Llywodraeth y DU n lansio llinell gynhyrchu tanwydd milwrol newydd, 'FireDragon'
Mae Gweinidog y DU Guto Bebb a Stuart Andrew wedi lansio'n swyddogol llinell gynhyrchu newydd sbon sef FireDragon, y tanwydd bio-ethanol solet cyntaf yn y byd

Defence Minister Guto Bebb opens new FireDragon production line at BCB International. Crown copyright.
Mae FireDragon, a gynhyrchwyd gan weithgynhyrchwyr cyfarpar goroesi BCB International Ltd yng Nghaerdydd sy鈥檔 164 mlwydd oed, yn danwydd arloesol newydd a ddefnyddir gan filwyr Prydain ar faes y gad i wresogi eu pecynnau dogn, lle nad yw cyfleusterau arlwyo rheolaidd yn bodoli. Mae bron i 8 miliwn o鈥檙 tabledi wedi鈥檜 dosbarthu i Fyddin Prydain erbyn hyn.
Yn wahanol i dabledi tanwydd amgen, nid yw FireDragon yn creu unrhyw fygdarthau gwenwynig niweidiol posibl. Mae鈥檔 llosgi鈥檔 l芒n, mae鈥檔 ddiwenwyn ac mae wedi cael ei greu o gynhwysion naturiol cynaliadwy.
Amcangyfrifir bod contract y Weinyddiaeth Amddiffyn gyda鈥檙 gwneuthurwr o Gymru werth 拢3.6 miliwn gyda鈥檙 cwmni鈥檔 cyflenwi stofiau a thanwydd i鈥檙 lluoedd arfog. Mae鈥檙 cytundeb yn atgyfnerthu ymrwymiad diwydiannol yr adran i gwmn茂au ledled y DU, yn ogystal 芒鈥檙 amgylchedd.
Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn Guto Bebb:
O jetiau ymladd i ddognau tanwydd, mae鈥檔 hanfodol bod gan ein milwyr y cyfarpar gorau posibl. Mae FireDragon yn helpu ein lluoedd arfog i elwa o ffynhonnell tanwydd glanach, saffach a mwy cynaliadwy.
Mae gan BCB International 164 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cyfarpar goroesi, a bydd y llinell gynhyrchu newydd hon yn sicrhau y gall y cwmni ateb y galw cynyddol a pharhau i ehangu ei weithlu yn y blynyddoedd i ddod.
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, Stuart Andrew:
Ers degawdau, mae BCB International wedi bod ar flaen y gad o ran creu cynnyrch arloesol newydd sy鈥檔 diogelu bywydau mewn amgylchiadau eithafol ledled y byd. P鈥檜n a yw unigolion hanner ffordd i fyny mynydd, yng nghanol yr anialwch, yn ddwfn yn y jyngl neu mewn moroedd garw, gall eu hymrwymiad i arloesedd olygu鈥檙 gwahaniaeth rhwng byw a marw.
Ac mae鈥檙 ymrwymiad hwn yn parhau mewn perthynas 芒鈥檌 weithlu a鈥檌 weithrediadau yng Nghymru. Mae creu鈥檙 llinell gynhyrchu newydd hon yn arwydd o hyder yn sgiliau ac arbenigedd ei weithlu ac yn hyder y cwmni i barhau i ddatblygu yn y dyfodol.
Bydd pymtheg o swyddi newydd yn cael eu creu o ganlyniad i鈥檙 llinell gynhyrchu sydd werth 拢750,000. Mae FireDragon yn enghraifft arall o鈥檙 berthynas rhwng y Gwasanaeth Amddiffyn a Chymru, lle maent yn gwario 拢300 ar gyfer pob aelod o鈥檙 boblogaeth, 拢20 yn fwy na鈥檙 llynedd. Mae鈥檙 gwaith sy鈥檔 cael ei wneud yng Nghymru yn cynnwys yr archeb unigol fwyaf yn y DU ar gyfer cerbyd wedi鈥檌 arfogi mewn 30 mlynedd: y cerbydau AJAX sy鈥檔 cael eu hadeiladu yn ffatri General Dynamics, Merthyr Tudful sy鈥檔 costio 拢4.5 biliwn.
Mewn teyrnged i Gymru a鈥檌 phrifddinas, enwodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Gavin Williamson un o wyth ffrigad rhyfel danfor arloesol newydd sbon yn HMS Caerdydd. Bydd yn gyfrifol am ddiogelu arfau ataliol y DU a chludwyr awyrennau鈥檙 Frenhines Elizabeth, a chynnig capasiti rhyfela gwrth-danfor heb ei hail.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr BCB International, Andrew Howell:
Rydym yn falch iawn o groesawu鈥檙 Gweinidog i鈥檔 cyfleuster tanwydd FireDragon. Mae FireDragon yn ddewis mwy diogel a glanach. Mae鈥檔 cael ei wneud o gynhwysion naturiol cynaliadwy, mae鈥檔 ddiwenwyn, mae鈥檔 llosgi鈥檔 l芒n, a gellir ei gynnau hyd yn oed pan fydd yn wlyb a gellir ei ddefnyddio i olchi dwylo os oes angen.
Byddin Prydain oedd y fyddin gyntaf i wneud y penderfyniad a newid i FireDragon. Mae鈥檙 symudiad hwn wedi annog Byddinoedd eraill i ystyried FireDragon fel tanwydd ar gyfer y dyfodol.
Nodyn i olygyddion:
- Mae BCB International Cyf (BCB) wedi鈥檌 gontractio i gyflenwi Gwresogyddion Dognau Gweithrediadol (ORH) 鈥� sy鈥檔 cynnwys stofiau a thanwydd cysylltiedig - i Luoedd Arfog y DU. Defnyddir ORH i ferwi d诺r ar gyfer paratoi diodydd poeth a chynhesu prydau bwyd yn y Pecynnau Dognau Gweithredol (ORP).
- Mae鈥檙 tanwydd yn cael ei gyflenwi 芒 phopty ysgafn y gellir ei weithredu gyda 3 bloc tanwydd FireDragon.
- Mae鈥檙 contract yn gontract sydd wedi鈥檌 etifeddu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, sydd bellach yn cael ei reoli gan Team Leidos fel rhan o鈥檙 contract gyda Logistics Commodities and Services (Transformation).
- Dyfarnwyd y contract ORH am bedair blynedd ar 6 Hydref 2015 ac mae ganddo werth amcangyfrifedig o 拢3.6 miliwn.