Niferoedd uchaf mewn cyflogaeth wrth i economi Cymru achub y blaen
Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn croesawu lefelau cyflogaeth uchel

Cafodd lefelau cyflogaeth uchel eu croesawu heddiw gan Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth i ffigyrau newydd ddangos economi sy鈥檔 adfywio.
Daeth mwy nag 8,000 o bobl o hyd i waith yn y tri mis diwethaf, ac mae鈥檙 gyfradd diweithdra wedi gostwng i lefelau na welwyd ers cyn y dirywiad economaidd yn 2008-09.
Mae Ystadegau鈥檙 Farchnad Lafur heddiw yn dangos y canlynol:
- Mae cyflogaeth i fyny 8,000 dros y chwarter, gyda鈥檙 gyfradd i fyny 0.3 y cant i 71.2 y cant
- Mae diweithdra i lawr 12,000 yn yr un cyfnod, gyda鈥檙 gyfradd yn gostwng 0.8 y cant i 5.3 y cant
- Mae鈥檙 nifer o bobl sy鈥檔 hawlio budd-daliadau wedi gostwng 900
- Mae鈥檙 nifer o bobl ifanc sy鈥檔 hawlio budd-daliadau wedi gostwng 2,000 dros y flwyddyn
- Mae anweithgarwch economaidd - sef pobl nad ydynt mewn cyflogaeth nac yn ddi-waith, ond sydd er enghraifft yn astudio neu鈥檔 gofalu am aelod o鈥檙 teulu - i fyny 5,000 dros y chwarter
Dywedodd Stephen Crabb:
Mae鈥檙 nifer uchaf erioed o bobl mewn gwaith yng Nghymru wrth i鈥檙 economi symud oddi wrth ei dibyniaeth draddodiadol ar Lundain a De-ddwyrain Lloegr ac wrth i fwy o bobl gael eu denu yn 么l i waith o ganlyniad i ddiwygio lles.
Mae鈥檙 cyhoeddiad diweddar am swyddi鈥檔 cael eu colli ym Mhort Talbot yn dangos ein bod dal yn agored i economi fyd-eang ansicr. Ond, bydd y Llywodraeth yn parhau i greu鈥檙 amgylchiadau cywir i fusnesau ffynnu er mwyn iddynt allu denu swyddi da gyda chyflogau uchel i Gymru.