拢35 miliwn ychwanegol i Gymru i frwydro yn erbyn y coronafeirws
Mae hyn yn golygu bod cyfanswm y cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymdrech i fynd i'r afael 芒'r coronafeirws yng Nghymru i dros 拢2.1 biliwn

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo 拢35 miliwn ychwanegol i gefnogi Cymru yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi cadarnhau heddiw (dydd Gwener 15 Mai).
Bydd y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru yn cael yr arian ychwanegol o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth y DU mewn cartrefi gofal yn Lloegr, sydd wedi鈥檌 chynllunio i gyflwyno mwy o reolaeth dros heintiau, cynyddu profion, cynyddu cymorth clinigol, sicrhau bod gan awdurdodau lleol Lloegr gynlluniau ar waith i gefnogi cartrefi gofal a hybu gallu鈥檙 gweithlu gofal cymdeithasol.
Mae hyn yn golygu bod cyfanswm y cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i gefnogi鈥檙 ymdrech i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 coronafeirws yng Nghymru i dros 拢2.1 biliwn.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Dyma鈥檙 diweddaraf mewn cyfres o gyllid a roddir yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU i helpu Cymru drwy鈥檙 pandemig hwn, a ddarparwyd ar y cyd 芒 phecyn o fesurau ledled y DU ar raddfa na welwyd erioed o鈥檙 blaen. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod Cymru鈥檔 goresgyn yr argyfwng hwn.
Bydd y cyhoeddiad heddiw yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu darparu gwasanaethau hanfodol tra鈥檔 mynd i鈥檙 afael 芒 chamau nesaf y firws dinistriol hwn.
Mae Llywodraeth y DU yn parhau i gefnogi pobl yng Nghymru drwy ein strategaeth offer amddiffynnol personol (PPE) DU gyfan sy鈥檔 golygu bod gan ein gweithwyr rheng flaen arwrol yr amddiffyniad sydd ei angen arnynt i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 pandemig coronafeirws. Rydym hefyd wedi galw ar y Lluoedd Arfog i hybu ymdrechion meddygol a logistaidd yn ogystal ag ailwladoli dinasyddion Prydain o dramor.
Mae鈥檙 Canghellor Rishi Sunak hefyd wedi cyhoeddi mesurau digynsail i gefnogi busnesau a gweithwyr yng Nghymru a ledled y DU yn ystod pandemig coronafeirws. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys:
- Y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws lle gall cyflogwyr bach a mawr wneud cais am grant gan y llywodraeth o 80% o gyflogau gweithwyr hyd at 拢2,500 y mis. Caiff y cynllun ei 么l-ddyddio i 1 Mawrth ac mae ar gael tan fis Hydref eleni.
- Gohirio鈥檙 chwarter nesaf o daliadau TAW i gwmn茂au, tan ddiwedd Mehefin - sef hwb gwerth 拢30bn i鈥檙 economi.
- Gwerth 拢330 biliwn o fenthyciadau wedi鈥檜 cefnogi a鈥檜 gwarantu gan Lywodraeth y DU i gefnogi busnesau.
- Bydd y Cynllun Benthyciadau Ailgydio yn rhoi benthyciadau hyd at 拢50,000 er budd busnesau bach gyda gwarant o 100% a gefnogir gan y Llywodraeth ar gyfer benthycwyr. Bydd y benthyciadau hyn yn ddi-log am y 12 mis cyntaf a gall busnesau wneud cais ar-lein drwy ffurflen fer a syml.
- Bydd y Cynllun Cymorth Incwm Hunan-Gyflogedig yn helpu gweithwyr llawrydd cymwys yng Nghymru i gael hyd at 拢2,500 y mis mewn grantiau am o leiaf dri mis.