Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn llofnodi cytundeb pwysig ar gyfer Canolfan y Llywodraeth yng Nghaerdydd

Mae Llywodraeth y DU wedi dangos ei hymrwymiad heddiw i sicrhau twf ledled y DU drwy lofnodi prydles 25 mlynedd yn natblygiad Sgw芒r Canolog, Caerdydd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Cardiff

Daw鈥檙 cyhoeddiad hwn wythnosau ar 么l llofnodi prydles newydd yng Nghaeredin, sy鈥檔 brawf pellach o ymrwymiad Llywodraeth y DU i adeiladu Gwasanaeth Sifil cryf y tu allan i Lundain.

Mae鈥檙 cytundeb hwn yn rhan o Raglen Canolfannau鈥檙 Llywodraeth a fydd yn gweddnewid y ffordd mae鈥檙 Gwasanaeth Sifil yn gweithio drwy ddarparu lle i nifer o adrannau llywodraeth mewn un adeilad, ar draws y wlad. Bydd y rhaglen yn arbed dros biliwn o bunnoedd i鈥檙 trethdalwr, yn rhyddhau tir ar gyfer tai ac yn lleihau adeiladau鈥檙 llywodraeth o 800 i oddeutu 200 erbyn 2022.

Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i brydlesu 265,000 troedfedd sgw芒r yn y datblygiad newydd sbon yng nghanol dinas Caerdydd, a fydd yn gartref i dros 4,000 o weision cyhoeddus o nifer o wahanol adrannau o Lywodraeth y DU. Cyllid a Thollau EM fydd y prif feddiannydd a bydd Sgw芒r Canolog yn dod yn un o鈥檜 canolfannau rhanbarthol. Bydd y swyddfa鈥檔 barod i weision sifil ei defnyddio erbyn 2020.

Y cytundeb mawr hwn yw鈥檙 enghraifft fwyaf erioed o rag-osod swyddfa yng Nghaerdydd ac mae鈥檔 gyfle adfywio anferth i brifddinas Cymru. Yn ogystal 芒 hyn, drwy gyfuno gofod swyddfa yng Nghymru bydd yn arbed miliynau o bunnoedd i鈥檙 trethdalwr.

Drwy ddod 芒 nifer o wahanol adrannau i weithio ochr yn ochr mewn un adeilad, bydd Rhaglen Canolfannau鈥檙 Llywodraeth yn annog mwy o gydweithio a chynhyrchiant yn y Gwasanaeth Sifil. Bydd pob canolfan yn caniat谩u Gweithio Clyfar, a fydd yn galluogi gweision sifil i weithio鈥檔 fwy hyblyg a chynhyrchiol. Bydd hyn yn helpu i ddenu a chadw鈥檙 gweithwyr mwyaf talentog sydd eu hangen er mwyn darparu鈥檙 gwasanaeth gorau posibl i鈥檙 cyhoedd.

Bydd y Ganolfan hefyd, yn bwysig, yn galluogi Llywodraeth y DU i gael presenoldeb cryf a chydlynol yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog dros Wytnwch ac Effeithlonrwydd y Llywodraeth, Caroline Nokes:

Mae鈥檙 Llywodraeth hon yn ymrwymedig i ddarparu鈥檙 gwasanaethau cyhoeddus o鈥檙 safon uchaf ym mhob cwr o鈥檙 DU, ac mae鈥檙 cyhoeddiad heddiw yn gam pwysig tuag at gyflawni hynny.

Mae鈥檙 brydles newydd hon yn newyddion gwych i Gaerdydd, a bydd yn sicrhau amrywiaeth o fanteision i bobl yng Nghaerdydd o ofod a thrafnidiaeth gyhoeddus well i fynediad gwell i Stadiwm Principality o鈥檙 orsaf.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:

Mae gan Lywodraeth y DU 么l troed mawr yng Nghymru yn barod a chredaf fod lleoli nifer o adrannau mewn un swyddfa yng nghanol Caerdydd yn dangos yr effaith y gallwn ei chael drwy gydweithio鈥檔 ehangach. Bydd hyn nid yn unig yn arwain at fwy o integreiddio rhwng adrannau ac arbed costau amlwg i鈥檙 trethdalwr, ond bydd hefyd yn cyfleu neges glir fod Llywodraeth y DU yn weladwy, yn hygyrch ac yn helpu i wella bywydau pobl yng Nghymru鈥�.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Awst 2017