Datganiad i'r wasg

Uwchgynhadledd NATO yn creu gwaddol parhaol

Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb yn ysgrifennu i'r Western Mail ar etifeddiaeth Uwchgynhadledd NATO.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Yr wythnos hon, mae Cymru wedi bod yn gartref i Uwchgynhadledd NATO hanesyddol.

Yn ystod y dyddiau diwethaf, rydym wedi cadarnhau ein gallu i groesawu digwyddiadau rhyngwladol o鈥檙 radd flaenaf. Rydym wedi dangos ein croeso Cymreig unigryw i arweinyddion byd ac wedi anfon y neges glir a chroyw ein bod ar agor i fusnes.

Fel gwlad, dylem fod yn eithriadol o falch ein bod wedi derbyn yr her hon ac wedi darparu Uwchgynhadledd mor arwyddocaol a phwysig: y gynulleidfa ddiplomataidd fwyaf o arweinwyr byd yn y DU a鈥檙 mwyaf difrifol o bosibl ers ffurfio cynghrair NATO yn 1949.

Ar bob cam o鈥檙 ffordd rydym wedi dangos ysbryd a gallu entrepreneuraidd Cymru. Ni fyddai Uwchgynhadledd NATO wedi bod yn bosibl heb gryfder a chefnogaeth busnesau Cymru. Mae arweinwyr byd yn dychwelyd adref yn ymwybodol o鈥檙 sgiliau, y talent a鈥檙 arbenigedd sydd ar gael yng Nghymru ac ehangder ac ansawdd y cynnyrch a鈥檙 gwasanaethau rydym yn eu darparu. Mae miloedd o blith cyfryngau鈥檙 byd wedi gweld y wlad hardd hon ar ei gorau ac mae ein treftadaeth gyfoethog a鈥檔 tirweddau godidog wedi cael eu gweld ar draws y byd.

Fu ein proffil byd-eang erioed mor uchel.

Felly ydy, mae Uwchgynhadledd NATO wedi鈥檔 gosod ar y map rhyngwladol ac wedi rhoi hwb i鈥檔 heconomi. Rwy鈥檔 benderfynol o adeiladu ar hyn. Rhaid i waddol Uwchgynhadledd NATO gynnwys hyrwyddo potensial Cymru fel man gwych i fuddsoddi ynddi a hefyd ar gyfer busnes, twristiaeth ac addysg.

Dyna pam y mae Uwchgynhadledd Fuddsoddi鈥檙 DU sy鈥檔 dod i Gymru ar 21 Tachwedd mor bwysig. Mae Cymru yn gartref i rai o gwmn茂au rhyngwladol mwyaf llwyddiannus y byd. Bydd yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi yn siop ffenestr i鈥檙 busnesau hynny er mwyn annog darpar fuddsoddwyr newydd hefyd i fuddsoddi yng Nghymru. Bydd y gynhadledd hon yn dangos pam y mae Cymru yn wlad mor wych i fuddsoddi ynddi. Bydd yn canolbwyntio鈥檔 benodol ar y sector uwch dechnoleg, maes lle y mae gennym enw da am ragoriaeth.

Byddwn yn gwahodd uwch swyddogion o gwmn茂au rhyngwladol i鈥檙 Uwchgynhadledd Fuddsoddi er mwyn i fusnesau yng Nghymru gael cyfle uniongyrchol i ymchwilio i gyfleoedd allforio newydd. Mae Cymru yn wlad uchelgeisiol gydag economi ddeinamig, sy鈥檔 gallu diwallu anghenion y gymuned fusnes ryngwladol. Mae gennym darged i ddyblu allforion y DU erbyn 2020 a bydd yr Uwchgynhadledd yn dod 芒 chyfleoedd newydd a fydd yn galluogi busnesau Cymru i鈥檔 helpu i gyrraedd y targed hwnnw.

Rwyf wedi datgan bob amser y dylai Uwchgynhadledd NATO ddarparu gwaddol economaidd parhaol i Gymru. Yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gontract newydd gwerth 拢3.5 biliwn i gyflenwi cerbydau newydd i Fyddin Prydain a fydd yn cael eu dylunio gan General Dynamics UK yn ne Cymru. Bydd y contract yn cynnal 1,300 o swyddi peirianyddol yng nghadwyn gyflenwi鈥檙 cerbyd blaengar hwn ac ar draws y DU mewn diwydiannau amddiffyn allweddol. Drwy ddenu buddsoddiadau newydd a chynyddu allforion o Gymru, bydd yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi鈥檔 helpu i sicrhau economi gryfach i Gymru.

Yfory, bydd y digwyddiadau a oedd yn gysylltiedig ag Uwchgynhadledd NATO yn dod i ben gyda chyfle i鈥檙 cyhoedd gwrdd 芒鈥檙 lluoedd arfog ym Mae Caerdydd. Bydd yn gyfle i ystyried y gwaith hollbwysig y mae鈥檔 Lluoedd Arfog yn ei wneud, a鈥檜 haberth, a chydnabod yn ddiolchgar y ddyled aruthrol sydd arnon ni iddynt i gyd. Mae鈥檔 ffordd briodol o derfynu wythnos hanesyddol.

Yr haf hwn, rydym wedi dangos sut y gall Cymru ddod ynghyd i ddarparu鈥檙 digwyddiad unwaith-mewn-oes hwn. Mae wedi鈥檔 hatgoffa ni, ac wedi dangos i鈥檙 byd, beth sy鈥檔 gwneud Cymru yn wych. Byddwn yn gweithio gyda鈥檔 partneriaid i wneud yn si诺r fod gwaddol yr

Uwchgynhadledd yn para, bod mwy o swyddi鈥檔 cael eu creu, y ceir mwy o fewnfuddsoddi a bod ein gwlad uchelgeisiol yn aros ar y llwyfan byd-eang.

Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Medi 2014