Stori newyddion

Trefniadau鈥檙 llysoedd a鈥檙 tribiwnlysoedd ar ddiwrnod Angladd y Frenhines

Yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines, trefniadau鈥檙 llysoedd a鈥檙 tribiwnlysoedd ar ddiwrnod yr Angladd a mynediad at lyfrau cydymdeimlo.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 Truss Conservative government

Ni fydd y rhan fwyaf o wrandawiadau yn cael eu cynnal ddydd Llun y 19eg o Fedi 2022, yn dilyn y cyhoeddiad mai ar y diwrnod hwnnw y cynhelir angladd Ei Mawrhydi y Frenhines ac y bydd yn ddiwrnod o wyliau cenedlaethol.

Fodd bynnag, fel y cytunwyd eisoes, bydd gwrandawiadau brys, gan gynnwys achosion lle cedwir diffynnydd yn y ddalfa dros nos, yn dal i gael eu cynnal mewn ymgynghoriad 芒鈥檙 farnwriaeth. Lle bo modd, ac mewn ymgynghoriad 芒鈥檙 aelodau perthnasol o鈥檙 farnwriaeth, byddwn yn ceisio rhestru鈥檙 gwrandawiadau hynny bob ochr i鈥檙 angladd.

Byddwn yn gohirio achosion lle mae diffynyddion wedi cael eu cadw yn y ddalfa i ymddangos yn y llys ar ddiwrnod yr angladd tan y dyddiad nesaf sydd ar gael. Byddwn yn cysylltu 芒 phob parti ac yn eu hysbysu am ddyddiad a lleoliad newydd y gwrandawiad. Bydd ein holl safleoedd, oddieithr lle cynhelir gwrandawiadau brys, ar gau i鈥檙 cyhoedd fel arwydd o barch, yn cynnwys y Llysoedd Barn Brenhinol, Llysoedd y Goron, y Llysoedd Sirol, y Llysoedd Sifil a Theulu, y llysoedd ynadon, y tribiwnlysoedd, y canolfannau busnes a鈥檙 canolfannau gwasanaeth.

Gall holl ddefnyddwyr .

Rhagor o wybodaeth

Gweler y canllawiau i鈥檙 cyhoedd a busnesau ar y cyfnod Alaru Cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines.

Dod o hyd i鈥檙 .

Defnyddiwch ein i ddod o hyd i lys neu dribiwnlys yng Nghymru a Lloegr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 Medi 2022 show all updates
  1. Clarification on court closures on Monday 19 September.

  2. First published.