Datganiad i'r wasg

Wyth busnes yng Nghymru yn cael eu dathlu yng Ngwobrau'r Brenin am Fenter

Cyhoeddwyd busnesau Cymru yn nhrydedd flwyddyn Gwobrau'r Brenin am Fenter - gwobrau busnes mwyaf mawreddog y DU.

The King's Award for Enterprise. Recipients from Wales.

  • Cydnabu busnesau o Ben-y-bont ar Ogwr a Wrecsam, gyda phob un yn chwarae rhan allweddol yng nghenhadaeth Llywodraeth y DU ar gyfer twf economaidd.
  • Cafwyd enillwyr ar draws tri chategori gwahanol: Arloesedd, Masnach Ryngwladol a Datblygu Cynaliadwy.

Mae鈥檙 busnesau sydd wedi derbyn Gwobr y Brenin am Fenter wedi cael eu cyhoeddi heddiw [6 Mai], sy鈥檔 dathlu llwyddiannau busnesau blaenllaw o bob cwr o鈥檙 DU ac Ynysoedd y Sianel.

Mae Ei Fawrhydi y Brenin wedi cydnabod wyth o fusnesau o Gymru ar draws amrywiaeth o sectorau gwahanol fel rhai sydd ymhlith y gorau yn y wlad, gan dynnu sylw at uchelgais, dyfeisgarwch a llwyddiant ein cymuned fusnes amrywiol.聽

Mae鈥檙 busnesau a ddyfernir yn cwmpasu amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys laserau diwydiannol, offer meddygol, a phobi, ac maent wedi鈥檜 lleoli ledled y wlad; Wrecsam, Pen-y-bont ar Ogwr a鈥檙 Trallwng.聽

Cafodd un cwmni wobr am eu harferion arloesol, pump am eu llwyddiannau ym maes masnach ryngwladol ac un am eu datblygiad cynaliadwy.

Drwy gefnogi mwy o bobl i gael gwaith, datblygu arloesedd newydd, ac allforio鈥檙 gorau sydd gan Brydain i鈥檞 gynnig ledled y byd, mae busnesau fel hyn yn chwarae rhan allweddol yng nghenhadaeth Llywodraeth y DU i fynd ymhellach i sicrhau twf economaidd yn gyflymach, a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl sy鈥檔 gweithio fel rhan o鈥檙 Cynllun ar gyfer Newid.

Dywedodd Gareth Thomas, y Gweinidog dros Wasanaethau, Busnesau Bach ac Allforion:

Mae rhai o fusnesau gwych Cymru yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau鈥檙 Brenin am Fenter eleni; gan gynnwys Spectrum Technologies 芒鈥檜 hoffer laser arloesol, a Bluestone Resort am eu hymrwymiad i gyfrifoldeb amgylcheddol.聽

Rwy鈥檔 dymuno pob llwyddiant i鈥檙 busnesau hyn wrth iddynt barhau i ddatblygu, i arloesi ac i ffynnu, ac rwy鈥檔 cymeradwyo鈥檙 cyfraniadau amhrisiadwy y maent eisoes wedi鈥檜 gwneud i gymunedau gartref yng Nghymru a thramor, gan helpu i roi hwb i economi鈥檙 DU.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Llongyfarchiadau i bob un o鈥檙 wyth busnes o Gymru sydd wedi ennill gwobrau. O fara i ddyfeisiau meddygol a chyrchfannau gwyliau cynaliadwy, mae eu gwaith yn dangos y gorau o fusnesau ar hyd a lled Cymru, sy鈥檔 cynhyrchu ac yn allforio cynnyrch a gwasanaethau o ansawdd uchel.

Drwy weithio gyda mentrau talentog yng Nghymru i greu twf economaidd a swyddi lleol sy鈥檔 talu鈥檔 dda, mae Llywodraeth y DU yn cyflawni ei Chynllun ar gyfer Newid.

Ymhlith y busnesau sydd wedi derbyn gwobr eleni mae Spectrum Technologies, arweinydd byd-eang ym maes cyflenwi offer prosesu gwifrau laser diwydiannol ar gyfer y diwydiant awyrofod. Mae鈥檙 busnes wedi鈥檌 leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae wedi cael ei gydnabod yn y categori Masnach Ryngwladol.

