Datganiad i'r wasg

DVLA yn dal gafael ar achrediad gwasanaethau cwsmeriaid am y 12fed flwyddyn yn olynol

Mae Canolfan Gyswllt y DVLA wedi derbyn achrediad CCA (Cymdeithas Cyswllt Cwsmeriaid) am y 12fed flwyddyn yn olynol, y tro hwn yn llwyddo i sicrhau Fersiwn 7 o Safon Fyd-eang CCA.

DVLA Contact Centre reception area

Mae ennill achrediad yn erbyn Fersiwn 7 o鈥檙 Safon Fyd-eang yn cydnabod canolfan gyswllt DVLA fel arweinydd diwydiant, gydag ymrwymiad i ysgogi rhagoriaeth gwasanaeth i鈥檞 chwsmeriaid.

Canolfan Gyswllt y DVLA yw鈥檙 ganolfan gyswllt safle sengl fwyaf yn y Llywodraeth, sy鈥檔 delio 芒 thua 24.5 miliwn o ymholiadau bob blwyddyn ac yn cyflogi tua 1,100 o bobl yn ei chanolfan weithrediadau pwrpasol yn Abertawe. Cyfarfu aseswyr allanol annibynnol ag aelodau o staff, uwch arweinwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill yn y ganolfan y llynedd i feincnodi gweithrediad y DVLA yn erbyn safon CCA mewn amrywiaeth o gategor茂au a chasglu tystiolaeth i gefnogi achrediad y DVLA.

Er mwyn cyflawni 鈥楩ersiwn 7鈥� o Safon Fyd-eang CCA, cymerodd y DVLA ymagwedd o鈥檙 newydd tuag at asesu ei weithrediad gwasanaethau cwsmeriaid, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad digidol a thechnolegol, ynghyd 芒 rhoi mwy o bwyslais ar leisiau cwsmeriaid a staff y DVLA.

Roedd ffocws parhaus ar brofiad y cwsmer, prosesau cadarn, a datblygu ac ymgysylltu parhaus 芒 staff ymhlith y cryfderau allweddol a amlygwyd gan y CCA yn ei hasesiad.

Nododd adroddiad asesu鈥檙 CCA fel a ganlyn:

Mae Canolfan Gyswllt y DVLA yn drefnus ac wedi鈥檌 rheoli鈥檔 dda trwy arweinyddiaeth gref a datblygiad pobl rhagorol, gyda chyfleoedd i bobl symud ymlaen mewn nifer o wahanol feysydd, yn weithredol a thrwy鈥檙 timau cefnogi.

Mae鈥檔 amlwg bod gwir awydd i bobl ar bob lefel sicrhau canlyniadau perfformiad cryf a chefnogi cydweithwyr trwy gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Daw鈥檙 achrediad 鈥楩ersiwn 7鈥� mewn blwyddyn lle gwelwyd cyflawniad sylweddol gan y staff yng nghanolfan gyswllt y DVLA, gyda Gwobrau Rhagoriaeth CCA diweddaraf yn gweld timau ac unigolion yn cael eu cydnabod gyda gwobrau Cyflawniad Safon Fyd-eang CCA Aur. Yn 2019 hefyd, cyflwynwyd Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol am raglen hyfforddiant a datblygiad yn fewnol ar gyfer arweinwyr gweithredol newydd ac arweinwyr y dyfodol, y bu staff y ganolfan gyswllt yn cymryd rhan ynddi.

Dywedodd Tony Ackroyd, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Gwasanaethau Cwsmeriaid DVLA:

Rwy鈥檔 falch iawn ein bod ni wedi cyflawni鈥檙 achrediad clodwiw hwn am y ddeuddegfed flwyddyn yn olynol. Ynghyd 芒鈥檙 cyflawniadau unigol a th卯m a gydnabyddir gan y CCA, mae鈥檙 adroddiad achredu yn cadarnhau鈥檙 gwaith gwych y mae staff ein canolfan gyswllt yn ei wneud bob dydd.

Uchafbwynt penodol o鈥檓 safbwynt i yw鈥檙 lefel uchel o ymgysylltu 芒 staff a nodwyd yn yr adroddiad. Mae hyfforddiant a chyfleoedd gwych sy鈥檔 galluogi i鈥檔 staff symud ymlaen wrth wraidd ein gwerthoedd ac yn sail i鈥檔 hymrwymiad i wella arferion gorau, wrth i ni anelu at ddarparu gwasanaeth o鈥檙 radd flaenaf i鈥檙 degau ar filoedd o gwsmeriaid rydyn ni mewn cysylltiad 芒 nhw bob dydd.

Nodiadau i olygyddion

Y CCA yw鈥檙 prif awdurdod ar strategaethau a gweithrediadau cyswllt cwsmeriaid.

Yng Ngwobrau Rhagoriaeth CCA ym mis Tachwedd 2019, enillodd Marc Richards o鈥檙 DVLA Wobr Cyflawniad Safon Fyd-eang CCA Aur ar gyfer Unigolyn y flwyddyn 2019. Enillodd T卯m Rheoli Sianel Cwsmer (CCMT) y DVLA Wobr T卯m y Flwyddyn.

O鈥檙 staff canolfan gyswllt y DVLA a arolygwyd fel rhan o asesiad achredu鈥檙 CCA:

  • dywedodd 93% fod y sefydliad wedi ymrwymo i hyfforddi a datblygu
  • dywedodd 87% eu bod yn cael eu hannog yn weithredol i wneud awgrymiadau a chynnig syniadau ar gyfer gwelliannau
  • dywedodd 91% fod eu hadborth yn cael ei werthfawrogi
  • dywedodd 92% fod eu rheolwr yn eu cefnogi gyda nodau datblygiad personol

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

Email [email protected]

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Chwefror 2020 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.