Gyrwyr i elwa o groesi Pontydd Hafren am ddim o 2018 ymlaen
Llywodraeth y DU yn cyhoeddi y bydd yn diddymu tollau Pontydd Hafren erbyn diwedd flwyddyn nesaf

Bydd gyrwyr yn gweld diwedd ar y tollau i groesi Pontydd Hafren yn 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, heddiw (21 Gorffennaf 2017).
Daw鈥檙 cyhoeddiad hwn wrth i deuluoedd baratoi i deithio dros wyliau鈥檙 haf.
Mae Pontydd Hafren yn dirnodau eiconig sydd wedi gwasanaethu cymudwyr, busnesau a chymunedau lleol yng Nghymru ac yn Lloegr ers dros 50 o flynyddoedd.
Mae dros 25 miliwn o gerbydau鈥檔 defnyddio鈥檙 pontydd bob blwyddyn, gan arbed llawer iawn o amser a phellter teithio i gymudwyr a gyrwyr sy鈥檔 defnyddio traffordd yr M4.
Serch hynny, mae鈥檙 tollau ar y ddwy Bont Hafren wedi cael eu gweld fel rhwystr economaidd a symbolaidd a oedd yn atal ffyniant Cymru yn y dyfodol.
Heddiw mae Llywodraeth y DU yn gwireddu鈥檙 addewid a wnaed i bobl Cymru gan y Prif Weinidog ym mis Mai ac mae wedi cadarnhau y bydd yn diddymu鈥檙 tollau ar gyfer pob cerbyd ddiwedd 2018.
Amcangyfrifir y byddai鈥檙 cyhoeddiad hwn yn rhoi hwb i economi De Cymru a fydd yn werth tua 拢100 miliwn y flwyddyn** a gallai鈥檙 modurwr cyfartalog arbed dros 拢1,600 y flwyddyn***.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae鈥檙 penderfyniad i ddiddymu tollau Pontydd Hafren flwyddyn nesaf yn anfon neges bwerus i fusnesau, cymudwyr a thwristiaid fel ei gilydd fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gryfhau economi Cymru.
Drwy ddiddymu鈥檙 tollau ar gyfer y 25 miliwn o siwrneiau blynyddol rhwng y ddwy wlad, byddwn yn cryfhau鈥檙 cysylltiadau rhwng cymunedau ac yn helpu i weddnewid rhagolygon economaidd ar y cyd De Cymru a De Orllewin Lloegr.
Mae arnaf eisiau sicrhau bod ymwelwyr a buddsoddwyr yn gwybod beth sydd gan Gymru i鈥檞 gynnig yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd. Yn anad dim, mae arnaf eisiau i鈥檙 byd wybod cystal lle ydym ni ar gyfer busnesau. Mae鈥檙 penderfyniad rydyn ni wedi鈥檌 wneud heddiw yn iawn ar gyfer ffyniant Cymru yn y dyfodol ac rwy鈥檔 si诺r y bydd diwydiant a modurwyr yn croesawu鈥檙 penderfyniad.
Pan ddaw鈥檙 pontydd dan berchnogaeth gyhoeddus, byddant yn cael eu rhedeg gan Highways England. Yn flaenorol roeddent yn cael eu rhedeg gan Severn River Crossing plc.
Dywedodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:
Bydd degau o filiynau o fodurwyr y flwyddyn yn elwa o ddiddymu鈥檙 tollau ar bontydd Hafren, gan arbed arian iddynt a thorri amseroedd siwrneiau. Bydd pobl sy鈥檔 defnyddio鈥檙 pontydd bob dydd yn arbed o leiaf 拢115.
Bydd diddymu鈥檙 ffioedd croesi hefyd yn sbardun i dwf economaidd busnesau yng Nghymru ac yn Ne Orllewin Lloegr a bydd yn cryfhau鈥檙 cysylltiad rhwng ein dwy wlad wych.
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cyhoeddi鈥檙 newyddion i gynulleidfa o gynrychiolwyr busnes o Dde Orllewin Lloegr a De Cymru mewn digwyddiad yn Owens Group yng Nghasnewydd.
Roedd Ian Gallagher, Pennaeth Polisi Cymdeithas Cludiant De Orllewin Lloegr a Chymru yn croesawu鈥檙 cyhoeddiad:
Mae鈥檙 cyhoeddiad heddiw yn newyddion gwych ar gyfer twf econom茂au Cymru a De Orllewin Lloegr, mae鈥檔 hwb go iawn i鈥檙 busnesau a鈥檙 cymudwyr hynny sy鈥檔 defnyddio鈥檙 pontydd bob dydd.
Mae diddymu鈥檙 tollau鈥檔 llwyr wedi bod yn safbwynt polisi tymor hir ar gyfer y Gymdeithas Gludiant, gydag aelodau ar y naill ochr a鈥檙 llall o鈥檙 pontydd yn wynebu rhai o鈥檙 tollau uchaf sy鈥檔 cael eu codi yn y DU, arian a fydd yn cael ei wario鈥檔 ddoethach ar wella sgiliau, recriwtio a phrynu cerbydau sy鈥檔 fwy gwyrdd.
Nodiadau i Olygyddion
** Llywodraeth Cymru: Effaith Tollau Pontydd Hafren ar Economi Cymru, 30 Mai 2012,
*** Ar sail car yn teithio drwy鈥檙 tollau bum niwrnod yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn
-
Cafodd Pont Hafren ei hadeiladu yn 1966 a chafodd ail groesfan ei chwblhau 30 mlynedd wedyn.
-
Agorwyd y Bont Hafren gyntaf ym mis Medi 1966, gan ddarparu cysylltiad uniongyrchol o draffordd yr M4 i Gymru, gyda tholl mewn lle i ddefnyddio鈥檙 bont er mwyn talu am gost y gwaith adeiladu. Roedd yn gyson weithredu dros ei chapasiti ac yn 1986 dywedodd y Llywodraeth bryd hynny y byddai ail bont yn cael ei hadeiladu.
-
Yn 1988 cyhoeddwyd y byddai tendrau鈥檔 cael eu gwahodd gan gonsortia preifat er mwyn ariannu, adeiladu a gweithredu鈥檙 ail bont a bod yn gyfrifol am weithredu鈥檙 bont gyntaf. Yn 1990 dyfarnwyd y consesiwn i Severn River Crossing PLC (鈥淪RC鈥�). Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Ebrill 1992 ac agorwyd yr ail bont ym mis Mehefin 1996.