Mae David TC Davies wedi'i benodi'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Yn dilyn ei benodiad, mae cyn Is-weinidog Swyddfa Cymru, Mr Davies wedi addo gweithio'n ddiflino ar ran pobl Cymru.

New Welsh Secretary David TC Davies with the Prime Minister Rishi Sunak
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies:
Mae鈥檔 fraint ac yn anrhydedd cael fy mhenodi i swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Hoffwn ddiolch i鈥檙 Prif Weinidog am ei ymddiriedaeth ynof fi.
Mae gennym nawr Brif Weinidog newydd a Chabinet newydd sy鈥檔 benderfynol o ganolbwyntio ar gyflawni ar gyfer y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.
Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr 芒 fy nghydweithwyr yn San Steffan a gyda Llywodraeth Cymru ar y nod gyffredin o wella bywydau a chynyddu鈥檙 cyfleon sydd ar gael i holl bobl Cymru.
Mae Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn wynebu heriau sylweddol. Dwi鈥檔 deall bod costau byw a鈥檙 sefyllfa economaidd yn cael effaith sylweddol ar bawb yn y wlad. Fy mlaenoriaeth gyntaf yw helpu i sicrhau bod teuluoedd, busnesau ac unigolion ar draws Cymru鈥檔 cael help drwy鈥檙 gaeaf heriol hwn.
Ochr yn ochr 芒 hynny byddaf yn gweithio ar gynyddu鈥檙 buddsoddiad sydd ei angen ar Gymru i wella ffyniant i bawb.
Mae potensial enfawr i Gymru gyfrannu at sicrhau anghenion ynni tymor hir y DU. Mae ynni gwynt ar y m么r, ynni niwclear ac ynni adnewyddadwy i gyd yn feysydd lle gall Cymru chwarae rhan hanfodol.
Rydw i eisiau gweithio ar y cyd i sicrhau bod Cymru鈥檔 parhau i fod yn bartner cryf yn y Deyrnas Unedig ac yn parhau i elwa o鈥檔 lle yn yr Undeb.
Rwy鈥檔 addo bod yn gefnogwr brwdfrydig dros Gymru o amgylch bwrdd y Cabinet, gan wneud popeth yn fy ngallu i hyrwyddo buddiannau pobl Cymru.