Stori newyddion

Profi鈥檙 Platfform Cyffredin yn y llysoedd troseddol

Bydd system rheoli achosion digidol newydd yn cael ei phrofi gan gyfres o lysoedd ynadon a Llysoedd y Goron o fis Medi 2020 ymlaen.

Photograph of a courtroom

Mae鈥檙 Platfform Cyffredin yn caniat谩u i bawb sy鈥檔 ymwneud ag achos troseddol gael mynediad at wybodaeth berthnasol, gan gynnwys y farnwriaeth, cyfreithwyr a bargyfreithwyr, Gwasanaeth Erlyn y Goron a staff y llys.

Bydd pob llys sydd wedi鈥檌 ddewis ar draws Cymru a Lloegr i brofi鈥檙 system gyntaf yn gwneud hynny cyn i鈥檙 system gael ei chyflwyno i bob llys troseddol dros gyfnod o 12 mis. Derby fydd y llys cyntaf i brofi鈥檙 system ac yna bydd y llysoedd eraill sy鈥檔 rhan o鈥檙 fenter yn ei phrofi yn eu tro.

Dyma鈥檙 llysoedd troseddol fydd yn treialu system y Platfform Cyffredin

  • Llys Ynadon a Llys y Goron Derby, a Llys Ynadon Chesterfield
  • Llys Ynadon a Llys y Goron Bryste
  • Uned Ganolog Northumbria sy鈥檔 cynnwys: Llys Ynadon Gogledd Tyneside, Llys Ynadon Canol a De ddwyrain Northumberland, a Llys y Goron Newcastle
  • Llys Ynadon Warrington a Llys y Goron Caer
  • Llys Ynadon Guildford/Llys Ynadon Staines a Llys y Goron Guildford
  • Llys Ynadon a Llys y Goron Croydon
  • Llys Ynadon Llanelli a Llys y Goron Abertawe

Beth yw manteision y system hon?

Bydd modd i bawb sy鈥檔 ymwneud ag achos weld yn yr holl wybodaeth berthnasol yn ddigidol, megis y cyhuddiadau, y dystiolaeth a鈥檙 canlyniadau. Caiff mynediad at wahanol fath o wybodaeth ei reoli鈥檔 ddiogel i sicrhau mai dim ond y deunydd perthnasol y bydd pob parti yn ei weld.

Mae鈥檙 Platfform Cyffredin yn lleihau鈥檙 angen i ymdrin 芒 dogfennau 芒 llaw yn ogystal 芒鈥檙 nifer o ddogfennau papur a gynhyrchir. Mae hefyd yn cael gwared 芒鈥檙 angen i gop茂o gwybodaeth o un platfform digidol i un arall yn ystod camau gwahanol achos, gan wella鈥檙 ffordd y mae modd cael mynediad at achosion troseddol, y ffordd y maent yn cael eu rheoli a鈥檙 ffordd y maent yn cael eu prosesu.

Ym mhen hir a hwyr ni fyddwn angen y rhaglenni presennol sydd gennym: Libra, XHIBIT, Bench, Court Store a Digital Mark-Up oherwydd y bydd gennym un system fydd yn gwneud y cyfan.

Meddai Amanda Lowndes, Pennaeth Gwaith Troseddol Canolbarth Lloegr:

Rydym yn hynod o falch ein bod wedi cael ein dewis i fod y llys cyntaf i brofi system ddigidol y Platfform Cyffredin; mae鈥檔 brawf o鈥檙 hyder sydd ynom y gallwn wynebu鈥檙 her hon yn llwyddiannus yn yr amseroedd ansicr hyn. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn ymwneud 芒鈥檙 gwaith hwn am eu gwaith caled a鈥檜 hymrwymiad i gefnogi鈥檙 gwaith o brofi鈥檙 platfform digidol newydd hwn.

Drwy roi鈥檙 holl wybodaeth am achos troseddol mewn un lle, ac ar ffurf ddigidol, rwy鈥檔 hyderus y bydd y Platfform Cyffredin yn ein helpu ni i gefnogi pob sefydliad o fewn y system gyfiawnder troseddol.

Bydd yn ein helpu ni i weithio鈥檔 fwy effeithiol gyda鈥檔 gilydd, bydd yn lleihau oediadau a bydd yn haws i ni rannu tystiolaeth. Rydym yn awyddus i weithio gyda鈥檔 barnwyr ac eraill i brofi鈥檙 cynnyrch digidol hwn yn ein llys.

Mae staff y llys, y farnwriaeth a鈥檙 partneriaid cyfiawnder troseddol yn y lleoliad cyntaf eisoes yn cael hyfforddiant a chefnogaeth.

Unwaith y bydd y cam hwn o brofi鈥檙 system wedi鈥檌 gwblhau, bydd wedyn yn cael ei chyflwyno鈥檔 raddol ym mhob llys troseddol yng Nghymru a Lloegr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Hydref 2020 show all updates
  1. Updated list of Criminal Coruts trialling the common platform.

  2. First published.