Cysylltiad newydd Crossrail yn dod 芒 Chymru a Dinas Llundain yn nes at ei gilydd
Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld 芒 phrosiect Crossrail yn Paddington

Terry Morgan of Crossrail and Secretary of State for Wales Stephen Crabb view tunnelling work at Paddington Station
Bydd cysylltiad Crossrail yn byrhau teithiau ar draws Llundain i lai nag 20 munud o 2018 ymlaen, gan helpu cymudwyr sy鈥檔 teithio i Gymru ac yn 么l drwy Paddington.
Mae tua 50,000 o dunelli o ddur a gyflenwyd gan wneuthurwr o Gymru, Celsa, wedi cael ei ddefnyddio wrth adeiladu鈥檙 prosiect, sy鈥檔 galluogi cymudwyr i gyrraedd y West End, y Ddinas a Canary Wharf heb orfod newid trenau.
Bydd taith nodweddiadol o鈥檙 orsaf newydd yn Paddington i Canary Wharf yn torri mwy na chwarter awr oddi ar yr amser teithio ar drenau tanddaearol ar hyn o bryd.
Bydd y cam hwn yn atgyfnerthu statws cynyddol Caerdydd fel canolfan gwasanaethau ariannol ac yn ei gwneud yn haws i deithwyr busnes gyrraedd Cymru wrth i鈥檙 wlad barhau i ddenu prosiectau buddsoddi mawr.
Cafodd Mr Crabb ei dywys o gwmpas y safle adeiladu 35 metr dan wyneb y ddaear i weld y gwaith sy鈥檔 parhau ar y strwythur tri llawr. Bydd yr orsaf newydd yn Paddington yn agor yn 2018, a disgwylir y bydd 25 miliwn o deithwyr yn mynd trwyddi bob blwyddyn.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Caerdydd yn tyfu鈥檔 sydyn fel un o ganolbwyntiau gwasanaethau ariannol Prydain, ac rydyn ni angen yr isadeiledd priodol i ategu鈥檙 twf anochel mewn teithio at ddibenion busnes.
Bydd Crossrail yn torri amserau teithio rhwng Caerdydd a Dinas Llundain yn sylweddol, gan wneud Cymru鈥檔 gyrchfan hyd yn oed yn fwy deniadol ar gyfer buddsoddiadau busnes.
Mae gan y prosiect gysylltiadau cryf 芒 Chymru, gyda miloedd o dunelli o ddur o Gymru yn rhan o鈥檙 gwaith adeiladu.
Dywedodd Terry Morgan, Cadeirydd Crossrail:
Bydd prosiect Crossrail yn trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus, gan ei gwneud yn gyflymach ac yn haws i bobl gyrraedd ardaloedd busnes pwysig Llundain. Bydd cymudwyr sy鈥檔 cyrraedd Paddington o Gymru yn elwa ar drenau newydd a gwasanaethau rheolaidd a fydd yn eu galluogi i deithio drwy鈥檙 brifddinas a thu hwnt heb orfod newid trenau.
Mae gwelliannau yn Paddington yn cynnwys Prosiect Integredig Paddington (PIP), prosiect cydweithio agos rhwng Transport for London, Network Rail a Crossrail Limited i greu gorsaf integredig gyda gwell profiad i deithwyr a chyfnewidiadau hawdd. Fel rhan o hyn, mae gorsaf llinell Hammersmith & City newydd wedi cael ei hadeiladu i leddfu gorlenwi, ynghyd 芒 mynedfa newydd i gerddwyr at lwybr tynnu鈥檙 gamlas a chyfleuster newydd i dacsis i鈥檙 dwyrain o鈥檙 orsaf bresennol.
Bydd prosiect Crossrail yn dod 芒 1.5 miliwn yn ychwanegol o bobl o fewn 45 munud i ardaloedd cyflogaeth, hamdden a busnes allweddol Llundain, ac yn annog adfywio yr holl ffordd ar draws y brifddinas. Bydd llinell Elizabeth yn cario dros 200 miliwn o deithwyr y flwyddyn, gan ychwanegu 10% at gapasiti rheilffyrdd canol Llundain.
Bydd y rheilffordd newydd yn cael ei gweithredu gan Transport for London a bydd yn cael ei hadnabod fel llinell Elizabeth pan fydd gwasanaethau鈥檔 cychwyn.
Bydd dewisiadau teithio newydd ar gael, gan gynnwys gwasanaethau uniongyrchol i ddwyrain Llundain, a thrwy newid tr锚n unwaith yn Farringdon gall teithwyr gyrraedd meysydd awyr Gatwick a Luton drwy ddefnyddio rhwydwaith Thameslink, a fydd yn cael ei uwchraddio a鈥檌 ehangu.
Diwedd
Gwybodaeth am Crossrail
-
Cyfanswm yr arian sydd ar gael i gyflawni prosiect Crossrail yw 拢14.8 biliwn. Bydd y llwybr yn mynd drwy 40 o orsafoedd ac yn rhedeg dros 100km o Reading a Heathrow yn y gorllewin, drwy dwneli newydd deuol 21km (13 milltir) dan ganol Llundain i Shenfield ac Abbey Wood yn y dwyrain.
-
Mae prosiect Crossrail yn cael ei gyflawni gan Crossrail Limited (CRL). Mae CRL yn is-gwmni sydd dan berchnogaeth gyflawn Transport for London. Noddir Crossrail ar y cyd gan yr Adran Drafnidiaeth a Transport for London.
-
Cewch ragor o wybodaeth am Crossrail yn