Staff DVLA yn rhoi dros 拢50,000 i elusen iechyd meddwl
Heddiw (dydd Mercher 6 Rhagfyr) rhoddodd DVLA siec am 拢51,799.26 i elusen Mind ar 么l blwyddyn lawn o weithgareddau codi arian gan ei staff.

Roedd y cyfanswm a godwyd ar gyfer yr elusen iechyd meddwl drwy 2017 yn rhan o flwyddyn o godi arian gan staff DVLA. Dewisodd staff Mind fel elusen o ddewis blynyddol yr asiantaeth ac maent wedi bod yn codi arian trwy nifer o weithgareddau gwahanol, yn cynnwys rhedeg hanner marathon, Her y Tri Copa, neidio allan o awyren, a chyngerdd 鈥楳usic For Mind鈥�. Dros y flwyddyn wnaeth staff hefyd cynnal rafflau, sw卯ps a gwerthiant teisennau, gyda phob achlysur yn codi arian at yr achos da.
Yn ogystal 芒 chynrychiolwyr o鈥檙 elusen, roedd llysgennad Clwb P锚l Droed Abertawe, Lee Trundle yn dangos ei gefnogaeth trwy fynychu cyflwyniad y siec i Mind yn DVLA yn Nhreforys heddiw yn ystod ffair Nadolig blynyddol yr asiantaeth.
Dywedodd Oliver Morley, Prif Weithredwr DVLA:
Mae ymdrechion ein staff yn ein hymgyrch elusen o ddewis eleni unwaith eto wedi bod gwir yn anhygoel, a dw i鈥檔 falch iawn o bawb sydd wedi codi neu roi arian i gefnogi Mind. Rydym wedi gweld amrywiaeth eang o weithgareddau codi arian ar draws yr asiantaeth trwy gydol y flwyddyn, a dw i鈥檔 ddiolchgar iawn i bawb am gymryd rhan ac am gefnogi鈥檙 achos hynod o dda hwn.
Dywedodd Lorna Killin, Uwch Rheolwr Cyfrif Corfforaethol:
Rydym wrth ein boddau bod DVLA wedi ein dewis ni fel ei helusen o ddewis ac am ei holl gefnogaeth trwy godi arian. Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng Mind Abertawe, sy鈥檔 darparu cymorth yn lleol, a鈥檙 Mind Infoline sy鈥檔 darparu cymorth a chyngor i unrhyw un sy鈥檔 profi problemau iechyd meddwl. Bydd yr arian a godwyd gan DVLA yn helpu Mind i sicrhau nad yw unrhyw un yn gorfod wynebu problemau iechyd meddwl ar ei ben ei hun.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407