Datganiad i'r wasg

Adolygiad DVLA wedi鈥檌 gyhoeddi i gryfhau鈥檙 asiantaeth ar gyfer y dyfodol

Mae鈥檙 adolygiad yn nodi sut y gall yr asiantaeth barhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol i fodurwyr.

  • mae adolygiad annibynnol wedi casglu bod DVLA yn asiantaeth hollbwysig a dylai barhau i esblygu i gwrdd 芒 heriau鈥檙 dyfodol
  • mae鈥檙 adolygiad yn nodi 19 argymhelliad i gryfhau gallu鈥檙 DVLA i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a gwerth i drethdalwyr
  • rhan o asesiad ehangach Swyddfa鈥檙 Cabinet o gyrff cyhoeddus ar effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, atebolrwydd a llywodraethu

Heddiw (7 Tachwedd 2024) mae鈥檙 llywodraeth wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol o鈥檙 Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) i sicrhau y gall y sefydliad barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a gwerth am arian i drethdalwyr.

Mae DVLA yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw ffyrdd y DU yn ddiogel a chadw Prydain i symud. Mae ganddi fwy na 50 miliwn o gofnodion gyrwyr a mwy na 40 miliwn o gofnodion cerbydau, tra鈥檔 casglu dros 拢7 biliwn y flwyddyn mewn Treth Cerbyd (VED).

Mae鈥檙 adolygiad yn rhan o Raglen Adolygu Cyrff Cyhoeddus Swyddfa鈥檙 Cabinet ac yn asesu DVLA yn erbyn y 4 piler o effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, atebolrwydd a llywodraethu.

Fe wnaeth yr adolygiad gasglu bod DVLA yn asiantaeth weithredol hollbwysig o鈥檙 Adran Drafnidiaeth (DfT), ac mae鈥檔 nodi 19 o argymhellion i sicrhau bod DVLA yn parhau i fod mewn sefyllfa dda i ddarparu gwasanaeth rhagorol i fodurwyr yn y dyfodol.

Mae argymhellion allweddol yn cynnwys bod DVLA yn:

  • gosod strategaeth feiddgar ac uchelgeisiol ar gyfer darparu gwasanaethau
  • cyflymu ei drawsnewidiad i sefydliad hyd yn oed yn fwy deinamig, digidol ac sy鈥檔 cael ei yrru gan ddata
  • cryfhau profiad y cwsmer, yn enwedig ar gyfer grwpiau rhanddeiliaid llai a bregus

Dywedodd y Gweinidog Dyfodol Ffyrdd, Lilian Greenwood聽AS:

O gadw mwy na 50 miliwn o gofnodion gyrwyr a chyhoeddi trwyddedau gyrru i helpu鈥檙 heddlu i ddelio 芒 throseddau, mae DVLA yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod ein ffyrdd ymhlith y mwyaf diogel yn y byd.

Mae鈥檙 adolygiad hwn yn hanfodol i ddeall sut y gall yr asiantaeth barhau i fynd o nerth i nerth i ddiwallu anghenion a heriau鈥檙 dyfodol sy鈥檔 newid yn barhaus.

Byddwn yn gweithio鈥檔 agos gyda DVLA i sicrhau ei bod yn parhau i esblygu fel sefydliad sy鈥檔 canolbwyntio ar gwsmeriaid, sy鈥檔 cael ei ysgogi gan ddata, ac sy鈥檔 ddigidol yn gyntaf.

Derbyniodd y Gweinidog Greenwood ganfyddiadau鈥檙 adolygiad annibynnol ac ymrwymodd yr Adran Drafnidiaeth a DVLA i weithredu ar yr argymhellion.

Dywedodd Cadeirydd Anweithredol DVLA, David Jones:

Mae ein cwsmeriaid yn ganolog i bopeth a wnawn yn DVLA, ymrwymiad sy鈥檔 cael ei rannu gan ein 6,000 a mwy o staff gweithgar ac ymroddedig.

Byddwn yn parhau i weithio鈥檔 agos gyda DfT a鈥檔 holl randdeiliaid ar ddarparu gwasanaethau o safon fyd-eang i鈥檔 cwsmeriaid, gan ymateb i fyd sy鈥檔 fwyfwy digidol.

Arweiniwyd yr adolygiad gan adolygydd arweiniol annibynnol, Janette Beinart, sy鈥檔 Gyfarwyddwr Anweithredol yn y Priffyrdd Cenedlaethol.

Roads media enquiries

Media enquiries 0300 7777 878

Switchboard 0300 330 3000

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Tachwedd 2024