Datganiad i'r wasg

Darparu ar gyfer y Gymru Gymraeg: Llywodraeth y DU yn lansio canllawiau cyfathrebu dwyieithog

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cyhoeddi canllaw newydd mewn digwyddiad ar y cyd yn yr Eisteddfod gyda Comisiynydd y Gymraeg

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Mae Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns wedi lansio canllawiau newydd ar gyfer adrannau Llywodraeth y DU wrth gynllunio a darparu gweithgarwch cyfathrebu dwyieithog sydd wedi鈥檌 anelu at gynulleidfaoedd yng Nghymru. Cafodd y canllawiau, sef y cyntaf o鈥檜 math ar gyfer Llywodraeth y DU, eu cyhoeddi gan Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, mewn digwyddiad cydweithredol ar ddydd Llun [5 Awst] ym mhafiliwn S4C yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Mae鈥檙 canllawiau wedi cael eu cymeradwyo gan swyddfa鈥檙 Comisiynydd, yn ogystal 芒 Gwasanaeth Cyfathrebiadau鈥檙 Llywodraeth, y corff proffesiynol ar gyfer pobl sy鈥檔 gweithio mewn swyddi cyfathrebu ledled y llywodraeth. Mae argymhellion ac arferion gorau i鈥檞 gweld yma ynghylch creu cynnwys dwyieithog o ansawdd mewn meysydd sy鈥檔 cynnwys digwyddiadau, ymgynghoriadau ac ymgyrchoedd.

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg yn rhoi dyletswydd ar sefydliadau cyhoeddus i drin y Gymraeg a鈥檙 Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i鈥檙 cyhoedd yng Nghymru. mae 11 o adrannau Llywodraeth y DU yn gweithredu cynlluniau iaith Gymraeg eu hunain o ganlyniad i鈥檙 Ddeddf, gyda mwy yn dilyn yn fuan.

Bwriad y canllawiau newydd yw ategu鈥檙 cynlluniau Cymraeg adrannol hyn, gan ddarparu enghreifftiau ymarferol er mwyn sicrhau bod cyfathrebwyr yn gwella ansawdd yr allbwn dwyieithog ac yn galluogi dinasyddion a busnesau ym mhob rhan o Gymru i fynd ati鈥檔 well i ymgysylltu 芒 gwaith adrannau Llywodraeth y DU.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns:

Yng Nghymru, mae dyletswydd arnom ni i gynrychioli鈥檙 cynulleidfaoedd rydyn ni鈥檔 eu gwasanaethu. Mae鈥檙 Gymraeg yn un o ieithoedd y DU ac i lawer o bobl, mae鈥檔 rhan annatod o鈥檜 hunaniaeth, i鈥檙 rheini sy鈥檔 ei siarad yn rhugl ac i ddysgwyr hefyd.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gefnogi鈥檙 uchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd y canllawiau hyn yn helpu鈥檙 bobl sy鈥檔 gweithio ar draws y ddwy lywodraeth yng Nghymru ac yn Whitehall i鈥檔 helpu ni i gyflawni鈥檙 targed, drwy sicrhau bod yr iaith yn cael ei gweld a鈥檌 chlywed, ac yn bwysicaf oll, ei bod yn hygyrch.

Dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg:

Rydym yn croesawu y gwaith sydd wedi ei wneud ar y canllaw newydd hwn. Mae鈥檔 cynnwys enghreifftiau o arfer da ac argymhellion a鈥檙 gobaith ydy y bydd yn sicrhau fod y Gymraeg yn cael lle blaenllaw wrth gynllunio a chynnal digwyddiadau, ymgyrchoedd hyrwyddo a negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol yng Nghymru.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Awst 2019