Cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer elusennau gwasanaeth sy鈥檔 cefnogi pobl drwy Gymru
Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn parhau gyda Llywodraeth y DU yn cynyddu cefnogaeth ar gyfer elusennau gwasanaeth drwy鈥檙 DU.

Soldiers marching
Mae bron i 拢6 miliwn o gyllid newydd yn cael ei gadarnhau i elusennau milwrol drwy鈥檙 DU, gan gynnwys Prosiect Cyn-filwyr y Bluebirds a Chanolfan Cyn-filwyr Lluoedd Arfog Ceredigion.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn cadarnhau heddiw y bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio ym mis Gorffennaf yngl欧n 芒 rhyddhad treth ar gyfer busnesau sy鈥檔 cyflogi cyn-filwyr.
Heddiw, gall Swyddfa Materion Cyn-filwyr (SMC) a鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn gadarnhau y bydd 40 o elusennau鈥檙 lluoedd arfog sy鈥檔 cefnogi person茅l sy鈥檔 gwasanaethu, cyn-filwyr a鈥檜 teuluoedd drwy Gymru yn derbyn cyllid ychwanegol. Mae hwn yn rhan o becyn cymorth a gyhoeddwyd gan y Canghellor ym mis Ebrill er mwyn sicrhau y gall elusennau barhau 芒鈥檜 gwaith hanfodol yn ystod y pandemig.
Mae cyfanswm o 100 elusen yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael budd o bron i 拢6 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, gan amrywio o elusennau lleol bychain fel y VC Gallery yn Sir Benfro at sefydliadau mwy fel Cymorth i Arwyr.
Mae鈥檙 elusennau yn darparu cefnogaeth i gyn-filwyr a pherson茅l sy鈥檔 gwasanaethu mewn amrediad o feysydd gwahanol, gan gynnwys cyflogaeth, iechyd meddwl a llesiant, iechyd ac adferiad corfforol ynghyd 芒 chefnogaeth i deuluoedd.
Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU yn cadarnhau y bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio鈥檙 mis nesaf ynghylch na fydd angen i gyflogwyr dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyflog unrhyw gyn-filwyr a gyflogir yn ystod y flwyddyn gyntaf mewn cyflogaeth sifilaidd. Mae hyn yn cyflawni ymrwymiad maniffesto Llywodraeth y DU er mwyn annog busnesau i ddefnyddio ymhellach y sgiliau a鈥檙 profiad y gall cyn-filwyr ddod gyda nhw i鈥檙 busnesau.
Dywedodd Johnny Mercer, Gweinidog dros Amddiffyn Pobl a Chyn-filwyr:
Heddiw, rydym yn dathlu ac yn diolch i鈥檔 cyn-filwyr am y gwasanaeth neilltuol y maen nhw wed鈥檌 roi i鈥檙 wlad hon. Er mwyn dangos ein gwerthfawrogiad, rydym yn symud ymlaen yn gyflym gyda materion y cyn-filwyr drwy鈥檙 llywodraeth, drwy Swyddfa Materion Cyn-filwyr. Rydw i wrth fy modd hefyd yn cadarnhau鈥檙 cyllid ychwanegol ar gyfer elusennau gwasanaeth er mwyn eu helpu nhw drwy bandemig Covid-19.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae miloedd o gyn-filwyr drwy Gymru wedi darparu gwasanaeth anhygoel yn ein Lluoedd Arfog. Ynghyd 芒鈥檔 person茅l presennol sy鈥檔 gwasanaethu a鈥檜 teuluoedd, maen nhw鈥檔 haeddu鈥檙 gefnogaeth orau bosibl.
Yn awr, fwy nag erioed; mae鈥檔 hanfodol bod gan elusennau gwasanaeth y cyllid a鈥檙 adnoddau cywir i ymgymryd 芒鈥檜 gwaith hanfodol gydag aelodau ein Lluoedd Arfog yn y gorffennol ac yn awr.
Dywedodd Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys:
Oni bai am y dynion a鈥檙 merched dewr sy鈥檔 gwasanaethu ac yn diogelu ein gwlad, ni fyddai gennym Brydain Fawr yn gartref inni.
Dyna pam y mae鈥檔 rhaid inni barhau i wneud popeth y gallwn ni i gefnogi ein cyn-filwyr drwy鈥檙 amseroedd heriol hyn.
Dywedodd y Cadfridog Syr John McColl, Cadeirydd Conffederasiwn yr Elusennau Gwasanaeth:
Mae鈥檙 cyllid argyfwng hwn yn cael ei groesawu yn fawr iawn ac mae鈥檔 gam tuag at gynnal cefnogaeth sy鈥檔 achub bywydau ar gyfer y rhai hynny sydd mewn angen ar draws Cymuned y Lluoedd Arfog. Mae鈥檙 Sector Elusennau Gwasanaeth unwaith eto wedi dangos dychymyg a phenderfyniad mawr wrth addasu ei ddulliau cyflawni yn ystod yr argyfwng hwn ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio 芒鈥檙 WA a鈥檙 SMC er mwyn cynnal y gwasanaethau hanfodol hyn yn ystod y misoedd sydd i ddod, oherwydd bod gwir effaith y pandemig yn cael ei deimlo gan elusennau drwy鈥檙 Sector.
O dan y cynlluniau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb eleni, bydd cyflogwr sy鈥檔 cyflogi cyn-filwyr sy鈥檔 ennill 拢25k yn arbed oddeutu 拢2,000 mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy wneud hynny.
Ar hyn o bryd, mae cyflogwyr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr o 13.8% o gyflog y gweithiwr. O dan y mesur hwn, byddan nhw鈥檔 gallu arbed y gost hon ar gyflog gweithiwr hyd at y Terfyn Enillion Uchaf (拢50,000).
Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr SMC ei fod yn lansio astudiaeth i edrych a yw COVID-19 wedi cael unrhyw effaith benodol ar gymuned y cyn-filwyr yn y DU. Bydd hyn ei dro yn galluogi gwneuthurwyr polis茂au yn y llywodraeth i ddeall materion posibl sy鈥檔 effeithio ar gyn-filwyr ac ymateb yn unol 芒 hynny yn seiliedig ar gyngor a thystiolaeth arbenigol.
Mae Swyddfa Materion Cyn-filwyr (SMC), a grewyd y llynedd, yn sicrhau bod y llywodraeth gyfan yn cyflawni gwell canlyniadau ar gyfer cyn-filwyr, yn arbennig mewn meysydd fel iechyd meddwl, cyflogaeth a thai. Mae鈥檔 gweithio mewn partneriaeth ag adrannau Llywodraeth y DU, y Gweinyddiaethau Datganoledig a鈥檙 elusennau er mwyn cydlynu gweithgaredd ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae swyddogaeth yr SMC yn cynnwys:
- Cyfuno holl swyddogaethau鈥檙 llywodraeth a chydlynu darpariaeth y sector elusennol yn well, er mwyn sicrhau bod dyletswydd gydol oes y genedl hon ar gyfer y rhai hynny sydd wedi bod yn gwasanaethu
- Sicrhau bod pob cyn-filwr a鈥檌 deulu yn gwybod lle i gael cefnogaeth pan fydd ei hangen
- Helpu i gynhyrchu 鈥榞olwg unigol ar gyn-filwr鈥� drwy wneud gwell defnydd o ddata er mwyn deall anghenion y cyn-filwyr a lle mae bylchau yn y ddarpariaeth
- Gwella sut y canfyddir cyn-filwyr