Cam hollbwysig tuag at ddatganoli cyllidol
Mae Trysorlys y DU ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cwrdd 芒 Gweinidog Cyllid llywodraeth Cymru mewn cam pwysig tuag at well datganoli cyllidol.

Fel rhan o鈥檙 pecyn newydd o bwerau treth a benthyca sy鈥檔 cael eu datganoli drwy Fil Cymru, mae Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd yng Nghymru wedi cytuno i weithio gyda鈥檌 gilydd i ystyried a ddylai Gweinidogion Cymru allu dyroddi bondiau.
Cytunwyd ar fanylion y trefniant hwn yn ffurfiol yn y cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw (20 Hydref) rhwng David Gauke AS a Danny Alexander AS, Trysorlys Ei Mawrhydi; Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb AS a Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AC.
Dywedodd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys:
Roedd cyfarfod Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd heddiw yn garreg filltir bwysig yn setliad datganoli鈥檙 DU ac o ran gweithredu pwerau treth a benthyca newydd llywodraeth Cymru, fel yr argymhellir gan y Comisiwn Silk.
Rydyn ni wedi gwneud cynnydd pwysig tuag at gytuno ar ddull y gallai gweinidogion Cymru ei ddefnyddio i ddyroddi bondiau Cymreig, er mwyn cynyddu鈥檙 amrywiaeth o opsiynau benthyca sydd ganddyn nhw.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Rwy鈥檔 dymuno gweld setliad datganoli hirhoedlog a theg, sy鈥檔 gweithio i bobl Cymru.
Ynghyd 芒 Bil Cymru, mae cyfarfod cyntaf Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd heddiw鈥檔 tanlinellu, unwaith eto, ymrwymiad llywodraeth y DU i gyflwyno a chryfhau鈥檙 broses hon.
Byddaf yn dal ati i weithio gyda鈥檙 Trysorlys a Llywodraeth Cymru i sicrhau鈥檙 fargen orau i Gymru er mwyn rhoi hwb i swyddi, codi safonau byw a denu buddsoddiad.
Dywedodd David Gauke, Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys:
Mae鈥檙 llywodraeth hon yn benderfynol o gynyddu atebolrwydd ac ymreolaeth llywodraeth Cymru. Dyna pam y mae鈥檙 bil pwysig, Bil Cymru, yn datganoli trethi am y tro cyntaf, gan roi mwy o ymreolaeth i lywodraeth Cymru dros dreth tirlenwi, treth dir y dreth stamp a threth incwm.
Dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Cymru:
Wrth i ddatganoli fwrw ymlaen, gyda phwerau cyllidol newydd yn dod i Gymru, mae鈥檔 bwysig bod ein dwy lywodraeth yn cydweithio鈥檔 agos i sicrhau bod y system yn gweithio鈥檔 dda 鈥� er lles pobl yng Nghymru a ledled y DU.
Heddiw, fe wnaethon ni drafod amrediad eang o faterion ariannol, sy鈥檔 cael goblygiadau mawr i Gymru. Roeddwn i鈥檔 canolbwyntio ar ddatganoli ardrethi busnes yn llawn o fis Ebrill 2015. Roedden ni hefyd yn rhoi sylw i鈥檙 achos dros Gymru鈥檔 cael pwerau i ddyroddi bondiau, a鈥檙 angen i edrych ar ariannu teg unwaith eto.
Hefyd, trafododd Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd yng Nghymru ddatblygiad y bil pwysig, sef Bil Cymru, sydd newydd fod drwy gam pwyllgor yn Nh欧鈥檙 Arglwyddi. Mae鈥檙 Bil yn rhoi rhagor o bwerau benthyca newydd i lywodraeth Cymru a mwy o gyfrifoldeb dros dreth tirlenwi, treth dir y dreth stamp a threth incwm o 10c (yn amodol ar refferendwm) - y tro cyntaf i lywodraeth Cymru reoli pwerau treth.
Mae llywodraeth y DU a llywodraeth Cymru hefyd wedi cytuno i ailedrych ar y trefniadau ar gyfer ystyried cyllid cymharol yng ngoleuni鈥檙 pwerau sydd ym Mil Cymru, gan adeiladu ar broses y cydadolygiad y cytunwyd arni ym mis Hydref 2012, a gynhaliwyd cyn yr adolygiad o wariant yn 2013.