Datganiad i'r wasg

Lansio prosiect cyntaf Cynllun Twf Gogledd Cymru at brifysgol

Mae鈥檙 Canolfan Prosesu Signalau Digidol (DSP) yn un o sawl prosiect sy鈥檔 derbyn cyllid o鈥檙 Cynllun.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Mae鈥檙 Cynllun Twf Gogledd Cymru gwerth 拢1bn wedi creu hanes wrth lansio鈥檙 cyfleusterau newydd Canolfan Prosesu Signalau Digidol (DSP) Prifysgol Bangor.

Mae technoleg yn y Ganolfan DSP yn rheoli鈥檙 ffordd y caiff signalau digidol eu trawsyrru, gan wella鈥檙 ffordd mae signalau yn cael eu prosesu a鈥檜 derbyn, ac yn eu gwneud yn fwy diogel a chost effeithiol.

Mae cyllid y Cynllun Twf o 拢3 miliwn wedi galluogi鈥檙 Ganolfan DSP i gaffael offer newydd i wneud ymchwil flaengar yn y maes cyfathrebu digidol. Bydd y cyllid yn datblygu atebion i gefnogi gofynion digidol y dyfodol, gan fod o fudd i fusnesau a thrigolion gyda galluoedd cyfathrebu gwell megis 5G a 6G.

Gellir defnyddio鈥檙 offer diweddaraf hefyd i hybu datblygiad prototeipiau newydd; mae enghreifftiau鈥檔 cynnwys cymwysiadau fel gwell diogelwch (cysylltiad amgryptio/dad-amgryptio i wella diogelwch digidol) a synhwyro amgylcheddol (gan nodi newid yn yr amgylchedd allanol trwy drawsyrru fideo). Bydd hyn yn rhoi defnydd mwy cost effeithiol, mwy diogel a mwy effeithlon o鈥檜 cymwysiadau i fusnesau a chymunedau sy鈥檔 defnyddio鈥檙 dechnoleg DSP.

Cafodd y digwyddiad lansio ei nodi gydag ymweliad gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS ac Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, David TC Davies MP.

Dywed David TC Davies MP, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru:

Rwy鈥檔 falch iawn o weld Cynllun Twf Gogledd Cymru yn gwneud cynnydd gwych. Bydd yn dod 芒 buddsoddiad a swyddi sylweddol ac yn help i drawsnewid economi Gogledd Cymru. Ochr yn ochr 芒鈥檙 拢120m sydd wedi鈥檌 ymrwymo i Gynllun Twf Gogledd Cymru, mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi cynlluniau twf ar gyfer pob rhan o Gymru gyda channoedd o filiynau yn fwy o arian. Gan weithio law yn llaw 芒鈥檔 partneriaid, bydd y cynlluniau hyn yn rhyddhau potensial llawn ein cymunedau.

Wrth i Gynllun Twf Gogledd Cymru nodi鈥檙 garreg filltir hon, rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld llawer mwy o brosiectau鈥檔 dwyn ffrwyth ar draws y rhanbarth a ledled Cymru yn y misoedd a鈥檙 blynyddoedd nesaf.

Dywed Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyrraedd pwynt ble byddwn ni鈥檔 gweld prosiect cyntaf y Cynllun Twf yn cael ei wireddu. Mae鈥檔 addas ei fod yn un o鈥檙 sectorau sy鈥檔 tyfu cyflymaf, wrth i ni edrych ar hyrwyddo ymchwil ac arloesi yn y maes, yn ogystal 芒 gwella cysylltedd digidol ar draws y rhanbarth. Bydd y prosiect yn allweddol hefyd wrth i ni fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 bwlch digidol yng Ngogledd Cymru, yn arbennig felly ardaloedd gwledig sydd angen gwell cysylltedd.

Gyda鈥檙 datblygiadau technolegol byd-eang pwysig yma, mae鈥檙 Ganolfan DSP wir yn rhoi Gogledd Cymru ar y map yn y sector cyffrous yma. Mae鈥檙 t卯m eisoes yn gweithio gyda busnesau rhyngwladol ac enwau mawr yn y diwydiant gan gynnwys Ciena, Orange, Fujitsu a BT. Ond, maen nhw hefyd yn gweithio gyda busnesau llai yn y rhanbarth, gan ddarparu mynediad at gyfarpar sy鈥檔 helpu i ddatblygu sgiliau lleol.

Diwedd

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Gorffennaf 2022