Datganiad i'r wasg

Mae'r DVLA yn rhybuddio modurwyr i fod yn ymwybodol o sgamiau

Mae DVLA wedi datgelu cynnydd o 20% yn nifer y sgamiau a adroddir i鈥檞 chanolfan gyswllt, gyda 1, 538 o adroddiadau a ddrwgdybir ynghylch treth cerbyd yn ystod y 3 mis olaf 2019.

Mae鈥檙 DVLA wedi rhyddhau lluniau o rai o鈥檙 twyllau y mae sgamwyr yn eu defnyddio i dwyllo modurwyr i drosglwyddo eu harian.

Mae鈥檔 dod wrth i ffigurau newydd ddangos cynnydd o 20% yn nifer y sgamiau a adroddir i鈥檙 DVLA, gyda 1,538 o adroddiadau i鈥檙 asiantaeth yn ystod y tri mis olaf 2019.

Roedd yr adroddiadau o sgamiau gwe, e-bost, neges destun neu鈥檙 cyfryngau cymdeithasol amheus wedi cynyddu o 1,275 yn yr un cyfnod yn 2018.

Mae鈥檙 DVLA wedi rhyddhau鈥檙 delweddau o sgamiau diweddar a adroddwyd i helpu modurwyr i fod yn ymwybodol o beth i gadw golwg amdano a rhoi rhybudd clir, os yw rhywbeth a gynigir ar-lein neu drwy neges destun yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, yna mae bron yn sicr ei fod o.

Mae sgamwyr yn targedu cwsmeriaid diarwybod gyda dolenni i wasanaethau nad ydynt yn bodoli a negeseuon am ad-daliadau treth, sydd i gyd yn ffug.

Mae鈥檙 adroddiadau hefyd yn dangos bod dogfennau gyrwyr a cherbydau ar werth ar y rhyngrwyd. Mae鈥檙 DVLA yn cynghori unrhyw un sydd 芒 phryderon am unrhyw alwadau, negeseuon testun, e-byst neu weithgarwch amheus ar-lein, i hysbysu鈥檙 heddlu drwy Action Fraud yn syth.

Dywedodd David Pope, prif swyddog diogelwch gwybodaeth y DVLA:

Rydyn ni wedi rhyddhau enghreifftiau o sgamiau bywyd go iawn i helpu modurwyr i ddeall pryd mae sgam ar waith. Nod y gwefannau a鈥檙 negeseuon hyn yw twyllo pobl i gredu y gallant gael gwasanaethau nad ydynt yn bodoli, megis cael gwared ar bwyntiau cosb o drwyddedau gyrru.

Mae ein holl ad-daliadau treth yn cael eu cynhyrchu鈥檔 awtomatig ar 么l i fodurwr ddweud wrthym eu bod wedi gwerthu, cael gwared ar eu cerbyd neu ei drosglwyddo i rywun arall felly dydyn ni ddim yn gofyn i unrhyw un gysylltu 芒 ni i hawlio eu ad-daliad.

Rydyn ni eisiau amddiffyn y cyhoedd ac os yw rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, yna mae bron yn sicr ei fod o. Yr unig ffynhonnell y gellir ymddiried ynddi am wybodaeth y DVLA yw 188体育

Mae鈥檔 bwysig cofio hefyd i beidio byth 芒 rhannu delweddau ar gyfryngau cymdeithasol sy鈥檔 cynnwys gwybodaeth bersonol, fel eich trwydded yrru a dogfennau eich cerbyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Action Fraud:

Gall hyn fod yn amser o鈥檙 flwyddyn sy鈥檔 llawn straen, wrth drefnu cyllid ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae twyllwyr yn ymwybodol o hyn ac yn defnyddio gwahanol ffyrdd i dwyllo pobl.

Mae cymryd ychydig o funudau i ymgyfarwyddo ag ychydig o awgrymiadau diogelwch ar-lein syml yn gallu bod yn arwyddocaol o ran diogelu eich hun rhag bod yn ddioddefwr twyll ar-lein.

Dylech fod yn wyliadwrus bob amser wrth rannu gwybodaeth bersonol ar-lein ac osgoi cael eich twyllo drwy ddefnyddio 188体育 ar gyfer gwasanaethau鈥檙 Llywodraeth ar-lein yn unig, fel y DVLA.

Os ydych chi鈥檔 credu eich bod wedi dioddef twyll, rhowch wybod i ni.

Nodiadau i olygyddion

  • Gellir adrodd am dwyll neu seiber-droseddu i Action Fraud trwy ffonio 0300 123 2040 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm), neu drwy ddefnyddio eu , sydd ar gael 24/7.

  • Y llynedd cyhoeddodd y DVLA ei hawgrymiadau ar gyfer modurwyr i aros yn ddiogel ar-lein.

  • Amcangyfrifodd mai cost twyll i鈥檙 DU oedd 拢190bn y flwyddyn.

  • Yn chwarter olaf 2019 roedd 1,538 o gwynion i鈥檙 DVLA ynghylch sgamiau gwe, e-bost, testun neu鈥檙 cyfryngau cymdeithasol amheus. Roedd hynny鈥檔 cynnydd o 20% at 1,275 yn yr un cyfnod yn 2018.

  • Action Fraud yw canolfan adrodd genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiber-droseddu lle dylech roi gwybod am dwyll os ydych wedi cael eich sgamio, twyllo neu brofi seiber-droseddu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

  • yn cael ei ddathlu yn fyd-eang ar ddydd Mawrth 11 Chwefror. Nod Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel yw ysbrydoli sgwrs genedlaethol am ddefnyddio technoleg mewn modd cyfrifol, parchus, beirniadol a chreadigol. Y thema eleni yw 鈥楪yda鈥檔 gilydd ar gyfer rhyngrwyd well鈥�.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

Email [email protected]

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Chwefror 2020