Stori newyddion

Cyflogaeth yng Nghymru yn cyrraedd uchafbwynt newydd gyda nifer fwy nag erioed mewn gwaith

Mae ffigurau chwarterol cadarn unwaith eto ar gyfer economi Cymru yn dangos bod cyflogaeth yng Nghymru yn cynyddu ochr yn ochr 芒 gostyngiad yn nifer y bobl sy鈥檔 hawlio budd-daliadau.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Mae鈥檙 farchnad swyddi yng Nghymru yn dal i gryfhau gyda nifer fwy nag erioed o bobl yn awr mewn gwaith, yn 么l ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Mae ffigurau chwarterol cadarn unwaith eto ar gyfer economi Cymru yn dangos bod cyflogaeth yng Nghymru yn cynyddu ochr yn ochr 芒 gostyngiad yn nifer y bobl sy鈥檔 hawlio budd-daliadau. Gwelwyd hefyd ostyngiad yn nifer y bobl a ystyrir yn 鈥渆conomaidd anweithgar鈥� 鈥� rhai nad ydynt mewn cyflogaeth neu鈥檔 ddi-waith, ond sydd er enghraifft yn astudio neu鈥檔 gofalu am aelod o鈥檙 teulu.

Dyma鈥檙 penawdau o Ystadegau鈥檙 Farchnad Lafur:

  • Mae cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 33,000 dros y chwarter diwethaf i lefel uwch nag erioed
  • Roedd y gyfradd gyflogaeth (cyfran y bobl 16-64 oed sydd mewn gwaith) yn 71.5% - i fyny 1.1 pwynt canran dros y chwarter.
  • Mae lefelau diweithdra yng Nghymru wedi gostwng 8,000 yn ystod y chwarter diwethaf
  • Roedd y gyfradd ddiweithdra (cyfran y bobl 16+ sy鈥檔 ddi-waith) yn 5.2% - i lawr 0.7 pwynt canran dros y chwarter.
  • Gostyngodd anweithgarwch economaidd 13,000 dros y chwarter ac mae wedi syrthio 24,000 dros y flwyddyn diwethaf.
  • Gostyngodd y nifer sy鈥檔 hawlio budd-daliadau 900 ym mis Chwefror.
  • Mae yna 675,000 o fenywod mewn gwaith, sef cynnydd o 5,000 (0.8%) dros y chwarter a 18,000 (2.8%) dros y flwyddyn.

Meddai Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae鈥檙 rhain yn set wych o ffigurau cyflogaeth ar gyfer Cymru. Mae optimistiaeth ac uchelgais i鈥檞 teimlo yn economi Cymru ar hyn o bryd, ac mae hyn yn esgor ar swyddi go iawn a chyflogau uwch i bobl Cymru.

Mae mwy nag erioed o bobl Cymru yn awr yn mynd allan i weithio bob dydd 鈥� gan helpu teuluoedd i ddod yn eu blaenau, rhoi bwyd ar y bwrdd, a chodi plant allan o dlodi.

Mae Cymru yn cyflawni unwaith eto 鈥� ond gallwn wneud hyd yn oed mwy. Mae鈥檔 amser anodd dros ben i鈥檙 diwydiant dur a rhaid inni weithio gyda鈥檔 gilydd i roi sylw i鈥檙 sialensiau hyn. Rwy鈥檔 benderfynol o weld Cymru yn dal i ddringo o waelod y tabl cynghrair economaidd, a bydd Cyllideb heddiw yn helpu Cymru i wneud yn union hynny.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Mawrth 2016