Datganiad i'r wasg

DVLA yn dadorchuddio Beiciau Gwaed Cymru fel ei Helusen o Ddewis

Mae staff DVLA wedi dewis Beiciau Gwaed Cymru fel yr Elusen o Ddewis am 2020. Trwy鈥檙 flwyddyn byddant yn codi arian i鈥檙 elusen sy鈥檔 cludo cyflenwadau gwaed brys ac eitemau eraill i鈥檙 GIG ar draws Cymru.

2 men and 1 woman standing by 2 motorcycles outside the Driver and Vehicle Licensing Agency in Swansea

Ers ei lansio yn 2014, mae鈥檙 cynllun Elusen o Ddewis yn DVLA wedi codi mwy na 拢300,000 ar gyfer elusennau lleol drwy ystod o weithgareddau codi arian gan gynnwys cyngherddau elusen, deifio o鈥檙 awyr, rhedeg hanner marathon, cwblhau鈥檙 Her Tri Chopa a chymryd rhan mewn eilliadau pen noddedig.

Dywedodd Nigel Ward, Cadeirydd Beiciau Gwaed Cymru:

Rwy鈥檔 hynod o falch bod staff DVLA wedi dewis Beiciau Gwaed Cymru fel yr Elusen o Ddewis am 2020. Mae hyn yn golygu cymaint i ni gyd oherwydd ein bod ni i gyd yn wirfoddolwyr yn cludo samplau gwaed, plasma, llaeth y fron ac eitemau hanfodol eraill i鈥檙 GIG am ddim.

Mae ein beiciau yn gwneud cannoedd o filltiroedd pob wythnos ac angen cael eu cynnal a鈥檜 cadw i gadw ein beicwyr yn ddiogel. Bydd cefnogaeth DVLA yn ein helpu ni i wneud hyn fel y gallwn barhau i ddosbarthu鈥檙 eitemau hanfodol hyn i ysbytai lleol.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

Mae鈥檙 gwirfoddolwyr yn Beiciau Gwaed Cymru yn darparu cymorth hanfodol i ysbytai ar draws Cymru ac rwy鈥檔 hynod o falch ein bod yn eu cefnogi nhw drwy 2020. Mae ein staff wedi rhoi gymaint o鈥檜 hamser eu hunain dros y blynyddoedd i godi cannoedd o filoedd o bunnoedd i elusennau ac rwyf yn edrych ymlaen at weld yr ystod o weithgareddau byddant yn eu gwneud i gefnogi Beiciau Gwaed Cymru.

Nodiadau i olygyddion:

Mae Beiciau Gwaed Cymru yn elusen wirfoddol sy鈥檔 darparu gwasanaeth cludo am ddim i鈥檙 GIG ar draws Cymru rhwng 7pm ar nosweithiau Gwener tan ganol nos nosweithiau Llun gan gynnwys gwyliau鈥檙 banc a diwrnod Nadolig. Maent hefyd yn gweithio ar ddyddiau鈥檙 wythnos i rai ardaloedd byrddau iechyd ac yn dosbarthu samplau gwaed, plasma, llaeth y fron, dogfennau ac eitemau eraill ar draws Cymru.

Ers 2014 mae staff DVLA wedi codi 拢21,389 ar gyfer Awyr Ambiwlans Cymru, 拢43,578 ar gyfer LATCH, 拢70,906 ar gyfer y Gymdeithas Alzheimer, 拢56, 159 ar gyfer Mind, 拢58,803 ar gyfer Maggie鈥檚 Abertawe a 拢62,033 ar gyfer T欧 Olwen.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

Email [email protected]

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Ionawr 2020