Dywedodd Dr Peter Dickinson, Cadeirydd a Phrif Swyddog Technoleg Spectrum Technologies: 聽

Mae Spectrum wedi cyffroi鈥檔 l芒n ac yn falch iawn o fod wedi ennill Gwobr y Brenin am Fenter. Wynebodd y cwmni heriau enfawr yn sgil COVID, ond mae ein t卯m o weithwyr wedi dod at ei gilydd i helpu i wneud y gorau o sefyllfa anodd, gan ddyblu ein gwerthiant dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Gwobr y Brenin yn dathlu eu hymdrechion ac yn adlewyrchu safle blaenllaw鈥檙 cwmni yn y farchnad ryngwladol o ran cyflenwi offer arbenigol ar gyfer prosesu gwifrau laser i鈥檙 diwydiant awyrofod.

Mae Bluestone Resort, sef parc gwyliau mwyaf cynaliadwy鈥檙 DU, wedi鈥檌 leoli yng nghanol cefn gwlad Sir Benfro. Mae鈥檙 parc wedi cael ei ddylunio i ailgysylltu teuluoedd 芒 byd natur mewn ffordd gyfrifol, ac felly maen nhw wedi cael gwobr yn y categori Datblygu Cynaliadwy.

Dywedodd William McNamara OBE, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Bluestone:聽

Mae ennill Gwobr y Brenin am Fenter ym maes Datblygu Cynaliadwy yn garreg filltir hynod gyffrous a gwerth chweil i bawb yng nghyrchfan gwyliau Bluestone ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. 聽

Mae ein hethos yn canolbwyntio ar dair conglfaen datblygu cynaliadwy: diogelu ecosystemau naturiol, tyfu鈥檙 economi leol, a chefnogi cymunedau lleol. Dyma yw ein glasbrint ar gyfer gweithredu erbyn hyn. Mae Gwobr y Brenin am Fenter ym maes Datblygu Cynaliadwy yn rhoi llawer o resymau i ni ddathlu, gan gydnabod pwysigrwydd ein gwaith wrth i ni barhau i amddiffyn ein planed ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol.

Roedd Gwobrau鈥檙 Brenin am Fenter yn arfer cael eu galw鈥檔 Wobrau鈥檙 Frenhines am Fenter, ac fe鈥檜 hailenwyd ddwy flynedd yn 么l i adlewyrchu dymuniad Ei Fawrhydi y Brenin i barhau ag etifeddiaeth EM y Frenhines Elizabeth II drwy gydnabod busnesau rhagorol yn y DU. Mae鈥檙 rhaglen wobrwyo, sy鈥檔 cael ei chynnal ers 59 o flynyddoedd, wedi dyfarnu dros 8,000 o gwmn茂au ers ei sefydlu yn 1965.

Bydd Arglwyddi Rhaglaw Ei Fawrhydi 鈥� cynrychiolwyr y Brenin ym mhob sir 鈥� yn cyflwyno鈥檙 Gwobrau i fusnesau yn lleol drwy gydol y flwyddyn. Bydd un cynrychiolydd o bob busnes buddugol hefyd yn cael ei wahodd i dderbyniad brenhinol arbennig.

Mae busnesau cymwys yn rhydd i wneud cais am un neu fwy o gategor茂au. Mae鈥檙 rhai sy鈥檔 derbyn gwobr yn gorfod wynebu proses asesu gadarn, wedi鈥檌 beirniadu gan arbenigwyr o鈥檙 diwydiant, y byd academaidd, y sector gwirfoddol, cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru ac uwch swyddogion yn Whitehall. Ar sail hynny, y Prif Weinidog sy鈥檔 gyfrifol am argymell y busnesau bob blwyddyn.

Dywedodd Richard Harris, Pennaeth Masnach Llywodraeth Cymru a beirniad ar y panel eleni:聽

Mae鈥檔 fraint cynrychioli Cymru fel beirniad ar gyfer Gwobrau鈥檙 Brenin, ac mae cael darllen a gwerthuso鈥檙 ceisiadau, sy鈥檔 gwella o ran ansawdd o un flwyddyn i鈥檙 llall, yn llwyddo i greu argraff bob tro.聽

Mae Gwobr y Brenin yn cael ei thrin fel y safon aur, mae鈥檔 golygu rhywbeth. I mi, mae鈥檙 wobr yn feincnod ar gyfer ansawdd a all agor drysau a dechrau sgyrsiau ledled y byd, gan alluogi cwmn茂au i sicrhau busnes a chael mynediad at gyfleoedd na fyddent fel arfer ar gael.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Mai 2025