Gwasanaeth cofrestru gwell i leihau ymholiadau ac oedi
Mae Cofrestrfa Tir EF yn cyflwyno gwiriadau digidol gwell i gefnogi'n cwsmeriaid i gyflwyno ceisiadau di-wall.

MMD Creative/Shutterstock.com
-
Bydd gwallau gweinyddol syml, megis gwallau enw neu rif teitl, yn cael eu hamlygu wrth gyflwyno pob cais digidol trwy Business Gateway a鈥檙 Gwasanaeth Cofrestru Digidol yn y porthol.
- Bydd y gwasanaeth gwell yn cael ei ddarparu yn hydref 2025. Byddwn yn gweithio gyda鈥檔 hintegryddion trydydd parti presennol i fudo i鈥檙 gwasanaeth newydd yn ystod y misoedd nesaf.
- Bydd cwsmeriaid yn cael eu hannog i ddatrys gwallau a amlygir cyn ailgyflwyno ceisiadau.
- Trwy ddatrys y gwallau hyn cyn derbyn ceisiadau, byddwn yn arbed miloedd o oriau a dreulir ar dasgau gweinyddol diangen i鈥檔 cwsmeriaid, ac yn galluogi gwell cyflymder gwasanaeth trwy ganiat谩u i weithwyr cais ganolbwyntio ar feysydd cofrestru tir mwy cymhleth.
O hydref 2025, ni fydd cwsmeriaid sy鈥檔 cyflwyno ceisiadau trwy鈥檙 Gwasanaeth Cofrestru Digidol, ar borthol Cofrestrfa Tir EF a thrwy ddarparwyr meddalwedd trydydd parti, yn gallu cyflwyno ceisiadau sy鈥檔 cynnwys gwallau syml. Byddwn yn gweithio gydag integreiddwyr trydydd parti i gefnogi mabwysiadu鈥檙 gwasanaeth newydd hwn.
Gwneir llawer o鈥檙 gwiriadau hyn eisoes yn y Gwasanaeth Cofrestru Digidol ar y porthol, a byddant ar gael yn fuan ar gyfer yr holl feddalwedd sy鈥檔 cael ei galluogi gan Business Gateway.
Erbyn 2028, gallai hyn arbed tua 300,000 o oriau鈥檙 flwyddyn i gwsmeriaid sy鈥檔 aros am broses weinyddol 芒 llaw ddiangen, a diweddu ymholiadau annifyr y gellir eu datrys yn llawer cynharach. Mae hyn yn gyfystyr 芒 thua 150 o bobl yn gweithio amser llawn am flwyddyn.
Meddai Mark Gray, Prif Swyddog Trawsnewid a Thechnoleg
Dyma garreg filltir allweddol arall wrth wella鈥檔 gwasanaeth cwsmeriaid a鈥檔 hamseroedd prosesu. Trwy atal gwallau ymlaen llaw, awtomeiddio tasgau arferol a dileu gohebiaeth ddiangen, byddwn yn arbed amser i鈥檔 cwsmeriaid a鈥檔 gweithwyr cais fel ei gilydd. A鈥檙 cam nesaf yn unig o ran moderneiddio ac awtomeiddio mwy o鈥檔 gwaith yw hyn 鈥� mae llawer mwy i ddod.
Mae Cofrestrfa Tir EF yn canolbwyntio ar wallau gweinyddol hawdd eu hosgoi i arbed amser cwsmeriaid ond hefyd i alluogi awtomeiddio prosesau Cofrestrfa Tir EF ymhellach 鈥� gan ddileu gwaith gweinyddol sy鈥檔 cymryd llawer o amser a gwella cyflymder gwasanaeth cyffredinol.
Bydd y sefydliad yn parhau i wella鈥檙 gwasanaeth cofrestru trwy gyflwyno gwiriadau pellach ar y data sydd wedi ei gynnwys mewn gweithredoedd trosglwyddo ac arwystlon ddiwedd 2026.