Mae DVLA yn gosod her newydd
Yn dilyn llwyddiant cystadleuaeth llynedd, mae Her Godio DVLA n么l am 2018.

Mae DVLA unwaith eto wedi gosod yr her i ddisgyblion ar draws Cymru i weithio mewn timoedd i gynllunio g锚m gyfrifiadurol, gyda鈥檙 enillwyr yn derbyn cyfarpar TG gwerth miloedd ar gyfer eu hysgolion neu ganolfannau cymunedol.
Lansiwyd Her Godio DVLA yn gyntaf y llynedd er mwyn hybu pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ac i hyrwyddo dysgu TG yn ysgolion cynradd a chanolfannau cymunedol yng Nghymru.
Y llynedd, mynychodd tua 200 o blant a 150 o oedolion y digwyddiad gwobrwyo agoriadol yn theatr ddigidol DVLA yn Abertawe ym mis Rhagfyr, ble rhoddwyd allan cyfarpar TG o鈥檙 radd flaenaf i dros 50 o dimoedd o ysgolion cynradd a grwpiau cymunedol ar draws Cymru. Roedd dal modd i ddisgyblion nad oedd yn gallu mynychu鈥檙 diwrnod cymryd rhan yn y sbri trwy ymweld 芒 dolen fyw dros y we, ac i gymryd rhan yn union fel roeddent yn bresennol.
Ar 么l llawer o ddiddordeb y llynedd, mae cystadleuaeth eleni bellach ar agor i bobl ifanc 11 鈥� 14 blwydd oed, sy鈥檔 golygu bod disgyblion o ysgolion uwchradd nawr yn gallu arddangos eu sgiliau gyda鈥檙 cyfle i ennill gwobrau TG gwych i鈥檞 hysgolion neu ganolfannau cymunedol.
Dywedodd Mark Jones. Rheolwr TG a Llysgennad STEM:
Roedd Her Godio DVLA mor llwyddiannus, roedd ysgolion a noddwyr wedi cysylltu 芒 ni yn syth er mwyn cofrestru i fod yn rhan o鈥檙 gystadleuaeth nesaf, felly penderfynwn redeg y gystadleuaeth eto.
Eleni, rydym yn ychwanegu gr诺p oedran newydd ac yn agor y gystadleuaeth i blant rhwng 7 ac 11, ac 11 i 14. Mae hyn yn golygu ein bod ni鈥檔 gallu cynnwys disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd.
Trwy gymryd rhan yn yr her, mae rhaglennwyr y dyfodol yn gallu datblygu eu gallu codio mewn ffordd hwylus a deniadol. Mae鈥檙 gystadleuaeth hefyd yn anelu at hyrwyddo gweithio fel t卯m a chyfathrebu 鈥� mae鈥檙 rhain yn sgiliau hanfodol sy鈥檔 dod yn fwyfwy bwysig yng ngweithleoedd heddiw a鈥檙 dyfodol.
Bydd diwrnod gwobrwyo eleni ar ddydd Mawrth 4 Rhagfyr gyda gwobrau addysgol arbennig, raffl fawr i bob ymgeisydd, adborth ar geisiadau gan feirniaid arbenigol a bydd rhywun enwog yn cynnal y digwyddiad.
Mae gwybodaeth gyflawn, yn cynnwys manylion ar sut i gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth ar gael ar .
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email [email protected]
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407