Datganiad i'r wasg

Mae DVLA yn datgelu rhai o鈥檙 eitemau mwyaf rhyfedd sy鈥檔 cael eu darganfod mewn ceir heb eu trethu

Roedd beic cwad, set lawn o ddrymiau, helmedau joci a hanner soffa cornel ymysg yr eitemau rhyfedd a rhyfeddol ymhlith bron i 600 o setiau o eiddo personol a ddarganfuwyd mewn ceir heb eu trethu yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae DVLA wedi datgelu rhestr o rai o鈥檙 eitemau a ddarganfuwyd mewn ceir heb eu trethu a gafodd eu clampio a鈥檜 hatafaelu yn ystod y 12 mis diwethaf. Yn ogystal ag eitemau bob dydd, daeth rhai arteffactau anarferol i鈥檙 amlwg.

Mae鈥檙 rhestr yn cynnwys:

  • 3 helmed joci
  • Beic cwad oddi ar y ffordd
  • Git芒r acwstig gydag ategolion, stand a chas cario
  • Hanner soffa cornel
  • Toiled ystafell ymolchi gyda sedd
  • Ffyn pysgota gydag offer pysgota
  • Cardiau masnachu 鈥楤eavis & Butthead鈥�
  • Set ddrymiau llawn gyda set seinchwyddwr Cort 鈥楪roove Engine GE15B鈥�
  • Nifer o dorso dynion pren
  • Llyfr gwerthfawr iawn Louis Wain o gathod darluniadol o鈥檙 1920au
  • Set lawn o glybiau golff

Caiff unrhyw eiddo personol a geir mewn cerbydau sydd wedi鈥檜 hatafaelu eu rhestru a鈥檜 storio am gyfnod o amser rhag ofn eu bod yn cael eu hawlio, cyn eu bod ar gael i鈥檞 gwerthu. Dywedodd Pennaeth Gorfodaeth DVLA, Tim Burton:

Mae cael eich car wedi鈥檌 glampio yn ddrud ac yn anghyfleus- ac fel mae鈥檙 rhestr o eitemau hon yn ei ddangos, gallech golli mwy na鈥檙 car yn unig!

Mae DVLA yn gweithredu amrywiaeth o fesurau i wneud trethu cerbyd yn hawdd i鈥檞 dalu ac yn anodd ei osgoi. Er bod mwyafrif helaeth o fodurwyr yn gwneud y peth iawn ac yn trethu eu ceir yn gywir, mae鈥檔 iawn ein bod yn cymryd camau yn erbyn y rhai sy鈥檔 torri鈥檙 gyfraith ac yn methu 芒 threthu eu car. Nid yw erioed wedi bod yn haws i drethu鈥檆h car 鈥� dim ond ychydig o gliciau mae鈥檔 ei gymryd i鈥檞 wneud ar-lein a gallwch wneud hynny 24 awr y dydd. Gallwch hefyd rannu taliadau dros y flwyddyn trwy Ddebyd Uniongyrchol, felly nid oes unrhyw esgus o gwbl.

Mae鈥檙 gyfraith yn glir a hefyd y canlyniadau 鈥� trethwch ef neu collwch ef.

Gall modurwyr wirio pryd y mae angen talu treth ar gerbyd gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein DVLA 鈥� y cyfan sydd ei angen arnynt yw rhif cofrestru鈥檙 cerbyd.

Nodiadau i Olygyddion

Mae rhestr lawn o鈥檙 eitemau sydd wedi鈥檜 鈥榖agio a鈥檜 tagio鈥� yn cynnwys yr eitemau a nodir ar y rhestr.

Gellir olrhain yr holl eitemau a nodir ar y rhestr yn 么l i safle penodol lle cafodd y cerbyd ei atafaelu. Efallai y bydd yr eitemau a nodir ar y rhestr wedi鈥檜 nodi ar y rhestr fel 鈥榚itemau cymysg鈥� neu 鈥榓mrywiol鈥� ond gallwn gadarnhau bod y cyfan wedi鈥檜 darganfod mewn cerbydau heb eu trethu a gafodd eu clampio a鈥檜 hatafaelu.

Mae DVLA yn ysgrifennu at geidwad pob cerbyd i鈥檞 hatgoffa pan fydd angen talu eu treth. Dyna pam ei bod mor bwysig i fodurwyr hysbysu DVLA os ydynt wedi newid eu cyfeiriad.

Mae clampio olwynion yn un o amrywiaeth o fesurau gorfodi a ddefnyddir gan DVLA yn erbyn cerbydau sydd heb eu trethu. Pan fydd cerbyd heb ei drethu yn cael ei glampio, bydd yn rhaid i鈥檙 modurwr dalu ffi rhyddhau o 拢100 ac - os na allant ddangos bod y cerbyd wedi cael ei drethu - ffi sicrwydd o 拢160. Ad-dalir y ffi sicrwydd os yw鈥檙 modurwr yn gallu dangos bod y cerbyd wedi鈥檌 drethu o fewn 15 diwrnod o ryddhau鈥檙 cerbyd. Os nad yw鈥檙 ffi rhyddhau wedi鈥檌 dalu o fewn 24 awr, yna bydd DVLA yn atafaelu鈥檙 cerbyd. Yna bydd y ffi rhyddhau yn codi i 拢200 a bydd ffi storio o 拢21 y dydd. Unwaith eto, rhaid talu ffi sicrwydd o 拢160 os na all y modurwr ddangos bod y cerbyd wedi鈥檌 drethu.

Os yw cerbyd wedi cael ei ddatgan oddi ar y ffordd (HOS), rhaid ei gadw oddi ar y ffordd, ar dir preifat.

Caiff unrhyw eiddo personol a geir mewn cerbydau sydd wedi鈥檜 hatafaelu eu rhestru a鈥檜 storio am gyfnod o amser rhag ofn eu bod yn cael eu hawlio, cyn eu bod ar gael i鈥檞 gwerthu. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am drethu cerbyd, gan gynnwys sut i wneud hyn ar-lein ar 188体育 yn: www.gov.uk/treth-car

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

Email press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

(CSV, 20.3 KB)

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Medi 2018