithredu yw hyrwyddo cystadleuaeth a buddsoddiad masnachol os yw hynny鈥檔 bosib, a dim ond ymyrryd pan fo angen.
- Dylai cystadleuaeth yn y farchnad sicrhau rhwydweithiau ffeibr llawn ar draws y rhan fwyaf o鈥檙 DU os byddwn yn sicrhau bod yr amodau鈥檔 briodol (tua 80%). Mae tua 20% o鈥檙 wlad yn debygol o fod angen datrysiadau pwrpasol i sicrhau ehangu rhwydweithiau.
- Nid ond cysylltiadau data symudol cyflymach mae 5G yn ei gynnig, gall hefyd sicrhau amrywiaeth eang o gyfleoedd newydd ar draws sectorau diwydiant fel gweithgynhyrchu, ynni, trafnidiaeth a gofal iechyd. Mae鈥檙 Llywodraeth eisiau annog y cyfleoedd masnachol newydd hyn drwy ddiwygiadau polisi, gan gynnwys gwneud yn si诺r bod sbectrwm ar gael i bawb ac yn cael ei ddefnyddio鈥檔 effeithlon.
- Mae rhedeg rhwydweithiau copr a ffeibr ochr yn ochr yn ddrud ac yn aneffeithlon a bydd strategaeth 鈥榥ewid ffeibr鈥� yn angenrheidiol i ysgogi galw am ffeibr, i alluogi rhwydweithiau newydd i gyflawni graddfa鈥檔 gynt, ac i sicrhau proses bontio lyfn i gwsmeriaid. Bydd y broses o newid yn cael ei harwain gan y diwydiant a bydd yr amseru鈥檔 dibynnu ar gyflymder yr ehangu ar rwydweithiau ffeibr, ac ar y defnydd o鈥檙 rhwydweithiau hynny. Mae鈥檔 realistig tybio y gallai鈥檙 newid ddigwydd yn y rhan fwyaf o鈥檙 wlad erbyn 2030, ond yn y pen draw bydd yr amseru鈥檔 dibynnu ar gyflymder yr ehangu ffeibr ac ar y defnydd wedi hynny o gynhyrchion ffeibr.
- Mae cyfarwyddeb newydd yr UE ar gyfer cyfathrebu electronig - y Cod Cyfathrebu Electronig Ewropeaidd - yn cael ei thrafod ar hyn o bryd. Mae鈥檔 debygol o gael ei mabwysiadu gan yr UE yn fuan. Os caiff y gyfarwyddeb ei mabwysiadu, mae gofyn i ni weithredu, os yw hynny鈥檔 briodol, y prif ddarpariaethau yng nghyfraith y DU, ar y sail y byddai hynny鈥檔 cefnogi amcanion polisi domestig y DU. Bydd hyn yn galluogi ymestyn y cyfnodau adolygu marchnad i bum mlynedd ac yn darparu mecanweithiau i gynorthwyo gydag ehangu鈥檙 rhwydwaith ffeibr mewn rhai ardaloedd.