Medal Ebola i dros 3000 o arwyr
Mae medal newydd wedi cael ei chreu i gydnabod dewrder a gwaith caled y bobl sydd wedi helpu i atal Ebola rhag lledaenu.

Heddiw (11 Mehefin 2015), mae鈥檙 Llywodraeth wedi rhoi manylion medal newydd a fydd yn cydnabod dewrder a gwaith caled miloedd o bobl sydd wedi helpu i fynd i鈥檙 afael ag Ebola yng ngorllewin Affrica.
Disgwylir y bydd y fedal yn cael ei chyflwyno i dros 3,000 o bobl a deithiodd o鈥檙 DU i weithio mewn ardaloedd risg uchel i atal lledaeniad yr afiechyd.
Dyma鈥檙 tro cyntaf i fedal gael ei chreu yn benodol i gydnabod y rheini sydd wedi ceisio atal argyfwng dyngarol ac mae鈥檔 cael ei rhoi i gydnabod yr amgylchedd peryglus iawn yr oedd yn rhaid i weithwyr fynd iddo.
Dylunydd y fedal yw John Bergdahl, sydd wedi bod yn engrafwr ers dros 40 mlynedd, ac yn ddiweddar mae wedi dylunio set newydd o ddarnau arian i ddathlu genedigaeth y Tywysog George. Cafodd dyluniad Mr Bergdahl ei ddewis yn dilyn cystadleuaeth a gafodd ei chynnal gan Bwyllgor Cynghori鈥檙 Bathdy Brenhinol. Mae鈥檔 dangos fflam ar gefndir sy鈥檔 portreadu鈥檙 firws Ebola - uwch ei ben y mae鈥檙 geiriau 鈥淔or Service鈥� ac o dan 鈥淓bola Epidemic West Africa鈥�.
Ar y wyneb blaen mae llun o Ei Mawrhydi鈥檙 Frenhines a ddyluniwyd gan Ian Rank-Broadley.
Bydd y fedal yn cael ei rhoi i sifiliaid a pherson茅l milwrol sydd wedi bod yn helpu i drin Ebola ar ran y DU yng ngorllewin Affrica. Yn eu plith y mae aelodau o鈥檔 lluoedd arfog, meddygon a nyrsys o鈥檙 GIG, arbenigwyr labordy ac aelodau o鈥檙 gwasanaeth sifil a chyrff anllywodraethol. Mae pwy sy鈥檔 gymwys i鈥檞 derbyn yn cael ei nodi鈥檔 fanwl mewn papur gorchymyn a gyhoeddwyd heddiw.
Bydd y medalau cyntaf yn cael eu rhoi mor gynnar 芒鈥檙 haf hwn a byddant yn parhau i gael eu rhoi wedi hynny. Bydd y Prif Weinidog yn cynnal derbyniad haf i longyfarch yn bersonol rai o鈥檙 bobl a fydd yn ei derbyn.
Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron:
Roedd yr afiechyd Ebola yn un o epidemigau mwyaf dychrynllyd ein cenhedlaeth. Ond gwnaethom lwyddo i鈥檞 atal rhag lledaenu diolch i waith caled pobl o Brydain a deithiodd i orllewin Affrica.
Oherwydd eu hymdrechion, achubwyd llawer o fywydau a chafodd yr afiechyd ei atal.
Mae鈥檙 fedal hon yn deyrnged i鈥檙 bobl hynny. Rhoesant eu hunain mewn perygl personol mawr ac rydym yn ddyledus iawn iddynt.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae gan Gymru rai o鈥檙 gweithwyr iechyd a gwirfoddolwyr gorau yn y byd ac mae鈥檙 fedal hon yn dyst i gryfder ac ymroddiad staff y GIG ledled Cymru.
Diolch i ymdrechion diflino鈥檙 bobl hyn, mae miloedd o fywydau wedi cael eu hachub ac mae cynnydd anhygoel wedi cael ei wneud tuag at ddileu鈥檙 firws.
Nodiadau i olygyddion
- Dylai pawb sy鈥檔 gymwys gael eu medal yn ystod eleni, ar wah芒n i鈥檙 rheini y bydd angen iddynt enwebu鈥檜 hunain. Darllenwch ragor am enwebu鈥檆h hun.
Gwybodaeth am y fedal
-
Roedd y Pwyllgor ar Roi Anrhydeddau, Tlysau a Medalau wedi cyflwyno meini prawf cymhwysedd penodol i鈥檞 Mawrhydi鈥檙 Frenhines, a fu鈥檔 ddigon caredig i鈥檞 cymeradwyo.
-
Bydd y rheini sy鈥檔 gymwys, gan gynnwys gweision sifil, y lluoedd arfog, UK Med, Iechyd Cyhoeddus Lloegr, yr Uned Sefydlogi, T卯m Gweithrediadau CHASE (yr Adran Diogelwch, Dyngarol a Gwrthdaro), gwladolion y DU a oedd yn gweithio i gyrff anllywodraethol, a oedd yn cael eu hariannu gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, yn cefnogi ymdrechion y llywodraeth a wnaeth o leiaf 21 diwrnod o wasanaeth parhaus (neu 30 diwrnod o wasanaeth cronnus) o fewn tiriogaethau daearyddol Sierra Leone, Liberia, Guinea a鈥檜 dyfroedd tiriogaethol, yn derbyn y fedal yn awtomatig.
-
Bydd y fedal yn cael ei hanfon at y rhan fwyaf o bobl yn awtomatig. Ond bydd angen i rai nad oeddynt wedi mynd yno fel rhan o ymdrech llywodraeth y DU enwebu鈥檜 hunain.
-
Mae鈥檙 fedal newydd hon wedi cael ei chyflwyno yn dilyn cael cymeradwyaeth Ei Mawrhydi鈥檙 Frenhines a鈥檙 Pwyllgor Anrhydeddau a Medalau.
-
Bydd y fedal yn cael ei chynhyrchu yn y DU gan Worcestershire Medal Service a bydd yn cael ei dyfarnu鈥檔 gyson o鈥檙 haf hwn i bawb sy鈥檔 gymwys.
Gwybodaeth am ymateb llywodraeth y DU i Ebola
Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo 拢427 miliwn i鈥檙 ymdrech. Mae ein cyfraniad wedi cynnwys cefnogi mwy na hanner yr holl welyau sydd ar gael i gleifion Ebola yn Sierra Leone, ariannu dros 100 o dimau claddu, hyfforddi 4,000 o staff y rheng flaen, darparu tri labordy i brofi traean o鈥檙 holl samplau a gasglwyd yn genedlaethol ac wedi darparu dros filiwn o siwtiau diogelu personol (PPE) a 150 o gerbydau.