Datganiad i'r wasg

DVLA yn cyhoeddi Tim Moss CBE yn Brif Weithredwr newydd

Bydd Tim Moss CBE yn arwain cenhadaeth y DVLA i wneud ffyrdd y DU y mwyaf diogel yn y byd a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol.

  • bydd Tim Moss CBE yn dechrau ei r么l newydd ar 31 Mawrth 2025
  • mae鈥檔 cyrraedd o Lywodraeth Cymru, lle mae ar hyn o bryd yn Brif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol ac Arolygiaethau
  • mae鈥檙 Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn diolch i鈥檙 Prif Weithredwr blaenorol, Julie Lennard, a鈥檙 Prif Weithredwr dros dro, Lynette Rose, am eu gwaith caled

Mae鈥檔 bleser gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gyhoeddi bod Tim Moss CBE wedi鈥檌 benodi鈥檔 Brif Weithredwr newydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), a fydd yn dod i rym ar 31 Mawrth 2025.

Ar hyn o bryd Tim yw Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Corfforaethol ac Arolygiaethau yn Llywodraeth Cymru a chyn hynny bu鈥檔 gweithio fel Prif Weithredwr yn y Swyddfa Eiddo Deallusol. Trwy鈥檙 rolau hyn, mae gan Tim brofiad helaeth o reoli swyddogaethau gan gynnwys Adnoddau Dynol, Cyllid a Data Digidol, ac mae wedi cymryd cyfrifoldeb am sawl arolygiaeth annibynnol sy鈥檔 canolbwyntio ar benderfyniadau cynllunio a chanlyniadau iechyd.

Dywedodd Heidi Alexander, Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth:

Rwy鈥檔 falch iawn o gadarnhau Tim Moss CBE fel Prif Swyddog Gweithredol newydd DVLA heddiw.

Mae鈥檔 cyrraedd gyda chyfoeth o brofiad o鈥檌 amser yn Llywodraeth Cymru ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at weithio gydag ef wrth iddo adeiladu ar waith caled Prif Swyddog Gweithredol blaenorol y DVLA, Julie Lennard.

Hoffwn hefyd estyn fy niolch i Lynette Rose, a lenwodd y r么l dros dro, a dymuno鈥檙 gorau iddi wrth iddi ddychwelyd i鈥檞 r么l fel Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu ddiwedd mis Mawrth.

Dywedodd Tim Moss CBE, Prif Swyddog Gweithredol DVLA newydd:

Rwy鈥檔 falch iawn o gael fy mhenodi i鈥檙 r么l fel Prif Swyddog Gweithredol DVLA.

Rwyf wedi mwynhau nifer o gysylltiadau 芒 DVLA dros y blynyddoedd ac wedi gweld y gwaith gwych y mae wedi鈥檌 wneud ar drawsnewid digidol a darparu i gwsmeriaid sy鈥檔 cyffwrdd 芒 bywydau bron pawb yn y DU. Mae鈥檔 anrhydedd i mi allu ymuno 芒 th卯m y DVLA a helpu鈥檙 cam nesaf o wneud ffyrdd y DU y mwyaf diogel yn y byd a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol.

Roads media enquiries

Media enquiries 0300 7777 878

Switchboard 0300 330 3000

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Chwefror 2025