Stori newyddion

Mae CPC gyrwyr a gwybodaeth tacograff bellach ar gael i鈥檞 gweld ar gyfrif Gyrwyr a cherbydau DVLA.

Gall gyrwyr proffesiynol nawr gweld eu gwybodaeth Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrwyr a thacograff ar y cyfrif Gyrwyr a cherbydau.

Yn dilyn lansiad llwyddiannus y cyfrif Gyrwyr a cherbydau, mae DVLA wedi cyhoeddi heddiw (Dydd Llun 16 Hydref) y bydd gyrwyr masnachol nawr yn gallu gweld eu Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrwyr (CPC) a gwybodaeth tacograff trwy ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth.

Lansiwyd y cyfrif Gyrwyr a cherbydau i beta cyhoeddus i ddechrau ym mis Awst ac mae鈥檔 galluogi modurwyr i gael mynediad hawdd at eu gwybodaeth gyrrwr a cherbyd mewn un lle.

Y gallu i weld gwybodaeth tacograff a CPC yw鈥檙 cyntaf o nifer o ychwanegiadau sydd wedi鈥檜 cynllunio ar gyfer y cyfrif ac mae DVLA yn gofyn i fodurwyr ei brofi a rhoi adborth i helpu i ddatblygu鈥檙 gwasanaeth. Yn yr iteriad cyntaf hwn o鈥檙 cyfrif gyrrwr a cherbydau, bydd angen pasbort y DU ar yrwyr i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr y DVLA:

Rydym wrth ein bodd i allu darparu gwybodaeth CPC a thacograff i yrwyr proffesiynol ar y cyfrif Gyrrwr a cherbydau. Ers i ni lansio鈥檙 cyfrif i beta cyhoeddus ym mis Awst rydym wedi gweithio i ychwanegu rhagor o wasanaethau ac rydym yn parhau i wneud hynny, ac rydym yn annog gyrwyr i brofi鈥檙 gwasanaeth a rhoi unrhyw adborth sydd ganddynt.

Gall modurwyr sydd 芒 phasbort y DU i wirio eu hunaniaeth ar-lein sefydlu cyfrif heddiw yn www.gov.uk/cyfrif-gyrwyr-cerbydau

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Hydref 2023