David Lidington yn ymweld a Chymru a'r Alban i drafod busnes a Brexit.
Bydd David Lidington AS a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn yn ymweld 芒 Chymru a鈥檙 Alban yr wythnos hon lle bydd yn cyfarfod arweinwyr busnes a gwleidyddion i drafod yr economi a pharatoadau鈥檙 DU i adael yr UE

Bydd Mr Lidington yn mynd i drafodaethau bwrdd crwn gyda gwahanol sectorau busnes yng Nghaerdydd (dydd Iau, 1af Chwefror) a Chaeredin (dydd Gwener, 2il Chwefror). Bydd y Gweinidog sydd newydd ei benodi hefyd yn cynnal trafodaethau dwy ochr ynghylch Bil Ymadael yr UE gyda Phrif Weinidog Cymru a Dirprwy Brif Weinidog yr Alban ddydd Iau.
Gan siarad cyn iddo ymweld 芒 Chaerdydd a Chaeredin, dywedodd David Lidington:
Rwy鈥檔 edrych ymlaen yn arw at ymweld 芒 Chymru a鈥檙 Alban.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i greu Prydain lle mae ein heconomi gref yn arwain at fanteision i bob rhan o鈥檙 DU.
Rwy鈥檔 gwybod bod busnesau yng Nghymru yn edrych ymlaen at y cyfleoedd yn sgil ein cynlluniau i ddiddymu tollau Pontydd Hafren. Mae ein buddsoddiad mewn band eang a鈥檔 Bargeinion Dinesig yn y DU yn gwneud gwahaniaeth go iawn yng Nghymru a鈥檙 Alban. Rwyf eisiau clywed gan fusnesau yng Nghaerdydd a Chaeredin beth arall y gallwn ei wneud i helpu i sbarduno twf economaidd.
Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at barhau 芒鈥檙 trafodaethau gyda Carwyn Jones a John Swinney ynghylch sut y gallwn fwrw ati gyda Bil Ymadael yr UE yn ein sgyrsiau wyneb yn wyneb heddiw.
Ar y cyd ag Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, bydd David Lidington yn cynnal cyfarfod yng Nghaerdydd gyda gr诺p o gynrychiolwyr busnesau, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, a thrydydd sector y Panel Arbenigol sy鈥檔 cyfarfod yn rheolaidd yng Nghymru i gynghori ynghylch trefniadau gadael yr UE.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi sefydlu鈥檙 gr诺p i weithio gydag ef i sicrhau y bydd y broses o ymadael 芒鈥檙 UE yn mynd rhagddi鈥檔 drefnus ac yn ddidrafferth yng Nghymru.
Gan siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Llywodraeth y DU yn gadarn ei hymrwymiad i ymadael 芒鈥檙 UE mewn ffordd sy鈥檔 gweithio i bob rhan o鈥檙 wlad, ac i fanteisio ar bob cyfle ar hyd y daith i gryfhau ein hundeb werthfawr ymhellach.
Rydym wedi sicrhau bod Llywodraeth Cymru a phob sector yng Nghymru wedi cael cyfle i gyfrannu鈥檔 llawn ac yn adeiladol at broses Brexit, er mwyn i ni sicrhau gyda鈥檔 gilydd y fargen orau bosibl i bobl Cymru.
Dywedodd David Mundell, Ysgrifennydd yr Alban:
Rwy鈥檔 edrych ymlaen at gwrdd 芒 Llywodraeth yr Alban yn ddiweddarach heddiw. Bydd dychwelyd pwerau o鈥檙 UE yn arwain at gynnydd sylweddol ym mhwerau gwneud penderfyniadau Holyrood. Rydym wedi gwneud cynnydd da o ran ein trafodaethau gyda Llywodraeth yr Alban ynghylch fframweithiau cyffredin a byddwn yn parhau 芒鈥檙 trafodaethau hynny heddiw. Rydym eisiau cytuno ar ddiwygiad i Fil (Ymadael) 芒鈥檙 UE, y gallwn ei gyflwyno yn Nh欧鈥檙 Arglwyddi ar 么l hynny.
Bydd y Gweinidog hefyd yn cadeirio trafodaeth bwrdd crwn gyda chynrychiolwyr busnes o鈥檙 Alban yng Nghaeredin bore dydd Gwener.